Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Griff-Waunfach » Sul 16 Maw 2008 12:14 pm

Llywelyn Foel a ddywedodd:O Ryfedd Fyd!!!

Mae hi'n rhatach cael arwyddion uniaith Saesneg - dyna oedd yr hen ddadl abswrd. A sianel Gymraeg yn wastraff arian!

Beth, frawd, ydy gwerth dy Gymreictod?

Rhad arnat! Mi glywa i swn 30 darn arian yn dy boced...



Oes gen ti bassport? Neu trwydded yrru? Pwy felly sy' wedi derbyn y 30 darn arian nawr? Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn golygu bod rhaid derbyn ambell i beth gyda'r air DU / UK arno. Nid yw'r ffaith fy mod i gyda trwydded yrru yn golygu fy mod i yn llai o Gymro. Hefyd nid yw'r ffaith fy mod i yn talu trwydded teledu ar gyfer y British Broadcasting Corporation yn golygu bod fy nghenedlogrwydd i yn llai. Ynghyd a hyn mae'r ffaith fy mod i yn derbyn cyflog gyda pen y frenhines arno na ychwaith fy mod i yn talu am bethau gyda "coat of arms" y brenhiniaeth arno yn golygu fy mod i wedi gwerthu allan.

Heb ymwrthod a chymdeithas yn gyfangwbwl tan bod Cymru yn annibynnol byddet ti yn brandio unrhyw un yn fradwr?!

Tyfa lan, derbyna'r sefyllfa, a gwna rhywbeth mwy adeiladol i newid y sefyllfa!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 16 Maw 2008 4:46 pm

'Does 'na ddim lot o bwynt mewn malu awyr fel hyn. Fodd bynnag, dyma ffaith braidd yn ddiddorol i chi, rw i'n ffansio. Mae'r fel-petai deyrnas fel-petai unedig yn cynnwys Ynys Manaw. Digwydd fod gen i ddiddordeb mewn mynd yno am wyliau'r haf eleni. Felly, bant a fi i chwilio am hysbysrwydd ar y we. A beth ydy'r prif YRL yno? Dyma fo:-

http://www.gov.im

Dyna ran o'r DU yn defnyddio rhywbeth ar wahan i ".uk". Felly, os bydd hyn yn bosib gan Ynys Manaw, dylai fod yn bosib i Loegr (.eg?), i Gymru (.cm?), i'r Alban (.sc?) ac ymlaen.

Felly, mewn dadl efo'r awdurdodau, cwotiwch enghraifft Ynys Manaw.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 16 Maw 2008 7:17 pm

Cawslyd a ddywedodd:Odd hwnna'n comeback shit, Llywelyn.


Wel wnes i chwerthin! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 16 Maw 2008 7:25 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:Oes gen ti bassport? Neu trwydded yrru? Pwy felly sy' wedi derbyn y 30 darn arian nawr? Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn golygu bod rhaid derbyn ambell i beth gyda'r air DU / UK arno. Nid yw'r ffaith fy mod i gyda trwydded yrru yn golygu fy mod i yn llai o Gymro. Hefyd nid yw'r ffaith fy mod i yn talu trwydded teledu ar gyfer y British Broadcasting Corporation yn golygu bod fy nghenedlogrwydd i yn llai. Ynghyd a hyn mae'r ffaith fy mod i yn derbyn cyflog gyda pen y frenhines arno na ychwaith fy mod i yn talu am bethau gyda "coat of arms" y brenhiniaeth arno yn golygu fy mod i wedi gwerthu allan.

Heb ymwrthod a chymdeithas yn gyfangwbwl tan bod Cymru yn annibynnol byddet ti yn brandio unrhyw un yn fradwr?!

Tyfa lan, derbyna'r sefyllfa, a gwna rhywbeth mwy adeiladol i newid y sefyllfa!


Dyw pasbort, trwydded yrru ayb ddim yn enghreifftiau da iawn, gan nad oes dewis arall. Mae modd dewis terfyn gwahanol i .co.uk jest ei fod yn costio bach yn fwy. Pe byddai modd i ti ddewis pasbort UK, neu un rhyngwladol, ond bod yr un rhyngwladol yn costio bach yn fwy pa un fydde ti'n ei ddewis?

Dwi yn gweld y ffaith bod 'cenedlaetholwyr' yn defnyddio .co.uk am ei fod tamed bach yn rhatach yn rhyfedd - http://www.eisteddfod.org.uk :? - ond er hyn, mae yna bethe pwysicach i boeni amdanynt, a byddai'n well defnyddio egni yn ymgyrchu dros .cym ! Dwi'n siwr bydd y cwbwl lot yn prynu parth .cym wedyn 8)

Mae'r grwp ymgyrchu dotCYM yn gwneud gwaith ardderchog gyda llaw. Y newyddion diweddaraf yma...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sul 16 Maw 2008 11:47 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Cawslyd a ddywedodd:Odd hwnna'n comeback shit, Llywelyn.


Wel wnes i chwerthin! :lol:


Odd hwnna'n comeback shit, Hedd Gwynfor.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 02 Ebr 2008 10:02 am

Ar fater bach yn wahanol, oes unrhywun yn defnyddio cyfeiriad ebost gan rhain? http://www.cym.ro/

Dim ond ail gyfeirio ebost at eich cyfrif yahoo/Gmail/hotmail chi ma nhw'n gynnig, ond mae'n syniad reit ddiddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan mabon-gwent » Mer 02 Ebr 2008 2:19 pm

Ateb hawdd yw newid enw'r gwlad i "Comru", yna gallen ni defnyddio .com (sdim angen dotcym ac ati). Hefyd, bydd y "dirty Commies" fel fi yn cael rhyw effaith ar Gomru Cyfoes. Lets keep the red flag flying.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Raoul » Iau 03 Ebr 2008 1:41 am

Dio'n bosib iwsho cod unrhyw wlad yn y byd? Bysa'r '.cy' sydd bia Cyprus yn eidial bysa.

Sna'm pwynt osgoi '.co.uk' chwaith. Pa effaith 'di hynny am gael ar unrhywbeth? Nid yw annibyniaeth i Gymru, neu hydynoed gobaith '.cym' o gael ei greu, yn hinjo ar fusnesau Cymraeg yn gwneud ryw 'statement' gwan, dibwys sydd am gostio arian iddynt. Ma'n atgoffa fi o 'radical ffeminists' yn son am 'herstory'. Wast o ffacin amsar.
"Order some golf shoes," I whispered. "Otherwise, we'll never get out of this place alive..."
Rhithffurf defnyddiwr
Raoul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 12 Rhag 2007 11:34 pm

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan r w jones » Sul 18 Mai 2008 4:46 pm

Ych!

Fedrwn i byth roi UK yn fy nghyfeiriad fell y fedrwn i byth ei roi mewn ebost.

Rhagrithwyr yw'r rheiny sy'n ei ddefnyddio.

Ewch am .net ayb
r w jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 14 Chw 2006 10:06 am

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron