Llywelyn Foel a ddywedodd:O Ryfedd Fyd!!!
Mae hi'n rhatach cael arwyddion uniaith Saesneg - dyna oedd yr hen ddadl abswrd. A sianel Gymraeg yn wastraff arian!
Beth, frawd, ydy gwerth dy Gymreictod?
Rhad arnat! Mi glywa i swn 30 darn arian yn dy boced...
Oes gen ti bassport? Neu trwydded yrru? Pwy felly sy' wedi derbyn y 30 darn arian nawr? Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn golygu bod rhaid derbyn ambell i beth gyda'r air DU / UK arno. Nid yw'r ffaith fy mod i gyda trwydded yrru yn golygu fy mod i yn llai o Gymro. Hefyd nid yw'r ffaith fy mod i yn talu trwydded teledu ar gyfer y British Broadcasting Corporation yn golygu bod fy nghenedlogrwydd i yn llai. Ynghyd a hyn mae'r ffaith fy mod i yn derbyn cyflog gyda pen y frenhines arno na ychwaith fy mod i yn talu am bethau gyda "coat of arms" y brenhiniaeth arno yn golygu fy mod i wedi gwerthu allan.
Heb ymwrthod a chymdeithas yn gyfangwbwl tan bod Cymru yn annibynnol byddet ti yn brandio unrhyw un yn fradwr?!
Tyfa lan, derbyna'r sefyllfa, a gwna rhywbeth mwy adeiladol i newid y sefyllfa!