Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Beti » Mer 27 Chw 2008 10:47 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ond ma rheina efo tarddiad Saesneg beth bynnag! Hyd nes bod .cym ar gael sna'm llawer o bwynt mynd yn nyts am hyn. Faswn i'm isio .uk yn fy enw parth personol, ond dwi'n rhan o brifysgol felly sgen i'm dewis efo nghyfeiriad gwaith.

Dio'm yn syniad gwell rhoi'r egni ma mewn i lythyru'r llywodraeth am barth .cym dwch?


An onion!
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 27 Chw 2008 11:01 am

wali huws a ddywedodd:Mae na hyd yn oed papurau bro Cymraeg yn defnyddio'r erchyll UK:

cbowen@anturteifi.org.uk

ydy ebost Y Garthen.

Ydech chi'n ei ddefnyddio ar eich pen-llythyrau a'ch papur bro hefyd?

Da iawn Llywelyn.


Ma hwn braidd yn anheg... cyfeiriad Antur Teifi yw hwn (camni sy'n annog datblygu cymunedol ac economaidd yng ngorllewin Cymru). A ma Antur Teifi yn gyfrifol am hybu Papurau Bro trwy eu prosiect Papurau Bro (siwr a fod dyna pam mae'r cyfeiriad .co.uk yn cael ei defnyddio yma, gan nad oedd gan lawer o'r papurau bro cyfeiriadau e-byst).

Dwedwch Beth byddwch chi yn ei defnyddio yn lle .co.uk .com neu .org?
Tybead sawl un ohonnoch sy'n defnyddio cyfeiriadau ebyst sy'n gorffen gyda .co.uk?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 27 Chw 2008 11:19 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ond ma rheina efo tarddiad Saesneg beth bynnag! Hyd nes bod .cym ar gael sna'm llawer o bwynt mynd yn nyts am hyn. Faswn i'm isio .uk yn fy enw parth personol, ond dwi'n rhan o brifysgol felly sgen i'm dewis efo nghyfeiriad gwaith.

Dio'm yn syniad gwell rhoi'r egni ma mewn i lythyru'r llywodraeth am barth .cym dwch?


Cytuno'm llwyr gyda ti Nwdls. http://www.dotcym.org/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Rhods » Iau 28 Chw 2008 1:31 am

OTT?! Bach yn harsh dwi'n meddwl......
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 28 Chw 2008 9:32 am

Gawn ni greu seiat 'Bin Loonies Rooney'? Aelodaeth hyd yn hyn: Rooney a Llywelyn Foel.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Gowpi » Iau 28 Chw 2008 2:34 pm

wali huws a ddywedodd:Mae na hyd yn oed papurau bro Cymraeg yn defnyddio'r erchyll UK:

cbowen@anturteifi.org.uk

Rhag ofn bod Y Garthen am dderbyn LLWYTH o e-byst o erthyglau i'w cynnwys wedi'u hala i'r cyfeiriad uchod, gwell i mi nawr roi cywiriad. Mae cbowen wedi priodi a newid ei hail enw, ac wedi gorffen yn y swydd a'r papurau bro ers dros 4 mlynedd. Os am hala stwff i'r Garthen yna'r cyfeiriad yw heledd@tresaith.net (hapus? .net - wy am ddechre ymgyrch .rhwyd)
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sul 02 Maw 2008 7:57 pm

'Dwedwch Beth byddwch chi yn ei defnyddio yn lle .co.uk .com neu .org?'
medd un ohonoch (uchod).

Yr ateb: yn hytach na derbyn yn wasaidd ein bod yn rhan o'r United Kingdom, mil gwell gen i fyddai derbyn unrhyw gyfieithiad e.e. cwmni (.com) neu rhwydwaith (.org)... UNRHYWBETH ar wahan i dderbyn (yn anghywir) fy mod yn rhan o'r U.K. Ych. Tydw i ddim. Cysyniad ffug y goresgynwr ydy'r U.K. Mi alla i dderbyn .net, .info, .ro... dot unrhyw beth arall, ond yn sicr, yn gwbwl sicr, fy mrawd, nid UNITED KINGDOM.

Sut fedr unrhyw gwmni megis y rhai a enwyd uchod (pobol gyda than yn eu boliau!!!) gyfiawnhau roi UNITED KINGDOM ar eu penllythyr? Fedra nhw ddim. I rest my case.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sul 02 Maw 2008 8:01 pm

Gwahanglwyf Dros Grist: wnei di gadw dy sylwadau yn rhesymegol os gweli di'n dda.

Darllena reolau maes-e cyn danfon unrhyw ymateb arall os gweli di'n dda.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan krustysnaks » Sul 02 Maw 2008 9:08 pm

Llywelyn Foel - fasen i'n dweud bod gan Gwahanglwyf Dros Grist well grap ar y rheolau na ti gan ei fod wedi anfon 7,769 yn fwy o negeseuon i maes-e na ti.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sul 02 Maw 2008 10:18 pm

Pe bai ganddo unrhyw grap ar y rheolau, yna ni fydda'n dweud: 'Gawn ni greu seiat 'Bin Loonies Rooney'? Aelodaeth hyd yn hyn: Rooney a Llywelyn Foel.'

1. Doedd Rooney ddim wedi cyfranu at drafodaeth y llinyn yma
2. Ymosod ar unigolion yw hyn, ac nid ymosod ar y ddadl.
3. Ymddengys i mi fod pawb sydd o blaid defnyddio 'UNITED KINGDOM' fel rhan o'u ebost yn gwneud hynny gan fod eu ebost nhw eu hunain yn cynnwys y cyfrwng erchyll .uk

Newidiwch eich ebost. Brwydrwch dros .cym ac yn y cyfamser... defnyddiwch .com, .info, .web .... neu unrhywbeth ond NID y gwasaidd UNITED KINGDOM.

ON A sut wyddost, gyfaill, nad wyf finna, wedi danfon 657,433 cyfraniad i maes-e dros y blynyddoedd!
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron