Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Llun 25 Chw 2008 11:20 pm

Trist yw gweld cymaint o gwmniau'n defnyddio'r gair UK (United Kingdom) fel rhan o'u hebost ac URL.

Fasa nhw ddim yn breuddwydio ei roi ar ddiwedd eu cyfeiriad ar eu penllythyr.

Dyma ddechrau rhestr o'r rhai o'r bradwyr diegwyddor hynny sydd angen plu-a-thar drostynt, ben a sowdl: neu waeth.

Acen: post@acen.co.uk

Ffilmiau'r Nant: nant@nant.co.uk

Carreg Gwalch: llyfrau@carreg-gwalch.co.uk

Siop Ty Tawe: sioptytawe@hotmail.co.uk

Mici Plwm d/o Barcud Derwen: mici@miciplwm.co.uk

Wyddoch chi am chwaneg?

Telynau Teifi cyf. enquiries@telynauteifi.co.uk
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Cawslyd » Llun 25 Chw 2008 11:25 pm

Bradwyr diegwyddor?!?! 'chydig yn llym ella? Ma teitl un o ddramau Shakespeare yn dod i'r meddwl... much ado about nothing....
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Llun 25 Chw 2008 11:29 pm

Dwi newydd ffindio Cyfeirlyfr y Lolfa - mae hwnnw'n llawn ohonyn nhw!
http://www.ylolfa.com/cyfeiriadur.php?cyfadran=mentrau

e.e. Menter Cwm Gwendraeth – Llanelli ymholiadau@mentercwmgwendraeth.org.uk
Menter Iaith Sir Ddinbych ymholiadau@menteriaithdinbych.co.uk

Paradocsaidd, trist, feri sad.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan 7ennyn » Llun 25 Chw 2008 11:38 pm

Be am y rhai hynny sy'n defnyddio parth americanaidd (.com, .org a.y.y.b)? Bron cyn waethed ddudwn i! :crechwen:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 25 Chw 2008 11:39 pm

Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan wali huws » Maw 26 Chw 2008 3:39 pm

Mae na hyd yn oed papurau bro Cymraeg yn defnyddio'r erchyll UK:

cbowen@anturteifi.org.uk

ydy ebost Y Garthen.

Ydech chi'n ei ddefnyddio ar eich pen-llythyrau a'ch papur bro hefyd?

Da iawn Llywelyn.
wali huws
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Maw 26 Chw 2008 3:33 pm

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan osian » Maw 26 Chw 2008 11:13 pm

Cawslyd a ddywedodd:Bradwyr diegwyddor?!?! 'chydig yn llym ella? Ma teitl un o ddramau Shakespeare yn dod i'r meddwl... much ado about nothing....


Anghytunaf, boed iddynt grogi ochr yn ochr a HOLL aelodau a chefnogwyr plaid cymru.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Geraint » Mer 27 Chw 2008 9:45 am

Os ddim .uk, be ddiawl ma nhw fod i ddefnyddio gan nad oes yna gyfeiriad i Gymru? :? Harsh!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 27 Chw 2008 10:26 am

Geraint a ddywedodd:Os ddim .uk, be ddiawl ma nhw fod i ddefnyddio gan nad oes yna gyfeiriad i Gymru? :? Harsh!


Rhai rhyngwladol (Americanaidd) sydd ddim yn dynodi unrhyw wladwriaeth siwr o fod: .org , .com ayb.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 27 Chw 2008 10:31 am

Ond ma rheina efo tarddiad Saesneg beth bynnag! Hyd nes bod .cym ar gael sna'm llawer o bwynt mynd yn nyts am hyn. Faswn i'm isio .uk yn fy enw parth personol, ond dwi'n rhan o brifysgol felly sgen i'm dewis efo nghyfeiriad gwaith.

Dio'm yn syniad gwell rhoi'r egni ma mewn i lythyru'r llywodraeth am barth .cym dwch?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron