Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 03 Maw 2008 7:37 pm

Llywelyn Foel a ddywedodd:Pe bai ganddo unrhyw grap ar y rheolau, yna ni fydda'n dweud: 'Gawn ni greu seiat 'Bin Loonies Rooney'? Aelodaeth hyd yn hyn: Rooney a Llywelyn Foel.'

1. Doedd Rooney ddim wedi cyfranu at drafodaeth y llinyn yma
2. Ymosod ar unigolion yw hyn, ac nid ymosod ar y ddadl.
3. Ymddengys i mi fod pawb sydd o blaid defnyddio 'UNITED KINGDOM' fel rhan o'u ebost yn gwneud hynny gan fod eu ebost nhw eu hunain yn cynnwys y cyfrwng erchyll .uk

Newidiwch eich ebost. Brwydrwch dros .cym ac yn y cyfamser... defnyddiwch .com, .info, .web .... neu unrhywbeth ond NID y gwasaidd UNITED KINGDOM.

ON A sut wyddost, gyfaill, nad wyf finna, wedi danfon 657,433 cyfraniad i maes-e dros y blynyddoedd!


O'n i'n dilyn y rheol 'Na alwer fentrau sy'n gweithio'n ddiwyd dros yr iaith yn Brits am fod y parth UK yn rhatach'. Mae e 'na yn rhywle.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Griff-Waunfach » Maw 04 Maw 2008 3:31 pm

Llywelyn Foel a ddywedodd:
'Dwedwch Beth byddwch chi yn ei defnyddio yn lle .co.uk .com neu .org?'
medd un ohonoch (uchod).

Yr ateb: yn hytach na derbyn yn wasaidd ein bod yn rhan o'r United Kingdom, mil gwell gen i fyddai derbyn unrhyw gyfieithiad e.e. cwmni (.com) neu rhwydwaith (.org)... UNRHYWBETH ar wahan i dderbyn (yn anghywir) fy mod yn rhan o'r U.K. Ych. Tydw i ddim. Cysyniad ffug y goresgynwr ydy'r U.K. Mi alla i dderbyn .net, .info, .ro... dot unrhyw beth arall, ond yn sicr, yn gwbwl sicr, fy mrawd, nid UNITED KINGDOM.

Sut fedr unrhyw gwmni megis y rhai a enwyd uchod (pobol gyda than yn eu boliau!!!) gyfiawnhau roi UNITED KINGDOM ar eu penllythyr? Fedra nhw ddim. I rest my case.



Trwy ymwrthod a'r .co.uk nid wyt ti'n neud .cym yn realiti. Bydd yr agwedd hyn yn mynd at achosi trafferth ac mwy na dim cost i fusnesau a mudiadau gwirfoddol sydd yn gweithio i hybu'r Gymraeg yn eu cymunedau fel papurau bro. Unwaith bydd .cym yn bodoli bydd disgwyl iddyn nhw mynd ati i newid eu cyfeiriadau eto!

Me dy egni yn cael ei gwastraffu yn pregethu am y .co.uk gwarthus yma. Beth am fod yn fwy adeiladol yn ein dadl.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan y nionyn » Maw 04 Maw 2008 3:46 pm

Y gwir ydi ein bod yn ran o'r 'UK', os ti'n licio fo neu beidio! Dwi'n siwr fod na betha amgenach i gwyno amdan, ond duw na fo de, pawb at y peth a bo!!
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Gwe 14 Maw 2008 10:19 pm

Diddorol clywed fod Lol yn bwriadu rhestru enwau'r Cymry dau-wynebog, rhagrithiol fis Awst.

Trist, fodd bynnag, gweld fod cynifer o aelodau maes-e wedi eu cyflyru i dderbyn eu bod yn rhan o'r 'United Kingdom'.

Ond braf yw gweld mai .com ydy'r Lolfa!

a Dafydd Iwan

a .net ydy Emyr Llew

a .org ydy Plaid Cymru

...
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 14 Maw 2008 10:50 pm

Pam .uk? Dyma'r ateb i chi. Mae gen i nifer o URLau ac ati. Pan oeddwn i'n eu sefydlu, do'n i ddim eisiau cael .uk ar y diwedd. Ond 'dwi ddim yn millionaire. Mae'r diweddiad .uk yn rhatach na'r eraill (e.e. .eu, .org efo dim byd ayb) felly mater o bris oedd imi ddewis cyfeiriadau efo .uk ar eu pennau.

Felly, mae pethau fel rhywbeth.neuigilydd.co.uk, .org.uk ayb yn golygu nad oes fawr o bres gan y sefydliad. You heard it here first - MAE .UK YN RHAD! O'r rhan fwyaf, dydy o ddim byd i ymwneud a'r frenhiniaeth unedig ond bod pris y cyfeiriad yn is na rhywbeth.neuigilydd.co.eu neu rhywbeth.neuigilydd.com.

Beth am .cwm? .sef? .rhwyd? .llyw? .add? Tybed basai .ac yn iawn-aidd...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sad 15 Maw 2008 12:12 am

O Ryfedd Fyd!!!

Mae hi'n rhatach cael arwyddion uniaith Saesneg - dyna oedd yr hen ddadl abswrd. A sianel Gymraeg yn wastraff arian!

Beth, frawd, ydy gwerth dy Gymreictod?

Rhad arnat! Mi glywa i swn 30 darn arian yn dy boced...
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Chickenfoot » Sad 15 Maw 2008 1:55 am

Grow the fuck up
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sad 15 Maw 2008 7:38 am

'Grow the fuck up'.co.uk i ti.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Cawslyd » Sad 15 Maw 2008 3:32 pm

Odd hwnna'n comeback shit, Llywelyn.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: Cwmniau Cymraeg sy'n cofleidio'r United Kingdom

Postiogan Llywelyn Foel » Sad 15 Maw 2008 3:46 pm

Doedd dy ymateb gwreiddiol ditha mo'r disgleiriaf i mi ei weld, gyfaill.
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron