Sori am grwydro- wnai ddim sôn am y peth twll yn wal yma eto ar yr edefyn yma
Mae sôn am ddefnydd o'r Gymraeg ar beiriannau twll yn y wal yn hollol berthnasol yn y trafodaeth yma swn i feddwl. Mae defnydd neu ddiffyg o'r Gymraeg gan HSBC, Ericsson, Dell, Apple, Bebo, Face book etc.. a canran y defnydd gan siaradwyr Cymraeg i gyd yn cysylltiedig.
Fel wnes i sôn o'r blaen, rhiad ini lwydo cael defnydd gwell o'r Gymraeg gyda phethe digidol wrth i dechnoleg cymryd drosodd ein bywydau... neu mae'r iaith yn ddu iawn.
Efallai ein gobaith gorau bydd i ennill yr ymgyrch '.cym'. Os mae hynny'n cydio yn nychymyg nifer mwy sylweddol o bobl Cymru na naeth ymgyrch Y Byd mae siawns i'r ymwybyddiaeth cael ei godi rhywfaint.
Dwi'n deall bod ymgyrch '.cym' yn mynd yn dda ar lefel pwyso ar sefydliadau. Hoffwn weld yr ymgyrch '.cym' fod yn lot fwy amlwg a 'caresmatig' gyda gigs, erthyglau yn y papurau, pobl yn hel enwau yn stydoedd fawr i'r dieseb, sponsored walks etc... Dwi'n gweld perygl mawr ini ennill '.cym' ond i'w neb defnyddio.