Mae Generalitat Catalunya (llywodraeth Catalonia) wedi MYNNU bod pob cwmni ffon symudol sydd yn masnachu ar eu tiriogaeth yn cynnig gwasanaethau yn yr iaith Català.. ar ddewislenau'r ffonau, biliau, hysbysebu a llinellau cymorth etc. Mae'r Generalitat hefyd wedi lansio gwefan slic iawn
http://www.elteumobil.cat/ ("Dy mobile di") gyda'r slogannau fel "Tro dy ffon i dy iaith" a gwybodaeth diweddara am beth sydd ar gael yn yr iaith Català gan Nokia, Sony, Vodafone, Orange etc.. . Mae'r gwefan yma yn cael ei hysbysebu yn eang.
Mae gweinidogion llywodraeth Catalan hefyd wedi galw'n gyson ar gwmni Apple i ddefnyddio Català ar iPods a chyfrifiaduron Mac.
Ysgrifennais at Fwrdd yr Iaith a'r Cynulliad yn pwyntio allan yr uchod gan ofyn iddynt ddilyn esiampl y Catalanwyr. Hefyd wnes i eu hatgoffa bod DIM ymdrech wedi cael ei wneud i boblogeiddio y Gymraeg ar feddalwedd / TG a dim synnu felly bod arolwg gan Fwrdd yr Iaith eu hun yn dangos defnydd o 0% o Windows Cymraeg. (Ie Wir DIM!) Cefais ateb cwrtais iawn yn ol ond heb son penodol am unrhyw ymgyrch i boblogeiddio defnydd o feddalwedd Cymraeg neu i orfodi cwmniau i ddefnyddio'r Gymraeg.
Yn y gorffennol roedd hi'n bosibl i gefnogwyr yr iaith gynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth a dwyn perswâd ar sefydliadau fel Swyddfa'r Post, darlledwyr a llywodraeth leol. Ond mae’n bron yn amhosibl i unigolion neu grwpiau bach yng Nghymru llwyddo perswadio cwmni rhyngwladol sydd â phencadlys yn Tokyo neu California.Dim ond ar lefel swyddogol a llywodraeth mae modd sicrhau ymateb o gwmnïau mawrion fel Nokia, Apple, PC World neu Sony.
Cardi Bach ...Mae'n amlwg ti'n tiemlo digon cryf am y pwnc i ysgrifennu at Maes-E, ond i wneud gwahaniaeth, gai i erfyn arnot (a Maeswyr eraill) i yrru nodyn i Fwrdd yr Iaith yn mynnu eu bod yn tynnu eu blydi bys allan.
Gyrra nodyn i:
Mr Meirion Prys Jones
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Siambrau'r Farchnad
5/7 Heol Eglwys Fair
Caerdydd CF10 1AT
Mae cryn drafodaeth wedi bod yn yr adran "Technoleg" o Maes-E ynglyn a diffyg defnydd o'r Gymraeg ar gyfrifiaduron, ffonau etc. Mae hefyd manylion yno o sut i newid dy PC i Gymraeg a linciau i ddadlwytho AM DDIM yr holl raglenni sydd ar gael yn Gymraeg.