Cymedrolwr: gronw
Seisyllt ab Wmffre a ddywedodd:Dyma Norman uwch fy mhen yn cywilyddio'r Genedl unwaith yn rhagor. A oes diwedd ar y dwli 'ma?
Sioni - oni weli di bwysigrwydd yr Ysgrythur - mae'n perthyn i bob dyn, ymhob sefyllfa ac yn ymhob oes- ond mae'r rafins hyn yn methu a'i dallt hi. Duw a'n gwaredo!
ger4llt a ddywedodd:Unrhyw syniada erill ar y gweill am ddigwyddiada tebyg i hyn? Neu ydi hi'n werth aros am ryw ymateb ffurfiol gan yr archfarchnadoedd i'r llythyrau gyntaf?
Fel rhan o'r ymgyrch i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith eleni yn targedi cwmniau sydd yn hapus i gymryd ein harian, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Targedau Mawrth a Ebrill yw Tesco a Morrisons. Mae'r picedi canlynol wedi cael eu trefnu ar gyfer mis Ebrill
1pm Sadwrn 12/4/08 - PICED Tesco, Heol Salisbury, Cathays, Caerdydd
2pm Mercher 16/4/08 - PICED Tesco, Bangor
12pm Mercher 23/4/08 - PICED Tesco, Cyffordd Llandudno
2pm Sadwrn 26/4/08 - PICED Tesco, Rhydaman
Ceisiwch ddod draw i gefnogi mewn o leiaf un o'r picedi uchod os gwelwch yn dda, ond galwn hefyd ar ein haelodau a chefnogwyr i gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmniau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol. Y mwyaf o gwynion mae'r cwmniau yn derbyn, y gorau yw ein siawns o lwyddo.
Rydym yn galw ar y cwmniau i sicrhau gwasanaeth gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae modd lawrlwytho llythyr enghreifftiol yma: http://cymdeithas.org/2008/03/03/llythy ... ssons.html
Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon eich cwyn wedi'u nodi isod.
TESCO
* Tesco Customer Service, PO Box 73, Baird Avenue, Dryburgh Industrial Estate, Dundee, DD1 9NF
* http://www.tesco.com/help/contact/contactus1.asp - customer.services@tesco.co.uk - terry.leahy@tesco.com
MORRISSONS
* Customer Service Department, Wm Morrison Supermarkets PLC, Hilmore House, Gain Lane, Bradford, BD3 7DL
* angus.maciver@morrisonsplc.co.uk, marc.bolland@morrisonsplc.co.uk, chris.blundell@morrisonsplc.co.uk
DEWCH GYDA NI!
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ON. Paid poeni gormod am Seisyllt. Credu mai rhywun yn chwarae dwli yw hwn!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai