Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 24 Maw 2008 12:05 pm

Fel rhan o'r ymgyrch i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith eleni yn targedi cwmnïau sydd yn hapus i gymryd ein harian, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd protestiadau yn cael eu trefnu, ond galwn hefyd ar ein haelodau a chefnogwyr i gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol.

Rydym yn galw ar y cwmnïau i sicrhau gwasanaeth gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Lawrlwythwch y llythyrau enghreifftiol perthnasol trwy bwyso ar y dolenni canlynol. Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon eich cwyn wedi'u nodi hefyd.

Mawrth/Ebrill ‘08– Morrisons/Tesco

TESCO
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Tesco.
* Tesco Customer Service, PO Box 73, Baird Avenue, Dryburgh Industrial Estate, Dundee, DD1 9NF
* http://www.tesco.com/help/contact/contactus1.asp - customer.services@tesco.co.uk - terry.leahy@tesco.com

MORRISSONS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Morrisons.
* Customer Service Department, Wm Morrison Supermarkets PLC, Hilmore House, Gain Lane, Bradford, BD3 7DL
* angus.maciver@morrisonsplc.co.uk, marc.bolland@morrisonsplc.co.uk, chris.blundell@morrisonsplc.co.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 24 Maw 2008 8:43 pm

Annwyl Superted,

Dw i ddim yn arbenigwr ar yr Aeleg, felly bydd rhaid iti siecio'r isod. Ond, gan fod prif swyddfa Tesgo yn Nundee a chan mai busnes Albannaidd ydy Bùithtean Moireasdan (Morrison's), efallai bydd pobl yn hoffi danfon llythyr teirieithog atyn nhw. Dyma ni:-

A Shiàr / Bhàintighearna,
Tha mi a’ sgriobhadh dhuibh airson gearan mu dheidhinn an t- uireasbhuidh sheirbheis Cuimris a bheil air ghabhail anns na bùithtean agaibh o cheann gu ceann a’ Chuimrigh. Nuair a bhios leibh nimhir de chomharradhan buana dà-chanain, gu tric sin an seirbheis dà-chanainn a-mhainn, agus tha an seirbheis tabhartasach seo a’ taisbeanadh tarcuis chum ur luchd-ceannach is na coimhearsnachdan gu bheil sibh a’ buannachadh bhuapasan. Tha mi ag earalachadh oirbhse a dh’ ath-sgrùdadh ur poileisidh dà-chanain aig dhèanamh cinnteach gum bi sibh a’ dèanamh na h-imeachdan cudthromach is gan roghnachadh anns a-huile bùth agaibh anns a’ Chuimrigh coltach ri riaghailt-shuidhichte bunailteach.
1.Gach comharradh buana a bhith dà-chanain
2. Stuth cheannach aimsir is comharradhan neo-bhuana coltach
3. Foillsich fhuaim a bhith dà-chanain
4. Na ceanglachanan agaibh a bhith dà chanain
5. Modhan mealladh an luchd-obraich agaibh còmhla ris na colaistean ionadail airson gur dèanamh comasach a thairgeadh seirbheis Cuimris leòr dha luchd-ceannach agus dèanamh comasach airson ur luchd-obraich a dh’ obair tron Chuimris.
6. Gnàthachadh stuth ionadail far am bi sin comasach
Leis an seo bidh sibh a’ dèanamh comasach is cinnteach gum bi an comunn agaibh dà-chanain agus a’ tairgeadh seirheis glan is coimhlionta dhan luchd-coinneach agaibh anns a’ Chuimrigh. Tha mi ag earalachadh oirbhse a dh’ obair nan imeachd shuas gu luath.
Le dùrachd,
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 24 Maw 2008 8:47 pm

Ol-nod - Angus Maciver (boi Morrison's): - Aonghas Mac Ìomhair yn yr Aeleg.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 28 Maw 2008 11:19 am

Diolch yn fawr i ti am y cyfieithiad Gaeleg. Fi wedi danfon fy nghwyn i yn dairiethog at tesco a Morrisons felly! 8)

Annwyl Syr / Madam,

Ysgrifennaf atoch i gwyno ynglŷn â’r diffyg gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn eich siopau ar hyd a lled Cymru. Tra bod gennych nifer o arwyddion parhaol sydd yn ddwyieithog, yn aml iawn, dyna yw holl gwmpas eich gwasanaeth dwyieithog, ac mae’r fath wasanaeth tocenistig yn dangos amarch at eich cwsmeriaid, a’r cymunedau yr ydych yn elwa ohonynt. Pwysaf arnoch i adolygu eich polisi dwyieithrwydd gan sicrhau bod y camau penodol canlynol yn cael eu mabwysiadu ym mhob un o’ch siopau cenedlaethol fel safon sylfaenol:

1. Pob arwydd parhaol yn ddwyieithog.
2. Deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro yn ddwyieithog.
3. Cyhoeddiadau system sain ddwyieithog.
4. Pecynnu cynnyrch eich hunain yn ddwyieithog.
5. Cynlluniau hyfforddiant staff mewn cydweithrediad â cholegau addysg bellach lleol a fydd yn eich galluogi i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid, ac a fydd yn galluogi eich gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
6. Defnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny’n bosibl

Trwy wneud yr uchod gallwch sicrhau bod eich cwmni yn un dwyieithog sydd yn cynnig gwasanaeth teg a chyflawn i’ch cwsmeriaid yng Nghymru. Pwysaf arnoch i roi’r camau hyn ar waith ar fyrder.

Yn Gywir,

Hedd Gwynfor

Pontyberem

--------------------------------------------------------

Dear Sir / Madam,

I write to complain regarding the lack of Welsh medium services available in your stores throughout Wales. While you display some permanent bilingual signage, that is usually the only bilingual service available. This tokenistic service shows a lack of respect towards your customers and towards the communities that you profit from. I implore you to review your bilingual policy, ensuring that the following steps are taken in every single store across the nation as a basic standard.

1. Bilingual permanent signs.
2. Bilingual Seasonal marketing leaflets and temporary signage.
3. Bilingual tannoy announcements.
4. Bilingual own-brand packaging.
5. Staff training schemes in cooperation with local further education institutions which would enable you to offer a bilingual service to customers, and which would enable workers to work through the medium of Welsh.
6. Use local produce where possible.

Only by implementing the above can you ensure that your company is wholly bilingual and offers a fair and complete service to customers in Wales. Please implement these steps as a matter of urgency.

Sincerely,

Hedd Gwynfor

Pontyberem

--------------------------------------------------------

A Shiàr / Bhàintighearna,

Tha mi a’ sgriobhadh dhuibh airson gearan mu dheidhinn an t- uireasbhuidh sheirbheis Cuimris a bheil air ghabhail anns na bùithtean agaibh o cheann gu ceann a’ Chuimrigh. Nuair a bhios leibh nimhir de chomharradhan buana dà-chanain, gu tric sin an seirbheis dà-chanainn a-mhainn, agus tha an seirbheis tabhartasach seo a’ taisbeanadh tarcuis chum ur luchd-ceannach is na coimhearsnachdan gu bheil sibh a’ buannachadh bhuapasan. Tha mi ag earalachadh oirbhse a dh’ ath-sgrùdadh ur poileisidh dà-chanain aig dhèanamh cinnteach gum bi sibh a’ dèanamh na h-imeachdan cudthromach is gan roghnachadh anns a-huile bùth agaibh anns a’ Chuimrigh coltach ri riaghailt-shuidhichte bunailteach.

1.Gach comharradh buana a bhith dà-chanain
2. Stuth cheannach aimsir is comharradhan neo-bhuana coltach
3. Foillsich fhuaim a bhith dà-chanain
4. Na ceanglachanan agaibh a bhith dà chanain
5. Modhan mealladh an luchd-obraich agaibh còmhla ris na colaistean ionadail airson gur dèanamh comasach a thairgeadh seirbheis Cuimris leòr dha luchd-ceannach agus dèanamh comasach airson ur luchd-obraich a dh’ obair tron Chuimris.
6. Gnàthachadh stuth ionadail far am bi sin comasach

Leis an seo bidh sibh a’ dèanamh comasach is cinnteach gum bi an comunn agaibh dà-chanain agus a’ tairgeadh seirheis glan is coimhlionta dhan luchd-coinneach agaibh anns a’ Chuimrigh. Tha mi ag earalachadh oirbhse a dh’ obair nan imeachd shuas gu luath.

Le dùrachd,

Hedd Gwynfor

Pontyberem
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan jiw jiw! » Gwe 28 Maw 2008 11:56 am

Nes i gal ymateb i 'nghwyn i at Tesco. O'n i ddim yn siwr be i neud - chwerthin neu lefain! Nes i feddwl, whare teg iddyn nhw am ymateb yn ddwyieithog, ond ma isie'i ddeall e fyd!
Wes unrhyw un arall wedi cael rhyw fath o ymateb 'to? co fe ta beth:


Thank you for your email.

Diolch I chi am cysyllty gyda ni,

Roedden ni’n bryderus I ddarganfod eich bod TESCO ddim yn cefnogi y iaeth Cymraeg a mae’n ddrwg gen I am in rhyw trafferth mae hyn wedi achosi chi. Rydw I yn parchu y faith bod gwahanol ardal yn y deyrnas gyfynol yn cael iaeth, tafodiaeth a diwylliant a rydyn ni yn ymdrechu darmerthu ei’n gweithrediad I cwrdd gyda galw lleol ble bynnag mae ein archfarchnadoedd yn y Deyrnas Gyfynol.

Mae Tesco yn cwmni sydd yn cael llawer gwahanol Cenedligrwydd a ieithoedd. Os oedd Tesco yn gweithredu yn ffordd oedd ddim yn parchu diwylliant lleol a traddoriad, bydd cwsmeriaid yn siopio rywle arall.

Rydyn ni yn balch iawn I fod y adwerthwr mwyaf poblogaidd yn Cymru ac I cael 56 siop trwy’r gwlad, gyda storfa yn Magor a Chepstow. Mae na Arwyddion Croeso I Tesco at pob mynediad I pob siop, hefyd yn croesawu cwsmeriaid yn cymraeg ac hefyd yn saesneg.

Rydyn ni wedi cysegru I’r iaeth Cymraeg, rydyn ni yn arlwyo arwyddion deuol ble bynnag mae’n angenrheidiol. Mae’r teamau rheolwyr yn rhai o ei’n siopiau hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae’r staff sydd ddim yn siarad cymraeg yn dysgu’r iaeth yn cyflum trwy helpu’r cwsmeriaid pob dydd. Am hynny, ein staff yn adlewyrchu pobol sydd yn byw yn y cymdeithas lleol.

Lan I 80% o’r cwsmeriaid sydd yn siopio yn ei’n siopiau yn cymru yn siarad saesneg, oherwydd saesneg yw’r iaeth cyntaf yn y Deyrnas Gyfynol. Mae hyn yn gadael 20% or gwlad sydd yn enwebu siarad cymraeg yn unig. Rydyn ni yn trio helpu ein cwsmeriaid mor gymaint ag syn bosib a bydd yna pob amser aelod o staff wrth law sydd yn gallu siarad cymraeg.

Ynglyn a Eich gofyniad amdano cynnyrch lleol, Mae hi’n polici Tesco I olrheini lleol ar pob cyfle. Mae hyn yn bwysig iawn a rydyn ni’n gweithion yn galed gyda ffermwyr lleol a hefyd y Cyflenwr. Rydyn ni hefyd yn cael rheolwr marchnad Cymraeg sydd yn delfrydu gyda ymholiadau cynnyrch lleol.

Roedd yna rhaglen lansion rhyw amser ynol ac y canlyniad o hyn yw bod Tesco yn nawr cael dros 2675 cynhyrchion lleol yn ein siopiau. Mae cwsmeriaid yn dweud I ni mae nhw eisiau cynhyrchion lleol, Felly rydyn ni yn trio arlwyo pryd bynneg mae’n posib.

Rydw I yn gobeithio bod y gwobodaeth hyn wedi dangos bod Tesco yn balch o ein traddodiad I Cymru ac I’r iaeth Cymraeg.

Diolch am wneud eich golwg hysbys I ni.

I was concerned to learn that you feel that we are not supporting the Welsh language and I am sorry for any upset that this has caused you. We fully respect that different areas within the UK have their own language, dialect, cultures and customs and we endeavour to cater our operations to meet local demand wherever our stores are located.

Tesco is a worldwide company encompassing many nationalities and languages. If we acted in a way that did not respect local cultures and traditions, customers would simply shop elsewhere.

We are very proud to be the most popular retailer in Wales and have over 56 stores throughout the country, with warehouse depots in Magor and Chepstow. The welcome to Tesco signage at the entrance to our stores, also greets our customers in Welsh as well as in English.

Being fully committed to the Welsh language, we provide dual signage wherever it is necessary. In addition, the senior management teams in several of our stores also speak fluent Welsh. Non-Welsh speaking staff soon learn to pick up the language simply by dealing with our customers on a day to day basis. Therefore, our staff reflect the people who live in the local community.

Up to 80% of the customers who come to visit us in our Welsh stores will speak English, as this is the most easily recognised language in the United Kingdom. This leaves 20% of the country who prefer to speak only Welsh. Please be assured that we do try to assist our customers as much as possible and there is usually always a staff member nearby who will be able to translate if necessary.

Regarding your query on local produce, it is Tesco’s policy to source locally at every opportunity. This is so important and we work very hard with local farmers and suppliers. We also have a Welsh Marketing Manager who deals with local produce enquiries.

A local sourcing programme was launched some time ago and as a result of this, we currently have over 2675 regional lines in our stores. Customers tell us that they want to buy local goods, therefore we try to provide this whenever possible, depending on the quality and availability.

I do hope that this information has reassured you that we are proud of our commitment to Wales and the Welsh language.

Thank you for making your views known to us.

If you have any further queries please do not hesitate to contact us at customer.service@tesco.co.uk quoting TES4890831X.

Kind Regards


Frances Gibson
Tesco Customer Service
Hwntw o gartre sy'n gwrthod troi'n Gog!
jiw jiw!
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Gwe 11 Chw 2005 9:19 am
Lleoliad: Bangor/Eglwyswrw

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 28 Maw 2008 3:47 pm

eh? Pam ymosod ar Morrissons ? Mae nhw'n eithaf da ar y cyfan.
Mae nhw gyda arwyddion dwyieithog yn cangen yn Llanisien ac mae nhw yn chwarae hysbyseb dwyieithog drost y tannoy (Nia Parry sydd yn gwneud o).
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 28 Maw 2008 4:07 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:eh? Pam ymosod ar Morrissons ? Mae nhw'n eithaf da ar y cyfan.
Mae nhw gyda arwyddion dwyieithog yn cangen yn Llanisien ac mae nhw yn chwarae hysbyseb dwyieithog drost y tannoy (Nia Parry sydd yn gwneud o).


Wyt ti wedi darllen y llythyr uchod?

Ni wedi cynnal sawl cyfarfod gyda Morrisons, ac ma nhw wedi cytuno ar nifer o bethau (megis tannoy dwyieithog!!) ond heb weithredu ar nifer o'r addewidion eraill, felly rhaid cadw'r pwysau ymlaen. Dyw gwasanaeth tocenistaidd ddim yn ddigon da!

Gyda'r adnoddau sydd gyda ni, rhaid i ni dargedu ambell i gwmni penodol, achos does dim gobaith targedi pob cwmni yn effeithiol. Ni'n defnyddio ymgyrchoedd fel hyn fel enghraifft o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd, ond hefyd er mwyn ceisio fod y gwasanaeth Cymraeg gorau posibl yn cael ei gynnig yn y cyfamser.

Pan wnaethom ni ddechrau gyda Morrisons rhyw flwyddyn yn ol, dim ond ambell i arwydd parhaol oedd yn ddwyieithog. Mae Morrisons wedi gwella tipyn yn dilyn y pwysau, ond mae lot o le i wella eto. Dwi'n nodi mewn italig isod beth mae Morrisons yn gwneud yn y mwyafrif o'i siopau yng Nghymru erbyn hyn, ac mewn bold y pethau nad ydyn nhw'n eu gwneud:

1. Pob arwydd parhaol yn ddwyieithog.
2. Deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro yn ddwyieithog.
3. Cyhoeddiadau system sain ddwyieithog.
4. Pecynnu cynnyrch eich hunain yn ddwyieithog.
5. Cynlluniau hyfforddiant staff mewn cydweithrediad â cholegau addysg bellach lleol a fydd yn eich galluogi i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid, ac a fydd yn galluogi eich gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
6. Defnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny’n bosibl
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Ebr 2008 10:21 am

Gweddill y datganiad + mwy o luniau i'w gweld yma...

www.cymdeithas.org a ddywedodd:Chwarae Jôc Ffwl Ebrill ar Tesco a Morrisons

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sticeri siopau Morrisons a Tesco drwy Gymru neithiwr. Targedwyd siopau yn perthyn i'r ddau gwmni ym Mangor, Caernarfon, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd (yn Nhrefynach a Heol y Bont Faen). Peintiwyd slogan ar wal siop Morrison yn Caernarfon.


Delwedd

Delwedd

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 01 Ebr 2008 12:38 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Targedu Morrisons a Tesco Mawrth/Ebrill 2008

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 01 Ebr 2008 4:30 pm

Delwedd

Delwedd

Delwedd

Delwedd
Golygwyd diwethaf gan Mihangel Macintosh ar Llun 07 Ebr 2008 10:27 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron