Cymraeg yn mhasportau

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymraeg yn mhasportau

Postiogan y_cyrff_girlie » Llun 31 Maw 2008 12:09 pm

Dw i newydd derbyn fy mhasport. Dw i wedi sylw hynny rhai o'r gwybodaeth sy yng NGhymraeg. Fel dysgwraig Cymraeg, dw i wedi cyfieithu hi i fy hunan. Mae pethau'n hynny dw i'n meddwl am. Dw i'n meddwl am gofyn siardwr brodorol.

Roeddwn i'n os y Cymraeg yn y pasport sy'n cywir. Pryd dych chi'n defnydd y gair 'man'? Mae sylwadau tudalen yn cywir? Dw i'n meddwl hynny bod tudalen sylwadau. Mae'r gorchymyn geiriau'n o'r Undeb Ewropeaidd dim yr Ewropeaidd Undeb a mae Prydain Fawr yn Prydain Fawr dim Fawr Prydain. Mae word processor yn prosesydd geirau dim geiriau prosesydd a front page cyfieithu fel tudalen flaen dim flaen tudalen amhebygol y Saesneg. Dw i'n unig ddysgwraig. Os mae sylwadau tudalen yn cywir, fedrech chi eglurio pam? Dw i'n meddwl United Kingdom cyfieithu fel Teyrnas Unedig. Yn y pasport, mae U.K yn cyfieithu Teyrnas Gyfunol. Sy'n hynny achos arall o fersiwn o Windows XP? Dylai'r llnell dim 'Mae 32 tudalen yn y pasbort hwn' bod 'Mae 32 tudalennau yn y pasbort hwn'. Mae'r llosog yn tudalennau. Dw i'n meddwl mae mwy na un tudalen. Beth y geiriau i passport? Buodd y b yn mhasbort yn treiglo?

Dw i'n meddwl hynny mae hi dda y pasport yng NGhymraeg hefyd. Pam dylai dim Cymraeg bod ar y pasport? Mae Cymraeg yn iaith o Brydain. Mae hi'n cymorth i mi, dw i'n gwybod y Cymraeg cywir fel y dw i'n dysgu Cymraeg cywir a defnydd Cymraeg cywir. Mae'r pwynig gwybod Cymraeg modern. Yn Saesneg, dych chi dim o amgylch deud thee onibal bod dych chi newydd bwyta y Beibl. Mae thee yn out of date.

Ydy'r pasportau newydd dim ogleno doniol? Beth efo'r adar?
y_cyrff_girlie
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 15 Ebr 2004 12:51 am

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan Macsen » Llun 31 Maw 2008 12:55 pm

Mae'r Gymraeg ar y pasbort yn gywir. Dw i heb sylwi ei fod o'n ogleuo'n rhyfedd chwaith... :|
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan Mwlsyn » Llun 31 Maw 2008 1:38 pm

Macsen a ddywedodd:Mae'r Gymraeg ar y pasbort yn gywir. Dw i heb sylwi ei fod o'n ogleuo'n rhyfedd chwaith... :|


Dyw e ddim yn gywir (o leia yn fy fersiwn i). 'Tudalen sylwadau' sy'n gywir, nid 'sylwadau tudalen'. Mae popeth arall yn gywir, os dwi'n cofio'n iawn.

Mae'r 'Deyrnas Unedig' a'r 'Deyrnas Gyfunol' yn ddau fersiwn gwahanol ar 'United Kingdom', a '32 tudalen' sy'n gywir achos fod y gair unigol yn dilyn rhif, nid y lluosog. (e.e. 'ten dogs' = 'deg ci').
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan Ray Diota » Llun 31 Maw 2008 1:50 pm

Mwlsyn a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Mae'r Gymraeg ar y pasbort yn gywir. Dw i heb sylwi ei fod o'n ogleuo'n rhyfedd chwaith... :|


Dyw e ddim yn gywir (o leia yn fy fersiwn i). 'Tudalen sylwadau' sy'n gywir, nid 'sylwadau tudalen'. Mae popeth arall yn gywir, os dwi'n cofio'n iawn.

Mae'r 'Deyrnas Unedig' a'r 'Deyrnas Gyfunol' yn ddau fersiwn gwahanol ar 'United Kingdom', a '32 tudalen' sy'n gywir achos fod y gair unigol yn dilyn rhif, nid y lluosog. (e.e. 'ten dogs' = 'deg ci').


Pam bo pobol yn defnyddio 'cyfunol' fel cyfieithiad o 'united', gwedwch?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 31 Maw 2008 6:39 pm

Mae'r drwydded borthladd (cais am gyfieithu "passport") sy gen i yn ddwyieithol - Saesneg a Ffrangeg - felly ni wn i ai Cymraeg gywir ai peidio sydd yn y ddogfen Eingl-Gymraeg.

Fel arfer, mae'r ansoddair yn dilyn yr enw yn Gymraeg - ond bod na hen eithriadau. Hefyd, mae'n bosib i gael yr ansoddair tu ol i'r enw yn Saesneg - ond mae hyn braidd yn farddonol. Efallai cafodd y fersiwn Cymraeg ei sgwennu gan fardd... Cwesiwn: Ble mae "orientar"? Digwydd hyn mewn carol Saesneg - "We three kings of orientar" (chwedl y plant Seisnig). Ie mae'n bosib i ddeud hyn yn y Saesneg (We three kings of orient are) yn lle "We're three kings from the orient" ond ni thycia Saesneg fel hyn ar basbort.

Gyda llaw, mae 32 tudalen yn iawn, ond ni fyddai 22 neu 42 neu 37 tudalen. Mae "32 tudalen" yn sefyll dros "Deuddeg tudalen ar hugain". Ffurf arall fyddai "32 o dudalennau" (efallai tri deg dau o dudalennau).

Pob lwc efo'r dysgu.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan Cwlcymro » Llun 12 Mai 2008 11:47 am

Mae'r heddlu yn defnyddio DG yn lle DU ar ei posteri hefyd, doni'm yn deall cynt fod y Deurnas Gyfunol yn cael ei ddefnyddio - oes na un yn "official"?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan sian » Llun 12 Mai 2008 11:51 am

Cwlcymro a ddywedodd:Mae'r heddlu yn defnyddio DG yn lle DU ar ei posteri hefyd, doni'm yn deall cynt fod y Deurnas Gyfunol yn cael ei ddefnyddio - oes na un yn "official"?


Arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru:
United Kingdom (UK) = y Deyrnas Unedig (DU), nid 'y Deyrnas Gyfunol' na 'Prydain' nac ‘Ynysoedd Prydain’

Mae'n well gen i "y Deyrnas Unedig" hefyd ond fydda i'n meddwl weithiau bod "Gyfunol" yn fwy cywir - mae rhyw naws "cosy" am "Unedig"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan *Dafydd* » Maw 13 Mai 2008 10:08 am

Mae'r DG yn gynnwys y DU a’i phedair gwlad a’i thiriogaethau tramor.
i lwyddo, y gyfrinach yw onestrwydd a chwarae teg. Os gellwch ffugio'r rheini, wnewch chi byth fethu. G.M.
Rhithffurf defnyddiwr
*Dafydd*
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 11:22 am
Lleoliad: De Cymru

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan sian » Maw 13 Mai 2008 10:11 am

*Dafydd* a ddywedodd:Mae'r DG yn gynnwys y DU a’i phedair gwlad a’i thiriogaethau tramor.


Be ti'n feddwl?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cymraeg yn mhasportau

Postiogan huwwaters » Maw 13 Mai 2008 11:02 am

sian a ddywedodd:
*Dafydd* a ddywedodd:Mae'r DG yn gynnwys y DU a’i phedair gwlad a’i thiriogaethau tramor.


Be ti'n feddwl?


Crown Dependencies? Llefydd fatha Gibraltar, Channel Islands, a safleoedd milwrol fel yn Cyprus, Yr Almaen etc.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai