Datganiad i'r Wasg Papur Bro Clonc a ddywedodd:Bonc gyda’ch CloncMae’n bleser gan Bapur Bro ardal Llanbedr Pont Steffan gyhoeddi ei ymgyrch diweddaraf i hybu gwerthiant, sef ‘Bonc gyda’ch Clonc’.
Chwilio CariadYmgyrch yw hwn i geisio denu mwy o ddarllenwyr ifanc. Yn y rhifyn nesaf Clonc bydd colofn newydd ‘Chwilio Cariad’. Drwy gyfrwng y papur bro, gall darllenwyr unig apelio am gymar neu bartner.
O ddarllen am rywun yn y papur bro sy’n codi chwilfrydedd ynoch, gellir mynd ar y wefan wedyn (
http://www.clonc.co.uk) i weld llun a darllen mwy amdano ef neu hi.
Dywed cadeirydd y papur Dylan Lewis ‘Ni’n gyffrous iawn am yr ymgyrch newydd hyn. Clonc yw’r papur bro cyntaf i fynd i’r cyfeiriad hwn. Ni’n adeiladu ar lwyddiant pishyn.com ac ymgyrch Ffansi Ffarmwr poteli llath Calon Wen, a cheisio cadw’r Gymraeg yn fyw yn yr ardal’
Sanau Serch am ddimEr mwyn lansio’r golofn newydd, mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Ceredigion yn rhoi condom am ddim gyda phob copi o’r rhifyn nesaf a fydd yn y siopau ddydd Iau.
Dywed Geinor Medi yr Ymarferydd Hybu Iechyd lleol fod hyn yn ymestyniad naturiol o’r gwaith a wneir eisoes gan y tîm. ‘Ceisiwn hyrwyddo’r defnydd o gondom yng Ngheredigion. Yng Nghymru mae’r lefel uchaf o feichiogrwydd ymhlith pobl ifanc Gwledydd Prydain.’
Os am ragor o wybodaeth, neu gofrestru’ch apêl am gariad yn Clonc, ewch i:
http://www.clonc.co.ukPasiwch y neges hwn ymlaen i rywun a fyddai â diddordeb os gwelwch yn dda.