Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan osian » Mer 02 Ebr 2008 4:15 pm

O'dd 'na stori yn yr Express* ddoe fod Big ben wedi cael gwyneb digidol am bod yr un iawn ddim yn gweithio.

o'dd 'na hefyd stori am grwban - "tearaway terrapin" - sy'n smocio 10 sigaret y dydd

*darllan o mewn caffi :wps:

geshi halan yn fy mhanad bora hefyd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 02 Ebr 2008 4:37 pm

Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 02 Ebr 2008 9:43 pm

Oedd hwn yn joc ddoe?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan sian » Mer 02 Ebr 2008 10:33 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Oedd hwn yn joc ddoe?


Dw i ddim yn meddwl - roedd cylchlythyr Cymuned yn sôn amdano yr wythnos ddiwetha:
"Yn olaf, diolch yn fawr i Siân o Wynedd a anfonodd e-bost at Barclaycard yn cwyno am hysbyseb di-chwaeth yn dilorni'r Cymry (eto). Mae'n bwysig ein bod yn anfon e-byst o'r fath - paragraff byr yn unig oedd e - er mwyn i ni godi ymwybyddiaeth y cwmnïau mawrion nad ydyn ni'n fodlon bod yn gocyn hitio i bawb a fyn ein gwatwar."

Gorymateb? Pwy gysylltodd â'r cyfryngau? Mae'n debyg mai dim ond un gwyn gafodd Barclaycard/yr ASA a bod pwy bynnag gwynodd (nid fi, gyda llaw) wedi camddeall yr hysbyseb yn llwyr. Mae'n edrych yn debyg nad oedd pwy bynnag ymatebodd ar ran Cymuned wedi gweld yr hysbyseb. Biti.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 02 Ebr 2008 10:41 pm

rhag ofn bod y person o Cymuned yn darllen... :winc:

Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan sian » Mer 02 Ebr 2008 11:09 pm

hi hi - do'n i ddim wedi'i gweld hi chwaith - siwr bod hi'n ddigrifach os ti'n nabod y cymeriade - ond yn sicr ddim yn sarhaus.
Gwers i Cymuned i wylio cyn ymateb - dim lles o gwbl i'w delwedd
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan Aran » Iau 03 Ebr 2008 7:17 pm

Mae'n ddiddorol iawn bod pawb hyd yma sydd wedi dyfynnu'r pwt yn ein cylchebost 'mewnol' wedi gadael allan y darn lle mae Iestyn yn pwyntio allan bod angen bod efo synnwyr digrifwch, ond wneith o ddim drwg i gysylltu gyda chwmniau os ydy pobl yn teimlo anhapus am rywbeth.

Y Wasting Mule penderfynodd yn eu doethineb bod hyn yn stori - er nad oedd datganiad i'r Wasg gan Gymuned, ac er nad oedd fawr o ddiddordeb gynnon ni dweud unrhyw beth amdano fo. Ond pan mae pobl yn cysylltu gyda ni yn dweud bod nhw'n teimlo'n gryf am rywbeth, wedi cwyno amdano fo, ac isio rhannu hynny efo pobl eraill ar ein rhestr ebost, dim lle ni ydy achub cam ein meistri yn y cwmniau mawrion...

Mwyaf yn y byd o bobl sydd yn fodlon gwneud ymdrech o ryw fath, gorau yn y byd - bydd cwynion rhai ohonyn nhw yn taro eraill yn ddigon diniwed, ond mae'r opsiwn arall, bod ni'n annog pawb i beidio byth â dweud dim byd rhag ofyn bydd Cymry 'gwell' yn eu galw nhw'n gul, yn taro fi yn llawer mwy annifyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 03 Ebr 2008 7:24 pm

Aran- edefyn Denu mwy o bobl cyffredin i'r Steddfod Genedlaethol. Y neges gyntaf. Y frawddeg olaf- ia, mewn coch.

Y Wasting Mule, Golwg- pa gyhoeddiad sy'n mynd i bechu nesaf? Nid yw'n dacteg doeth i unrhyw wleidydd ddechrau rantio a dweud fod rhai cyhoeddiadau yn faw isa'r domen. Rhaid trio gweithio hefo'r cyhoeddiadau yma. Cyfathrebu. Creu ffrindiau yn y wasg-amynedd. Mae'n holl bwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan sian » Iau 03 Ebr 2008 10:46 pm

Aran a ddywedodd:Ond pan mae pobl yn cysylltu gyda ni yn dweud bod nhw'n teimlo'n gryf am rywbeth, wedi cwyno amdano fo, ac isio rhannu hynny efo pobl eraill ar ein rhestr ebost, dim lle ni ydy achub cam ein meistri yn y cwmniau mawrion...

Ond does bosib bod rhywfaint o gyfrifoldeb arnoch i wneud yn siwr bod y gwyn yn ddilys neu mae'n adlewyrchu'n ddrwg ar y mudiad.

Aran a ddywedodd:Mwyaf yn y byd o bobl sydd yn fodlon gwneud ymdrech o ryw fath, gorau yn y byd - bydd cwynion rhai ohonyn nhw yn taro eraill yn ddigon diniwed, ond mae'r opsiwn arall, bod ni'n annog pawb i beidio byth â dweud dim byd rhag ofyn bydd Cymry 'gwell' yn eu galw nhw'n gul, yn taro fi yn llawer mwy annifyr.

Nid dyna'r pwynt. Faint bynnag o waith da mae Cymuned yn ei wneud yn dawel yn y cefndir, y peth mae pobl yn mynd i sôn amdano yw achosion petty fel hyn sy'n eu gwneud yn dipyn o jôc.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Papur Bro yn symud gyda'r amser? Bonc gyda Clonc!

Postiogan mabon-gwent » Gwe 04 Ebr 2008 10:24 am

Wel, ar ôl y fuss yn y Trallwng y Dolig diwetha, na fyddai fe sioc mawr bod yn onest...
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron