Monkeyspoon a ddywedodd:Diolch pawb. Fi'n falch iawn bod chi'n meddwl mod i'n iawn i ddefnyddio maes e. Mae'n rhwystredig bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn rhy swil neu ansicr. Dw i wedi cwrdd â dysgwyr sy'n cael llawer o broblemau ond hefyd dysgwyr sy'n neud fi'n teimlo'n euog am neud dim digon. Ro'n i'n meddwl byddai wedi bod fforwm ar faes e i ddysgwyr ('i' yn lle 'am' yma? nes i gamgymeriad yn y teitl?).
Felly, bydda i'n postio yma a darllen llawer a baswn i hapus i gwrdd â phobl yn y bywyd go iawn (os mae hynny'n fodoli) am beint a sgwrs. Dw i'n neud fy ngwaith cartref sgrifennu dylwn i wedi neud yn barod o'r cwrs pellach ar fy hen blog os chi'n dymuno bod fel tiwtor a chywiro fe.
Dysgwr ydw i hefyd a dw i wedi bod yn darllen y negeseuon ar faes-e ers tipyn o amser erbyn hyn, ond nes i benderfynu neidio mewn i'r safle fel defnyddiwr go iawn pan mi ddarllenais eich post chi. Fel dysgwr, dw i'n ceisio bod yn berffaith yn hytrach na dim ond trio siarad neu ysgrifennu'r iaith gyda camgymeriadau.
O leia nawr, dw i'n gwybod bod 'na pobl eraill ar y safle sy'n trio cyfrannu i'r dadlau 'ma heb fod yn hollol rhugl! diolch am dynnu sylw at y pwnc!