Fforwm am ddysgwyr?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Monkeyspoon » Sul 13 Ebr 2008 5:49 pm

Mae rhai ohonyn nhw'n nabod fi fel ffotograffydd ar flickr neu un o'r ddysgwyr oedd yn cadw blog am ei brofiad (wedyn rhoi i'r gorau). Dw i'n moyn ofyn os oedd, ar unrhywbryd yn y gorffennol, fforwm am ddysgwyr. Oherwydd dw i ddim eisiau neud camgymeriadau pob man a sgrifennu bolocs pan mae pobl rhugl yn darllen. Oes digon o ddiddordeb gyda dysgwyr i ymarfer mewn fforwm fel hyn? Mae'n debyg nad oes llawer o ddysgwyr yn gwybod am Maes E... do'n i ddim tan diweddar. Dw i wedi ffeindio sialens / her newydd ar ôl cael fy ngwahodd i'r rownd gynderfynol y cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn 2008 ar gyfer yr eisteddfod yng Nghaerdydd y flwyddyn 'ma. Felly nawr mae rhaid ymarfer ble bynnag a sut bynnag sy'n bosib!!!!!!!

P.S (wedi anghofio beth yw'r fersiwn Gymraeg am hynny) Owen dw i. Dw i'n byw ym Mhorthcawl a dw i'n treulio fy amser tynnu llunia. Dw i wedi bod yn dysgu ers mis Medi 2006.

Diolch
Monkeyspoon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:06 am
Lleoliad: Porthcawl a Chaerdydd

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 13 Ebr 2008 6:27 pm

Helo Monkeyspoon, croeso i faes-e! Wn i ddim os oes fforwm i ddysgwyr, ond o ddarllen dy neges dwi'm yn meddwl dy fod angen un; roedd dy neges yn gwbwl eglur. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, a pha le gwell gei di ymarfer na ynghanol 3000 o gyd-Gymry? Pob llwyddiant i ti yng nghystadleuaeth dysgwr y flwyddyn! :)
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Emma Reese » Sul 13 Ebr 2008 8:07 pm

S'mae Monkeyspoon. Mae 'na sawl fforymau i ddysgwyr a dweud y gwir, ond dydy'r un ohonyn nhw mor lewyrchus â maes-e. Dyma'r ddau dw i'n aelod ohonyn nhw:

http://www.welshbeginners.co.uk/forum/index.php (Dos i "Welsh Only")
http://www.celticradio.net/php/forums/i ... owforum=76 (Dan ni'n postio i "Beginner's Welsh" yn unig bellach.)
Golygwyd diwethaf gan Emma Reese ar Sul 13 Ebr 2008 8:50 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sul 13 Ebr 2008 8:18 pm

Sdim ond un ffordd sicr o ddysgu unrhyw iaith: chwilia am siaradwyr rhugl yn lle dysgwyr a byddet ti'n gwella dy Gymraeg yn lawer mwy cyflym oherwydd yr enghreifftiau gwell o gwmpas. Felly dwi'n awgrymu rhai gwefannau defnyddiol iawn: Maes-E, Maes-E a Maes-E.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan ceribethlem » Sul 13 Ebr 2008 8:18 pm

Monkeyspoon a ddywedodd:Mae rhai ohonyn nhw'n nabod fi fel ffotograffydd ar flickr neu un o'r ddysgwyr oedd yn cadw blog am ei brofiad (wedyn rhoi i'r gorau). Dw i'n moyn ofyn os oedd, ar unrhywbryd yn y gorffennol, fforwm am ddysgwyr. Oherwydd dw i ddim eisiau neud camgymeriadau pob man a sgrifennu bolocs pan mae pobl rhugl yn darllen. Oes digon o ddiddordeb gyda dysgwyr i ymarfer mewn fforwm fel hyn? Mae'n debyg nad oes llawer o ddysgwyr yn gwybod am Maes E... do'n i ddim tan diweddar. Dw i wedi ffeindio sialens / her newydd ar ôl cael fy ngwahodd i'r rownd gynderfynol y cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn 2008 ar gyfer yr eisteddfod yng Nghaerdydd y flwyddyn 'ma. Felly nawr mae rhaid ymarfer ble bynnag a sut bynnag sy'n bosib!!!!!!!

P.S (wedi anghofio beth yw'r fersiwn Gymraeg am hynny) Owen dw i. Dw i'n byw ym Mhorthcawl a dw i'n treulio fy amser tynnu llunia. Dw i wedi bod yn dysgu ers mis Medi 2006.

Diolch

Roedd son (os fi'n cofio'n iawn) am gael fforwm i ddysgwyr ar faes-e rhai blynyddoedd yn ol, ond y barn cyffredinol (gan y dysgwyr hefyd) oedd y byddai'n fwy manteisiol iddynt gyfranu yn yr edefynnau arferol (un rheswm oedd fod cyn lleied o ddysgwyr ar y maes).

Fel dywedodd Tegwared ap Seion, mae safon dy Gymraeg di'n uchel ac yn llond digon da i gyfrannu ar y maes yma. Mwynha dy brofiad yma.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan mabon-gwent » Sul 13 Ebr 2008 8:31 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:Sdim ond un ffordd sicr o ddysgu unrhyw iaith: chwilia am siaradwyr rhugl yn lle dysgwyr a byddet ti'n gwella dy Gymraeg yn lawer mwy cyflym oherwydd yr enghreifftiau gwell o gwmpas. Felly dwi'n awgrymu rhai gwefannau defnyddiol iawn: Maes-E, Maes-E a Maes-E.


Cwdnt agri mo, dyma fy mhrofiad yn union
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Rhys » Llun 14 Ebr 2008 1:18 pm

Roeddwn i'n cynnal fforwn o'r enw Siawns am Sgwrs ond mond rhyw 4-5 person oedd yn cyfrannu ac mae angen critical mass.

Mae hefyd: http://www.forumwales.com/phpbb2/index.php?c=6

Yn bersonol mae dysgwyr yn rhy swil/ansicr i gyfrannu at fforwm dysgwyr hys yn oed ar y dechrau, ac unwaith maen't yn dod yn rhugl, waeth iddynt gymeryd y plunge ac ymuno â maes-e. Dwi'n meddwl bydde ti'n gwastraffu dy amser ar fforwm dysgwyr a tithau'n gallu ysgrifennu mor dda.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Monkeyspoon » Llun 14 Ebr 2008 4:02 pm

Diolch pawb. Fi'n falch iawn bod chi'n meddwl mod i'n iawn i ddefnyddio maes e. Mae'n rhwystredig bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn rhy swil neu ansicr. Dw i wedi cwrdd â dysgwyr sy'n cael llawer o broblemau ond hefyd dysgwyr sy'n neud fi'n teimlo'n euog am neud dim digon. Ro'n i'n meddwl byddai wedi bod fforwm ar faes e i ddysgwyr ('i' yn lle 'am' yma? nes i gamgymeriad yn y teitl?).

Felly, bydda i'n postio yma a darllen llawer a baswn i hapus i gwrdd â phobl yn y bywyd go iawn (os mae hynny'n fodoli) am beint a sgwrs. Dw i'n neud fy ngwaith cartref sgrifennu dylwn i wedi neud yn barod o'r cwrs pellach ar fy hen blog os chi'n dymuno bod fel tiwtor a chywiro fe.
Monkeyspoon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:06 am
Lleoliad: Porthcawl a Chaerdydd

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Emma Reese » Llun 14 Ebr 2008 4:26 pm

Croeso mawr i ti i'r fforymau i ddysgwyr beth bynnag. Mi gei di roi cymorth iddyn nhw.

Wyt ti'n gwneud cwrs pellach? A finna ond trwy'r post.
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: Fforwm am ddysgwyr?

Postiogan Monkeyspoon » Llun 14 Ebr 2008 4:45 pm

Dw i'n gwneud y cwrs Uwch nawr ar ôl neud y cwrs pellach trwy'r haf diwethaf dros bedair wythnos. Rhy gyflyn i fod yn onest. Dyna pam nes i ddim o'r waith cartref. Mae llawer o barch da fi i bobl sy'n dysgu tu hwnt i Gymru. Mae'n ddigon anodd yng Nghymru!!!!!

dyma fy mhlog - http://mwncillwy.blogspot.com/

Bydd y blog yn ddiflas achos does dim byd arbennig da fi i ddweud ond dw i'n teimlo fel os bydd fy ngwaith yn mynd arlein, dylwn i ganolbwyntio am gadw safon eitha uchel.
Monkeyspoon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:06 am
Lleoliad: Porthcawl a Chaerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron