Cystadleuaeth i Ddysgwyr - Ysgrifennu Stori
Mae'r Academi a Lingo Newydd - y cylchgrawn i ddysgwyr - yn rhoi gwobr am ysgrifennu stori. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i ddysgwyr yn unig.
Pwy yw'r beirniad? Catrin Dafydd - mae hi'n fardd ac yn awdur. Mae wedi cyhoeddi nofel yn Gymraeg o'r enw Pili Pala a nofel yn Saesneg o'r enw Random Deaths and Custard
Beth yw'r wobr?
£50 gan gwmni Golwg (sy'n cyhoeddi Lingo Newydd)
Cyhoeddi'r stori sy'n ennill yn Lingo Newydd
Tanysgrifiad blwyddyn i Golwg
Tanysgrifiad blwyddyn i Taliesin
Aelodaeth blwyddyn o'r Academi
Gwerth £50 o lyfrau gan Wasg Gomer.
I gystadlu rhaid i chi:
Ysgrifennu stori 500 o eiriau neu lai (gallwch anfon mwy nag un stori)
Fod yn ddysgwr
Anfon y gwaith erbyn 30 Mai 2008 at y cyfeiriad isod:
Cystadleuaeth Academi/ Lingo Newydd
Academi, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
post@academi.org / 029 2047 2266
Dyddiad cau - 30 Mai 2008