Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 08 Mai 2008 12:16 pm

krustysnaks a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Er enghraifft bydd disgwyl i Fanc Lloegr gydymffurfio nawr OND dwi'n siwr mae dyna'r banc sydd a'r nifer lleiaf o gwsmeriaid sy'n Gymry Cymraeg i gymharu a dywed HSBC, Lloyds ayyb...

Does gan Banc Lloegr ddim cwsmeriaid - nid dyna'r math o fanc ydyn nhw...

Dyna oedd fy mhwynt 8)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 08 Mai 2008 12:33 pm

S.W. a ddywedodd:Hedd, yn lle ffwcio o gwmpas yn neud Datganiadau i'r Wasg sydd yn y bon yn ymosod ar ymestyn yr ddeddf iaith i gynnwys cyrff cyhoeddus...

Yn lle bod yn lapdogs i Welsh Lebyr pam na all gweinidogion Plaid Cymru ddangos arweiniad?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan *Dafydd* » Iau 08 Mai 2008 1:40 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd: Hen dric y Blaid Lafur o ail-gyhoeddi hen newyddion.

Paid becso, Hedd. Mae'r Ceidwadwyr yn dod, bydd popeth yn iawn, wedyn. 8)
i lwyddo, y gyfrinach yw onestrwydd a chwarae teg. Os gellwch ffugio'r rheini, wnewch chi byth fethu. G.M.
Rhithffurf defnyddiwr
*Dafydd*
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 11:22 am
Lleoliad: De Cymru

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Rhods » Iau 08 Mai 2008 2:42 pm

Pam glywais i ar radio bore ma bod 57 o gwmniau ychwanegol fod darparu cynlluniau iaith, roeddwn ni a teimladau cymysg. Siomedig nad oedd yn ddeddfwriaeth ieithyddol (hy dileu eto), ond ar y run pryd yn croesawu'r ffaith fod 57 o gwmniau 'newydd' yn darprau cynlluniau iaith...OND yn darllen hyn ar y maes nawr, a gweld mai jyst ail-adrodd mwy neu lai yr hyn a ddywedwyd gan Alun Pugh blwyddyn yn ol y mae Rhodri Glyn,..wel, a odi hyn yn cymryd y piss braidd? Dwi yn gwbod bod y regime plaid/llafur ma yn obsesd i sicrhau bod unrhyw penderfyniad/polisi yn cael cyhoeddiad mawr o flaen y wasg ar cyfryngau..ond ma hyn yn braidd yn insultive a nawddoglyd tuag at yr iaith i ddweud y lleiaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 08 Mai 2008 8:48 pm

A wyddoch chi y cafodd eich geni? Dyma chi, yn malu awyr dros bwy sy'n cael ac sy ddim yn cael eu gorfodi am gyfathrebu yn y Gymraeg - a dyma ni yn Nheyrnas Ffeiff heb ddim un ysgol o unrhyw radd lle mae;n bosib i mab i ddysgu Gaeleg. Sori, ond mae gen i dipyn o "jaded perspective" yma. Wrth ymweld a Chymru, rydw i'n gweld y Gymraeg yn bur aml. Yn yr Alban, rydw heb weld dim arwydd yn yr Aeleg yn unman yn Ffeiff, Dundee, Llwyddion (wel, mae UN yng Ngorsaf Waverley sy'n dweud "Fàilte gu Stèiseann Dùn Èideann" weithiau - ac wrth gwrs mae arwyddion Gaeleg mewn rhannau o Holyrood). Hyd yn oed yn Ynys Sgei mae prinder arwyddion Gaeleg yn warthus.

Ond, ar y llaw arall, mae hen ddihareb ond oes, "Bydd realistig - mynna'r amhosib". Felly, pob lwc efo chais am ddeddf iawn i'r Gymraeg. Ond cofiwch y rhai llai ffodus.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 09 Mai 2008 11:18 am

Ie, ond cer di i Wlad y Basg a mae yna archfarchnadoedd lle mae'r arwyddion yn UNIAITH Basgeg...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 10 Mai 2008 7:18 am

Wedi gweld yr un beth ym Machynlleth flynyddoedd yn ol - nid Euskera, wrth gwrs, ond Cymraeg - arwyddion ar yr heolydd yn uniaith Gymraeg. Heb os, basai hyn wedi newid erbyn hyn yn arwyddion ddwyieithog...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Cwlcymro » Llun 12 Mai 2008 11:28 am

Ray Diota a ddywedodd:Hynny yw, ma datganiad Alun Pugh yn son am ymgynghori 'da 59 ynghylch eu tynnu i mewn i'r ddeddf... ma datganiad Plaid yn son am dynnu 57 i mewn i'r Ddeddf nawr bod yr 'ymgynghori' drosodd... dyden nhw ddim yn anghywir i wneud datganiad newydd jyst, wel, slei, braidd, a sbin llwyr yw gneud ffanffer fawr a'i gyflwyno fel

Plaid Minister's bold move on Welsh language

Yn hollol. Di hwn ddim union rhyn datganiad, na datganiad yn deud union rhyn peth. Mae'r erthygl o 2007 yn deud ei hun na fysa na ddatganiad ar y penderfyniad terfynol tan ar ol yr etholiad. Y ffanffer sy'n anghywir yma rili, dim y datganiad ei hun.

A HoRach, anheg ydi dweud fod hwn yn ryw fath o "delaying tactic" efo'r Ddeddf iaith. Gan fod y penderfyniad yma wedi bod ar y gweill ers blwyddyn, a bod y Llywodraeth wedi dweud flwyddyn nol y bysa na ddatganiad ar y matar ar ol y lecshwn ma hunna yn gyhuddiad anheg rili.

Dwina'n teimlo fysa CyI wedi bod yn well yn croesawu'r datganiad ond pwysleisho ma Deddf iaith sydd yn wir bwysig. Dwi'n sylwi fod CyI wedi beirniadu'r rhestr pan soniadd Alun pugh a y peth yn 2007 hefyd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Ray Diota » Llun 12 Mai 2008 11:39 am

Cwlcymro a ddywedodd:

Falle bo ti'n iawn, ond dwi'n meddwl bod CyI yn iawn i nodi i bobl nad yw hyn yn rhyw ddatblygiad 'bold' newydd gan y Gweinidog. Ma 'Plaid Minister's Bold Move on Welsh Language' yn nesa peth at gelwydd a ma ishe neud yn siwr bod pobol yn deall 'ny...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Cwlcymro » Iau 15 Mai 2008 6:23 pm

Ray Diota a ddywedodd:Ma 'Plaid Minister's Bold Move on Welsh Language' yn nesa peth at gelwydd a ma ishe neud yn siwr bod pobol yn deall 'ny...

Digon gwir, Llafur wnaeth benderfynu ar hwn a'i wneud o, dim ond gorffan y job a cymeryd y clod nath Rhodri Glyn.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron