Ray Diota a ddywedodd:Hynny yw, ma datganiad Alun Pugh yn son am
ymgynghori 'da 59 ynghylch eu tynnu i mewn i'r ddeddf... ma datganiad Plaid yn son am dynnu 57 i mewn i'r Ddeddf nawr bod yr 'ymgynghori' drosodd... dyden nhw ddim yn anghywir i wneud datganiad newydd jyst, wel, slei, braidd, a sbin llwyr yw gneud ffanffer fawr a'i gyflwyno fel
Plaid Minister's bold move on Welsh language
Yn hollol. Di hwn ddim union rhyn datganiad, na datganiad yn deud union rhyn peth. Mae'r erthygl o 2007 yn deud ei hun na fysa na ddatganiad ar y penderfyniad terfynol tan ar ol yr etholiad. Y ffanffer sy'n anghywir yma rili, dim y datganiad ei hun.
A HoRach, anheg ydi dweud fod hwn yn ryw fath o "delaying tactic" efo'r Ddeddf iaith. Gan fod y penderfyniad yma wedi bod ar y gweill ers blwyddyn, a bod y Llywodraeth wedi dweud flwyddyn nol y bysa na ddatganiad ar y matar ar ol y lecshwn ma hunna yn gyhuddiad anheg rili.
Dwina'n teimlo fysa CyI wedi bod yn well yn croesawu'r datganiad ond pwysleisho ma Deddf iaith sydd yn wir bwysig. Dwi'n sylwi fod CyI wedi beirniadu'r rhestr pan soniadd Alun pugh a y peth yn 2007 hefyd.