Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 08 Mai 2008 8:47 am

Cyhoeddiad anhygoel o siomedig arall gan Rhodri Glyn-Thomas heddiw ynghyl a pa gwmniau/asiantaethau fydd yn dod mewn i'r Ddeddf Iaith Newydd - ag eithrio eithriadau prin fel y Post Brenhinol ac o bosib y Loteri Genedlaethol nid yw rhain yn gwmniau/asiantaethau mae Cymry Cymraeg yn gwneud gyda nhw dydd i ddydd.

Er enghraifft bydd disgwyl i Fanc Lloegr gydymffurfio nawr OND dwi'n siwr mae dyna'r banc sydd a'r nifer lleiaf o gwsmeriaid sy'n Gymry Cymraeg i gymharu a dywed HSBC, Lloyds ayyb... siomedigaeth arall fan hyn o addewidion Cymru'n Un yn toddi ffwrdd.

Y rhestr:

Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol
Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
Banc Lloegr
Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu
Comisiwn Cystadleuaeth
Comisiwn Datblygu Cynaliadwy
Comisiwn Etholiadol
Comisiwn Hapchwarae
Comisiwn y Loteri Genedlaethol
Cronfa Loteri Fawr
Cyllid Cymru
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr
Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Cyngor Llyfrau Cymru
Cyngor Optegol Cyffredinol
Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Cyngor Prydeinig
Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddiol Gofal Iechyd
FFORWM NESTA (Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau)
OFCOM
Sefydliad Datblygu Cymunedol
Swyddfa Archwilio Cymru
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
UK Sport
Uned Ddata Llywodraeth Leol
Y Post Brenhinol
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Ymddiriedolaeth Carbon

Cynghorau Sgiliau Sector x 25
Cogent
Cyngor Sgiliau Gwasanaethau Ariannol
Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol
Dysgu Gydol Oes
e-sgiliau
Go Skills
Improve
Lantra
Pobl yn 1af
Proskills
SEMTA
Sgiliau Adeiladu
Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder
Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu
Sgiliau ar gyfer Iechyd
Sgiliau ar gyfer Logisteg
Sgiliau Asset
Sgiliau Llywodraeth
Sgiliau Modurol
Sgiliau Ynni a Chyfleustodau
Skillfast
SkillsActive
Skillset
Skillsmart
Summit Skills
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 08 Mai 2008 9:46 am

Gwarthus. Dim math o orfodaeth ar y sector preifat, sy'n gwbl, gwbl annerbyniol. Gobeithio y byddwn yn clywed mwy maes o law, ond dydi rhestr hirfaith o ganghennau amwys y sector cyhoeddus jyst ddim digon da.

Ond beth arall ddylwn ni ddisgwyl gan Rhodri Glyn? Mae'r boi'n anobeithiol :rolio:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan S.W. » Iau 08 Mai 2008 9:51 am

Rhys, tra dwi'n cytuno nad yw hwn cystal o bell ffordd a Deddf Iaith go iawn rhaid tynnu sylw at ambell i beth ti wedi ei ddweud:

Banc Lloegr - does ganddyn nhw ddim cwsmeriaid fel sydd gan HSBC yn amlwg, nid banc i ti gael ISA hefo nhw ydy o. Nhw i bob pwrpas ydy un o reolwyr y sector ariannol ym Mhrydain (gyda'r FSA). Gall efallai fod yn gam at roi mwy o bwysau ar y sector ariannol yn ei chfanrwydd efallai wrth drin y Gymraeg (long shot dwi'n gwbod oherwydd dio'm yn dechnegol yn eu remit nhw).

Ofcom - swn i'n tybio bydd gryn dipyn o bobl gyffredin yn delio a rhain - cwyno bod ne ormod o drais yn Eastenders, cwyno bod Ann Robinson di deud rhywbeth arall am ni'r Cymry ayyb.

Cwynion yr Heddlu - un hynod bwysig swn i'n dweud, nid ar gyfer Heddlu i gwyno mae hwn ond i bobl fel ti a fi,

Comisiwn Etholiadol yr un peth

Dysgfu Gydol Oes oherwydd ei natur yn mynd i fod wyneb yn wyneb a'r cyhoedd.


Credu dy fod yn euog o drio bychanu'r cam bwysig hwn gan nad ydy o'n cynnwys busnesau preifat. Yn bersonol dwi'n gweld o'n gam pwysig ymlaen hyd yn oed os dio'm eto di mynd yr holl ffordd ag y byddwn yn dymuno gweld yn digwydd.

O ran sylw Hogyn o Rachub, just pwynt sylw, mae'n eitha hawdd neud be mae Rhodri Glyn yn neud yma - just tweakio rhywfaint at y ddeddf bresenol, mae gorfodaeth ar y sector breifat yn golygu deddf newydd. Swn i'n gobeithio mae neud un joban ar y tro mae o yma. Dwi'n gwbod ffaith bod ne fwriad gan RGT i neud mwy gyda'r sector breifat ond paid ag edrych ar hwn fel y cam olaf yn be mae o am ei wneud.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan krustysnaks » Iau 08 Mai 2008 9:51 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Er enghraifft bydd disgwyl i Fanc Lloegr gydymffurfio nawr OND dwi'n siwr mae dyna'r banc sydd a'r nifer lleiaf o gwsmeriaid sy'n Gymry Cymraeg i gymharu a dywed HSBC, Lloyds ayyb...

Does gan Banc Lloegr ddim cwsmeriaid - nid dyna'r math o fanc ydyn nhw...
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Ray Diota » Iau 08 Mai 2008 10:02 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Gwarthus. Dim math o orfodaeth ar y sector preifat, sy'n gwbl, gwbl annerbyniol. Gobeithio y byddwn yn clywed mwy maes o law, ond dydi rhestr hirfaith o ganghennau amwys y sector cyhoeddus jyst ddim digon da.

Ond beth arall ddylwn ni ddisgwyl gan Rhodri Glyn? Mae'r boi'n anobeithiol :rolio:


Tra bo fi'n joio joinio mewn da'r Cheeky Vicar-bashing fel arfer... ydwi wedi methu rhwbeth? Ers pryd ma'r Gweinidog Traftadaeth/Diwylliant (be bynnag yw'r teitl) jyst yn gallu gorfodi deddf iaith ar y sector preifat??

Ma ishe diawl o ddeddf newydd i neud hynny s'bosib?

O ran y rhestr, shwt ma'r cyrff yma'n cael eu dewis??? A bydden i 'di disgwyl i hanner nhw ddod o dan y ddeddf yn barod - Cyngor Llyfrau Cymru, er enghraifft? :?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 08 Mai 2008 10:10 am

Nonsens llwyr yw'r datganiad yma gan Rhodri Glyn heddiw. Sbin o'r radd flaenaf. Cafodd union yr un rhestr ei gyhoeddi gan ALun Pugh dros flwyddyn yn ôl:

Cyhoeddiad ALun Pugh mawrth 2007:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6 ... 476457.stm

Cyhoeddiad Rhodri Glyn Mai 2008:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 388884.stm

Mae'n warthus i ddweud y gwir! Mae angen i Rhodri Glyn ganolbwyntio ar sicrhau Deddf newydd gynhwysfawr yn hytrach na sbinio!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Ray Diota » Iau 08 Mai 2008 10:30 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Nonsens llwyr yw'r datganiad yma gan Rhodri Glyn heddiw. Sbin o'r radd flaenaf. Cafodd union yr un rhestr ei gyhoeddi gan ALun Pugh dros flwyddyn yn ôl:

Cyhoeddiad ALun Pugh mawrth 2007:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6 ... 476457.stm

Cyhoeddiad Rhodri Glyn Mai 2008:
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7 ... 388884.stm

Mae'n warthus i ddweud y gwir! Mae angen i Rhodri Glyn ganolbwyntio ar sicrhau Deddf newydd gynhwysfawr yn hytrach na sbinio!


:o :ofn: :ing:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 08 Mai 2008 10:34 am

S.W. a ddywedodd:O ran sylw Hogyn o Rachub, just pwynt sylw, mae'n eitha hawdd neud be mae Rhodri Glyn yn neud yma - just tweakio rhywfaint at y ddeddf bresenol, mae gorfodaeth ar y sector breifat yn golygu deddf newydd. Swn i'n gobeithio mae neud un joban ar y tro mae o yma. Dwi'n gwbod ffaith bod ne fwriad gan RGT i neud mwy gyda'r sector breifat ond paid ag edrych ar hwn fel y cam olaf yn be mae o am ei wneud.


Byddwn i'n gobeithio mai cam ar y tro ydyw ond 'sgen i fawr o ffydd yn hynny. Mae'r rhan fwyaf yn y rhestr yn gwbl amherthnasol i bron pawb. Beth ddylia RhGT fod yn ei wneud ydi gwthio a gwneud yr achos am ddeddf iaith gref sy'n gosod elfen o orfodaeth ar y sector preifat, ddim canolbwyntio ar gael y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol o dan ymbarel y ddeddf.

Fel y dywedodd Hedd, sbin arwynebol ydi hwn. Neu folocs. Un o'r ddau yn sicr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan S.W. » Iau 08 Mai 2008 10:56 am

Sori HoRach, ond ellai ddim cytuno a'r hyn ti'n ei ddweud.

Mae'r gwasanaethau hyn yn amherthnasol nes wyt ti'n eu defnyddio. Fel Ray mae'n fy synnu i nad yw mwyafrif y rhain eisoes wedi eu 'covero' gan y Ddeddf Iaith. Meddyli petai gennyt achos i godi mater a Ofcom neu Comisiwn Cwynion yr Heddlu a bod dim gwasanaeth Cymraeg ganddynt ER eu bod yn Gyrff Cyhoeddus?

Byddwn i'n fwy tebygol os wybeth a fod angen defyddio gwasanaeth Cymraeg gan Ofcom, y Post Brenhinol, Comisiwn Cwynion yr Heddlu neu'r Loteri nag Lloyds TSB, JJB Sports neu Little Chef.

Mae hwn yn gam arall mewn rhoi mwy o hawliau i ni'r Gymry Cymraeg. Issue hollol wahanol yw Deddf Iaith Newydd fyddai'n cynnwys y Sector Breifat!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Y Cwmniau/Asiantaethau sy'n cael tynnu mewn i'r ddeddf iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 08 Mai 2008 10:59 am

RHODRI GLYN THOMAS YN TAFLU LLWCH I LYGAID POBL CYMRU

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Ar yr olwg gyntaf mae hon yn edrych yn rhestr addawol iawn, ond o edrych yn fanwl hon yw yr un rhestr yn union ag a gyhoeddwyd gan Alun Pugh y cyn weinidog Diwylliant flwyddyn yn ôl pan oedd 59 o sefydliadau arni. Awgrym pendant fod pethau wedi aros yn eu hunafan ers tro byd."

"Yn hytrach na dibynnu ar sbin gwleidyddol, galwn ar i Rhodri Glyn Thomas ganolbwyntio ei holl egnion ar sicrhau Deddf Iaith Newydd, fydd yn cynnwys y sector breifat, ac yn gwneud rhestrau fel yr un gafwyd heddiw yn ddiangen."

"Er mwyn pwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd bu i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dargedu siop Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr gan blastro'r adeilad gyda sticeri yn galw am Ddeddf Iaith. Bydd yr ymgyrch hon yn erbyn y sector breifat yn parhau hyd nes y cawn ddeddfwriaeth gadarn ar yr iaith Gymraeg."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai