Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 13 Mai 2008 11:46 am

Delwedd

TARGEDAU MAI A MEHEFIN YW BOOTS A SUPERDRUG

Fel rhan o'r ymgyrch i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am
ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith eleni
yn targedi cwmniau sydd yn hapus i gymryd ein harian, ond yn gwrthod
cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Cychwynnwyd yr
ymgyrch trwy dargedu Morissons a Tesco yn ystod Mawrth a Ebrill.

Targedau Mai a Mehefin yw Boots a Superdrug. A fyddai modd i chi
gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmniau yma
ynglŷn â'u polisïau iaith diffygiol? Y mwyaf o gwynion mae'r cwmniau
yn derbyn, y gorau yw ein siawns o lwyddo.

Rydym yn galw ar y cwmniau i sicrhau gwasanaeth gyflawn trwy gyfrwng
y Gymraeg. Mae modd lawrlwytho llythyr enghreifftiol yma:

http://cymdeithas.org/rtf/llythyr-cwyn- ... erdrug.rtf

Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon eich cwyn wedi'u nodi isod.

BOOTS

* http://www.boots.com/help/BootsStoresSe ... ontact.jsp
* richard.baker@boots-plc.com
* Boots Customer Care, PO Box 5300, Nottingham, NG90 1AA

SUPERDRUG

* help@superdrug.com
* Customer Services, 118 Beddington Lane, Croydon, Surrey, CR0 4TB
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 15 Mai 2008 1:48 am

Targedwyd cangen Caernarfon o Boots heno.

Delwedd

Delwedd

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Targedu Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 19 Mai 2008 2:01 am

Oes yna batrwm yn datblygu fan hyn?

Delwedd

Delwedd

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Norman » Llun 19 Mai 2008 11:14 am

Delwedd

8)
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan huwwaters » Llun 19 Mai 2008 4:05 pm

Norman a ddywedodd:Delwedd

8)


Ninja Pendragon wedi bod yn rhoi sticeri fyny?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 20 Mai 2008 2:40 am

Bu Gweithred yn erbyn Boots Bangor heno...

Delwedd

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Gari Mynach » Maw 10 Meh 2008 1:24 pm

Newydd fod ar wefan Cymdeithas Yr Iaith. Beth yw'r newyddion diweddaraf? Cynlluniau etc.
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 10 Meh 2008 2:34 pm

Erthygl yn y Daily Post heddiw.

cymdeithas.org a ddywedodd:Arestio 4 yng Nghaernarfon – Gweithredu yn erbyn Superdrug a Boots

Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr. Codwyd sticeri a phosteri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a phaentiwyd sloganau ar ganghennau o Boots a Superdrug ym Mangor, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach 'Gweddnewid y Sector Breifat' a fydd yn parhau dros y misoedd nesaf, yn galw ar gwmnïau mawr yn y sector breifat i fabwysiadu polisïau dwyieithog cynhwysfawr ac effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu fel cyrff cwbl ddwyieithog. Mae'r grŵp pwyso yn bygwth rhagor o weithredu yn erbyn Boots A Superdrug os na welir newidiadau cadarnhaol yn eu polisi iaith. Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."

Boots a Superdrug yw targedau Cymdeithas yr Iaith yn ystod Mis Mai a Mehefin eleni. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol gwmnïau cadwyn amlwg eraill dros y flwyddyn nesaf er mwyn pwysleisio'r angen am ddeddf iaith newydd.

Targedau Ymgyrch Gweddnewid y Sector Breifat:

Mai/Mehefin '08: Boots/Superdrug
Gorffennaf/Awst ’08: Woolworths/W H Smiths
Medi/Hydref ’08: Abbey/Co-op Bank
Tachwedd/Rhagfyr ’08: Orange/Vodafone


Delwedd

Delwedd

Mae'r 4 yn wynebu achos Llys. Cafodd ffônau symudol a chamerâu digidol y 4 eu cipio, yn ogystal â'r car yr oeddynt yn ei ddefnyddio. Mae'r heddlu yn cadw'r rhain fel 'tystiolaeth' er bod y 4 wedi cymryd cyfrifoldeb llawn! Mae modd iddynt wneud hyn trwy ddefnyddio pwerau newydd yr heddlu! :drwg:

Y ffordd gorau o ddangos cefnogaeth i'r 4 uchod yw i gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at Boots a Superdrug yn cwyno am eu polisïau iaith diffygiol. Mae modd lawrlwytho llythyr enghreifftiol yma:

http://cymdeithas.org/rtf/llythyr-cwyn- ... erdrug.rtf

BOOTS - http://www.boots.com/help/BootsStoresSe ... ontact.jsp / richard.baker@boots-plc.com

SUPERDRUG - help@superdrug.com
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Chip » Mer 11 Meh 2008 7:44 pm

Da iawn i chi pedwar.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Re: Targedu Boots a Superdrug Mai/Mehefin 2008

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 12 Meh 2008 11:20 am

O'r Caernarfon & Denbigh Herald heddiw:

Angharad Tomos a ddywedodd:I congratulate the members of Cymdeithas yr Iaith who painted slogans on shops in
North Wales showing the deficiencies of the Welsh Language Act.
If you disregard the Welsh language in your business there is no power under present law
to prosecute you.
Yet, if you draw attention to this dire situation, then you are punished harshly. Not
only were the four protesters kept in police cells for 12 hours overnight on Monday, they
will be facing heavy fines in court.
In the meantime, the police seized the mobile phones of the four members and confiscated
the car they were travelling in.
This shows how the police can punish activists twice under new powers that have been
given them.
No powers to safeguard the Welsh language, but plenty of powers for the police.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron