Dragon's Eye - Deddf Iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 23 Mai 2008 9:16 am

Welodd rhywun hwn neithiwr? Pwy oedd yn siarad a beth oedd ganddo nhw i ddweud?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan Wilfred » Gwe 23 Mai 2008 9:25 am

Fedri di weld y rhaglen ar BBC iPlayer am 6 diwrnod arall.

Gweler
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 23 Mai 2008 9:26 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pwt oedd yn siarad

Nid wyf yn deall.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Gwe 23 Mai 2008 9:31 am

Wow - wele Wylit yn sgorio pwynt bach dibwrpas ar sail camgymeriad teipio amlwg. Dyna dwi'n lecio am ddisgwrs wleidyddol Cymru - safon y dadlau.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 23 Mai 2008 9:37 am

Naci DI! Nid dyna oedd fy mwriad! Iawn, mae'r geiniog wedi disgyn i mi nawr: camsillafu- "pwy" ac nid "pwt". 'Roeddwn wedi hanner meddwl fod "pwt" yn lysenw ar rywun! Nid oeddwn yn siwr!
Sylwaf fod Plaid Cymru nawr yn aelod o'r maes. Beth yw'r bwriad? A fyddwch yn cyfrannu tuag at drafodaethau fel yr un yma? Disgwrs gyhoeddus. Pawb a'i farn math o beth. Ynteu a fydwch jesd yn dechrau edafedd fel rhyw fath o gyhoeddiad i'r cyhoedd Cymraeg eu hiaith? Dim ond gofyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan mabon-gwent » Gwe 23 Mai 2008 11:20 am

Ro'n ni'n hoffi cymhariaeth Don Touhig â Iwerddon, safle hollol gwahanol, roedd Iwerddon yn colli ei phobl i America ar ôl y Civil War, hefyd doedd dim arian yno. Ffaith arall yw bod yr iaith yno oedd yn crebachu cyn annibyniaeth, nid yn tyfu fel y gymraeg...

And that will mean, as they found in Ireland in the 1930s, that the language died effectively


Dadl clyfar yw defnyddio dau sefyllfa tebyg. Da iawn iddo.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan Lletwad Manaw » Gwe 23 Mai 2008 2:51 pm

Beth am y dwpsen Lorraine Barrett yna, yn gweud bod hi wedi dewis cael ei biliau hi yn uniaith Saesneg am fod y rhai dwyieithog yn ei drysu hi! Gotshen wrth Gymraeg...dim byd arall!!
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan mabon-gwent » Gwe 23 Mai 2008 8:26 pm

Lletwad Manaw a ddywedodd:Beth am y dwpsen Lorraine Barrett yna, yn gweud bod hi wedi dewis cael ei biliau hi yn uniaith Saesneg am fod y rhai dwyieithog yn ei drysu hi! Gotshen wrth Gymraeg...dim byd arall!!


Mae llawer o ddadlau dros dderbyn pethau yn un iaith neu'r llall, ond mae hi'n dweud bod hi'n rhy dwp, dyna rhywbeth arbennig.

A ddweud y gwir, sdim reswm da ni nid cael y deddf. Mae'n well 'da'r gwlad jyst dros y cwmniau mawr siwr y fod, ond fel dysgwr ifanc bydd mwy arian yn fy mhoced o'r siopau bach y Fenni na Tesco ac ati. Ro'n i'n meddwl £200 o bunnoedd dros bopeth yn y siop. Yn anffodus bydda i yn y prifysgol cyn bod y Senedd yn gwneud unrhywbeth, dyna ni :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Dragon's Eye - Deddf Iaith

Postiogan xxglennxx » Sul 01 Meh 2008 1:44 pm

O na! Ro'n i isio gweld hon 'fyd! A fi newydd glicio ar iPlayer, a dyw hi'm ar gael rhyw myw! Yda rhywun yn gwpod lle gallaf edrych hi??

Diolch :)
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron