Rhys Llwyd a ddywedodd:Dylan, dwi'n dy hoffi di a dy barchu ond mae'r sylwad yma yn ofnadwy! Hunanoldeb, hunan-bwysigrwydd a bod yn farus a dim byd arall yw attitude o'r fath. Ydy popeth wyt ti yn ei wneud yn rywbeth wyt ti'n ei wneud er mwyn elwa'n ariannol!? Tase ni'n elwa'n ariannol o'r pethau dy ni'n rhoi ein egni a'n hamser mewn iddyn nhw (gweithgarwch Cristnogol, CYIG, gwaith elusenol etc...) mi fuasai'r byd yn le gwahanol a phobl fel Ghandi etc... fyddai'n filiwynyddion nid Bill Gates ayyb...! Tydw i ddim yn filiwnydd ond dydy hynny ddim yn fy mhoeni i oherwydd nid elw ariannol sydd yn fy nghymell ac nid elw ariannol oedd yn cymell y cyfryw rai egwyddorol a fuddsoddodd yn y byd.
O'i roi mewn cyd-destun gwahanol: cymera yr holl bobl sy'n cyfrannu miliynau i Oxfam, Cymorth Cristnogol, Tearfund etc... lle mae'r posibilrwydd o elwa'n arianol fan yna? Wel, dydy e ddim yna! Pam? Oherwydd fod egwyddorion a dyletswydd i gyd-ddyn, diwylliant ac (i Gristnogion) eu ffydd yn dod ymhell cyn y posibilrwydd o elwa'n ariannol.
mae dy ddewis o eiriau wedi bradychu dy bwynt dy hun mewn ffordd.
Cyfrannu at Oxfam, Cymorth Cristnogol. Iawn, digon teg; elusennau ydyn nhw. Ond
buddsoddi mewn cwmni preifat fel Dyddiol.
dydi fy sylw wir ddim mor erchyll â hynny pan ti'n meddwl am y peth. Os oes gan fuddsoddwr wir ffydd fod y fenter am lwyddo, yna mae'n sicr o elwa ar ei fuddsoddiad. Dyna
sut mae diffinio llwyddiant y fath beth. Os nad oedd y posibilrwydd o elwa'n ffactor wrth fuddsoddi, mae hynny
gyfystyr ag ildio nad oedd y peth am lwyddo.