Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Dylan » Llun 09 Meh 2008 10:13 pm

er mwyn esbonio rhag ofn, doeddwn i ddim yn disgwyl y £25 yna'n ôl. Ond fe ddylai pwy bynnag a dalodd am danysgrifiad dderbyn eu harian yn ôl, a da clywed bod hynny'n digwydd.

fodd bynnag,

Rhys Llwyd a ddywedodd:3. Buddsoddiadau (mewn lluosogau o £500): hyn heb ei ddychwelyd a dwi'n cymryd na chaiff neb yr arian llawn yn ôl, ond ni ddylai hynny fecso trwch helaeth y buddsoddwyr gan taw ethical investment oedd e nid financail investment.


hwyrach bod hyn yn ran o'r broblem? Wrth gwrs na ddylai'r buddsoddwyr dderbyn yr arian yn ôl yn llawn os nad yw hynny'n bosibl. Mae buddsoddi mewn cwmni preifat yn risg, ac felly y dylai fod. Y diffyg wela i yn yr uchod yw hyn: oni ddylid ystyried buddsoddiad o'r fath yn fuddsoddiad ariannol? Nid elusen mo'r cyhoedd. Os nad y posibilrwydd o elwa'n ariannol o'r fenter oedd y nod wrth fuddsoddi, beth yw'r pwynt o gwbl?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 10 Meh 2008 12:47 pm

Dylan a ddywedodd: Os nad y posibilrwydd o elwa'n ariannol o'r fenter oedd y nod wrth fuddsoddi, beth yw'r pwynt o gwbl?


Dylan, dwi'n dy hoffi di a dy barchu ond mae'r sylwad yma yn ofnadwy! Hunanoldeb, hunan-bwysigrwydd a bod yn farus a dim byd arall yw attitude o'r fath. Ydy popeth wyt ti yn ei wneud yn rywbeth wyt ti'n ei wneud er mwyn elwa'n ariannol!? Tase ni'n elwa'n ariannol o'r pethau dy ni'n rhoi ein egni a'n hamser mewn iddyn nhw (gweithgarwch Cristnogol, CYIG, gwaith elusenol etc...) mi fuasai'r byd yn le gwahanol a phobl fel Ghandi etc... fyddai'n filiwynyddion nid Bill Gates ayyb...! Tydw i ddim yn filiwnydd ond dydy hynny ddim yn fy mhoeni i oherwydd nid elw ariannol sydd yn fy nghymell ac nid elw ariannol oedd yn cymell y cyfryw rai egwyddorol a fuddsoddodd yn y byd.

O'i roi mewn cyd-destun gwahanol: cymera yr holl bobl sy'n cyfrannu miliynau i Oxfam, Cymorth Cristnogol, Tearfund etc... lle mae'r posibilrwydd o elwa'n arianol fan yna? Wel, dydy e ddim yna! Pam? Oherwydd fod egwyddorion a dyletswydd i gyd-ddyn, diwylliant ac (i Gristnogion) eu ffydd yn dod ymhell cyn y posibilrwydd o elwa'n ariannol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan sian » Maw 10 Meh 2008 1:07 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd: Os nad y posibilrwydd o elwa'n ariannol o'r fenter oedd y nod wrth fuddsoddi, beth yw'r pwynt o gwbl?


Dylan, dwi'n dy hoffi di a dy barchu ond mae'r sylwad yma yn ofnadwy! Hunanoldeb, hunan-bwysigrwydd a bod yn farus a dim byd arall yw attitude o'r fath.


Swn i ddim yn licio clywed beth wyt ti'n ei ddweud am y bobl nad wyt ti'n eu hoffi. :ofn:

Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn syndod i mi bod 700 o Gymry wedi buddsoddi £500 yr un yn y Byd (ai dyna'r ffigwr cywir?) a hithau mor annhebygol y byddai'n gweld golau dydd o gwbl. Dw i ddim yn meddwl y byswn i wedi gwneud hyd yn oed pe byswn i'n gallu ei fforddio.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Dylan » Maw 10 Meh 2008 1:30 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dylan, dwi'n dy hoffi di a dy barchu ond mae'r sylwad yma yn ofnadwy! Hunanoldeb, hunan-bwysigrwydd a bod yn farus a dim byd arall yw attitude o'r fath. Ydy popeth wyt ti yn ei wneud yn rywbeth wyt ti'n ei wneud er mwyn elwa'n ariannol!? Tase ni'n elwa'n ariannol o'r pethau dy ni'n rhoi ein egni a'n hamser mewn iddyn nhw (gweithgarwch Cristnogol, CYIG, gwaith elusenol etc...) mi fuasai'r byd yn le gwahanol a phobl fel Ghandi etc... fyddai'n filiwynyddion nid Bill Gates ayyb...! Tydw i ddim yn filiwnydd ond dydy hynny ddim yn fy mhoeni i oherwydd nid elw ariannol sydd yn fy nghymell ac nid elw ariannol oedd yn cymell y cyfryw rai egwyddorol a fuddsoddodd yn y byd.

O'i roi mewn cyd-destun gwahanol: cymera yr holl bobl sy'n cyfrannu miliynau i Oxfam, Cymorth Cristnogol, Tearfund etc... lle mae'r posibilrwydd o elwa'n arianol fan yna? Wel, dydy e ddim yna! Pam? Oherwydd fod egwyddorion a dyletswydd i gyd-ddyn, diwylliant ac (i Gristnogion) eu ffydd yn dod ymhell cyn y posibilrwydd o elwa'n ariannol.


mae dy ddewis o eiriau wedi bradychu dy bwynt dy hun mewn ffordd. Cyfrannu at Oxfam, Cymorth Cristnogol. Iawn, digon teg; elusennau ydyn nhw. Ond buddsoddi mewn cwmni preifat fel Dyddiol.

dydi fy sylw wir ddim mor erchyll â hynny pan ti'n meddwl am y peth. Os oes gan fuddsoddwr wir ffydd fod y fenter am lwyddo, yna mae'n sicr o elwa ar ei fuddsoddiad. Dyna sut mae diffinio llwyddiant y fath beth. Os nad oedd y posibilrwydd o elwa'n ffactor wrth fuddsoddi, mae hynny gyfystyr ag ildio nad oedd y peth am lwyddo.
Golygwyd diwethaf gan Dylan ar Maw 10 Meh 2008 3:33 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 10 Meh 2008 3:18 pm

Dylan a ddywedodd:dydi fy sylw wir ddim mor erchyll â hynny pan ti'n meddwl am y peth. Os oes gan fuddsoddwr wir ffydd fod y fenter am lwyddo, yna mae'n sicr o elwa ar ei fuddsoddiad. Dyna sut mae diffinio llwyddiant y fath beth. Os nad oedd y posibilrwydd o elwa'n ffactor wrth fuddsoddi, mae hynny gyfystyr ag ildio nad oedd y peth am lwyddo.


Nid dim ond buddsoddi am resymau ariannol ac elw mae pobl, er enghraifft dwi'n cyfri yr arian dwi'n rhoi i elusen fel buddsoddiad - buddsoddiad ym mywydau pobl, buddsoddiad i wella sefyllfa cyd-ddyn etc... Fe fuddsoddodd cyfranddalwyr Y BYD yn eu diwylliant a dyna oedde nhw yn ei ddisgwyl yn ôl sef ysbardun a gweithgarwch diwylliannol y bydde nhw yn medru eu gwerthfawrogi ac nid mwynhau gwario y dividend.

Sian, dwi ddim yn meddwl i 700 fuddsoddi. Roedd 1 cyfranddaliad yn £500: 700x£500 = £350,000 ond fe fuddsoddodd llawer lot mwy na £500, hy prynnu mwy nag un cyfranddaliad. Dwi ddim yn siwr faint o bobl yn union fuddsoddodd ond roedd ymhell o 700, mwy fel 350.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 10 Meh 2008 3:27 pm

Dwi ddim yn cytuno â'r ffordd mae Rhys wedi ymosod ar Dylan, ond dwi yn anghytuno â be ti'n deud yn yr un modd. Faswn i'n tybio fod y buddsoddiad yn un yn y syniad, a'r fenter, heb feddwl am gael difidend ar y diwedd. Buddsoddi mewn cael papur newydd dyddiol dan berchnogaeth ei darllenwyr oeddent. Buddsoddi mewn syniad a menter fuasai'n cyfoethoci'n diwylliant Cymraeg. Mae pobol yn gallu gwneud hyn Dylan, dyw pob buddsoddiad ariannol ddim yn fuddsoddiad sydd yn disgwyl return mewn cash, ond return o fath gwahanol. Mae pobol yn buddsoddi yn musnesau eu teulu neu ffrindiau gan fod yn weddol sicr na chânt eu harian nôl. Ond mae'r buddsoddiad cash yn mynd lawer pellach na'r cash yn unig yn yr achosion yma. Rydych chi'n buddsoddi yn y bobol a'r syniad. Buddsoddiad yn y Gymraeg oedd buddsoddiad yn Y Byd, yn fy llygaid i beth bynnag. Oedd hi'n rhy ddrud i mi wneud ar y pryd, ond pe cawn gyfle eto rwan, fe fuaswn yn buddsoddi. Dwi'n siwr nad oedd pob un o fuddsoddwyr Golwg ym 1988 yn rhagweld difidend enfawr o'u blaenau nag oeddan?

Dydi o ddim ipso facto'n dweud nad oes ganddoch chi ffydd na wnaiff y fenter lwyddo, dim ond eich bod â ffydd tu hwnt i'r arian y gall o lwyddo. A phan ddaw mentrau fel hyn yn y Gymraeg, sydd yn bur anaml cofiwch, mae'n rhaid i ni arddel y ffydd hynny. Da ni hefyd yn gwybod yn iawn na all y cyfryngau Cymraeg (na'r cyfryngau "cenedlaethol" Saesneg yng Nghymru erbyn hyn, os daw hi at hynny), mewn unrhyw ffurf bron, weithio heb gymorth sybsidi gan daflu dwr eto ar y ddadl "buddsoddiad er mwyn return".

Dydi'r ffigwr o 700 ddim yn bell ohoni achos codwyd dros £300,000 mewn cyfranddaliadau. Dwi'n methu derbyn fod hi'n "annhebygol y byddai'n gweld golau dydd o gwbl" fel y dwedi di Sian. Pa belen grisial oedd gen ti dwad? A pha mor sinigaidd ydan ni'n gallu bod yng ngwyneb menter yng Nghymru? Ella nad ydan ni'n haeddu papur dyddiol, wir.

Er bod blas chwerw iawn ar y dyfarniad diweddar, mae'n rhaid symud mlaen a gobeithio bydd Golwg yn gwneud joban o lew o wella eu darpariaeth gwe wythnosol gan gynyddu trafodaeth a dadansoddiad yn y Gymraeg a rhoi cystadleuaeth gwirioneddol angenrheidiol ar ddarpariaeth newyddion "nid da lle gellir gwell" y BBC. Ma gen i barch mawr i Dylan Iorwerth a dwi'n siwr y gwna'n nhw job dda ar y swm bychan sydd 'na iddyn nhw.

Dio dal ddim yn cuddio'r ffaith na fydd ganddon ni ddarpariaeth newyddiadurol agos i fod yn gydradd a'r Saesneg mewn unrhyw fodd, na darpariaeth newyddiadurol ddyddiol wirioneddol genedlaethol chwaith - mewn unrhyw iaith. Am hynny, ac am godi a chwalu gobeithion, dyw RGT na'r anhysbys weision sifil a gyfrannodd at y penderfyniad (na'r defaid sydd wedi brefu mor siomedig eu cefnogaeth ddi-glem, party-line i'r penderfyniad) yn haeddu unrhyw faddeuant.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 29 Gor 2008 11:03 am

Ydach chi'n meddwl y bydd gwefan Golwg yn cael mwy o hits mewn diwrnod 'cyffredin' (ar gyfartaledd) na maes-e?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan eusebio » Maw 29 Gor 2008 11:37 am

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Ydach chi'n meddwl y bydd gwefan Golwg yn cael mwy o hits mewn diwrnod 'cyffredin' (ar gyfartaledd) na maes-e?


Ydach chi'n meddwl bod hi'n od i atgyfodi pwnc sydd dros fis oed am ddim rheswm

Ydach chi'n 'bothered' os bydd Golwg yn cael mwy o hits na Maes-e

Ydach chi'n rhwystredig efo'r holl gwestiynau?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Ray Diota » Maw 29 Gor 2008 11:40 am

eusebio a ddywedodd:
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Ydach chi'n meddwl y bydd gwefan Golwg yn cael mwy o hits mewn diwrnod 'cyffredin' (ar gyfartaledd) na maes-e?


Ydach chi'n meddwl bod hi'n od i atgyfodi pwnc sydd dros fis oed am ddim rheswm

Ydach chi'n 'bothered' os bydd Golwg yn cael mwy o hits na Maes-e

Ydach chi'n rhwystredig efo'r holl gwestiynau?


Whare teg, ma hwnna'n gwestiwn eitha diddorol. Gewn ni hwpo Newyddion y Bîb mewn i'r mix 'fyd a fydd hi'n ddiddorol gweld pa wefan yw'r mwyaf poblogaidd...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Golwg yn ennill 200,000 ar gyfer sefydlu gwefan newyddion

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 29 Gor 2008 1:42 pm

Di maes-e ddim yn wefan newyddion. Waeth i ti ofyn os fydd gwefan y Llyfrgell Gen neu S4C yn cael mwy o hits. Be di'r casgliad ar y diwedd? Ma xxx yn cael mwy o hits (ystadegyn digon dibwynt yn y man cynta) na xxx. Wel, so what, rili. Ma nhw'n wefanna hollol wahanol. Yr unig beth sy'n gyffredin, falla, yw fod maes-e yn wefan led-boblogaidd (er faswn i'n dadla fod Facebook wedi goddiweddyd maes-e fel y wefan Gymraeg fwayf rwan) ac o bosib, bydd gwefan Golwg yn lled-boblogaidd.

Wyt ti'n awgrymu dylai maes-e droi yn wefan newyddion? Rwan fasa hynna yn syniad gweddol ddiddorol - defnyddio brand y maes i greu tudalennau newyddion lleol...ond rwbath arall di hynna.

Cymhariaeth addas fasa cyfri unique users dyddiol tudalen gartref BBC Newyddion a thudalen gartref newyddion ar-lein Golwg, ond does neb yn gwybod beth fydd hwnnw eto felly all neb ddamcaniaethu!

Beth bynnag, mae'n reit amlwg pwy fydd yn cael y mwya :

BBC - brand byd-enwog, 10 mlynedd ar-lein yn y Gymraeg, miliynau o arian marchnata, degau o staff
vs
Golwg - brand Ceredigion-enwog, ddim ar-lein eto, prin dim arian marchnata, tua 4 staff newydd(ish)

Ond o ddifri, oes yna unrhyw amserlen gan Golwg ar gyfer dechrau gwario'r arian ma ta?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron