Dwi heb weld unrhyw fanylion, ond o'r hyn dwi wedi clywed ar Radio Cymru, ni fydd Golwg yn cynnig unrhywbeth ychwanegol ar bapur, ond yn cychwyn gwasanaeth o bostio newyddion Cymraeg yn ddyddiol ar eu gwefan. Cawn weld pa mor safonol bydd y gwasanaeth yma. Gobeithio yn wir y bydd lot mwy na blog Cymraeg drud iawn!
Ond o ran Plaid Cymru a Rhodri Glyn Thomas, dyw'r addewid yng Nghymru'n Un heb gael ei wireddu:
Byddwn yn cynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.
Dyw ychwanegu newyddion dyddiol i wefan Golwg DDIM yn gyfystyr â "sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg."