Ray Diota a ddywedodd:sai'n gweud bo maes-e'n wefan newyddion... wedi gweud 'ny, wy'n mynd trwy maes-e ar gyfer y rhan helaeth o fy 'newyddion' cymraeg...
jyst gweud bydde fe'n ddiddorol gweld pa wefan sy'n cael y mwyaf o ymwelwyr... un sy'n costio £200,000 y flwyddyn neu un a sefydlwyd gan foi yn ei ystafell wely...
Dwinna'n cael gwybod am lot o newyddion Cymraeg o fan hyn hefyd, ond yn mynd draw at y BBC am y stori lawn, ella ddyla Hedd di trio am y bycs.
Beth yw ystadegau maes-e ar hyn o bryd ta?
Ray Diota a ddywedodd:o ran y gymhariaeth golwg/byd, sai'n meddwl bod degau o bobl yn gweithio ar arlwy Cymraeg y Bîb, ose?
Wel ma gen ti'r adran wleidyddiaeth, newyddion arferol a chwaraeon felly shwrli fod hynny'n dros 10 gyda golygyddion ac ati. Dydyn nhw gyd ddim yn ffwl taim ar y wefan, ond mae llawer yn cyfrannu. Ma ganndon nhw gryn adnoddau i dynnu arnyn nhw, dyna dwi'n trio ddweud 'lly.
Maes-eio ers 2002, yo.