Edrychwch! Mae e'n gweithio!

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Edrychwch! Mae e'n gweithio!

Postiogan Peggi » Gwe 30 Mai 2008 8:50 am

Dw i'n dysgu Cymraeg yn Abertawe and ers des i i Gymru, dw i wedi bod ceisio i ddefnyddio'r Gymraeg mor llawer â bosibl. Dw i wedi mabwysiadu agwedd 'Pwy a becso' a siaradaf â phobol yn Gymraeg cyntaf. Yn neis, wrth gwrs. Ac, dw i'n dweud wrth bawb bod dysgwr Cymraeg yw i. Mae e'n synnu'r nifer o bobol sy'n siarad yn ôl - neu geisio.

A nawr, mae dau o'm cyflogwyr wedi gofyn bod i'n ysgrifennu yn Gymraeg achos bod nhw'n moyn dysgu rhai Cymraeg. Hefyd, mae fy nghymydog yn astudio mewn dosbarth nos. Mae hi'n dod o Ogledd Cymru yn wreiddiol ond ni ddysgodd Cymraeg erioed.

Dw i ddim yn siarad bod gwych yw i neu unrhywbeth, pell ohono fe, er dw i'n falch iawn iawn fod i'n gallu gwneud fy nhipyn bach i'r Gymraeg. Ond dw i'n gwybod y mae llawer o ddadl am y defnydd o'r iaith, llawer o bobl sy'n teimlo lletchwith yn clywed hi achos ni ddeallant y geiriau. Ond dw i'n credu, yn wir, os dych chi'n siarad â phobl yn Gymraeg, mae e'n tanio diddordeb yn yr iaith. Dw i'n gwybod bod ni yn syml na hynny, ond dw i'n credu bod y fwy diddordeb gallwn ni danio, y fwy bydd e'n cynyddu.

Dim ond fy 2p. :D
Peggi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 9:43 am

Re: Edrychwch! Mae e'n gweithio!

Postiogan sian » Gwe 30 Mai 2008 9:06 am

Da iawn.
Roedd rhaglen ar y teledu rhyw ddwy flynedd (?) yn ôl lle roedd Ifor ap Glyn yn ceisio mynd o gwmpas Cymru gan siarad dim ond Cymraeg - yn neis.
Byddai'n syniad da i bawb yn dechrau pob sgwrs yn Gymraeg a chario mlaen â'r sgwrs yn Gymraeg hyd y bo modd - yn neis.
Grêt!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Edrychwch! Mae e'n gweithio!

Postiogan Mali » Sad 31 Mai 2008 4:18 am

Pob canmoliaeth i ti Peggi ! :D Rwyt yn gwneud llawer mwy na 'thipyn bach i'r Gymraeg'. Mae dy frwdfrydedd yn esiampl gwych....gresun na fuasai'r rhai sydd wedi dysgu ychydig o Gymraeg yn yr ysgol yn mynd ati gyda'r un hyder , ac yn ei ddefnyddio bob dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Edrychwch! Mae e'n gweithio!

Postiogan Peggi » Sad 31 Mai 2008 9:18 am

Diolch i chi. Dw i wedi gweld y rhaglen 'na. Rhodd benthyg fy ffrind y DVD i fi ers cwpl wythnos. Roeddwn i'n gwneud hyn cyn i fi edrych ar hynny, ond roeddwn i'n ennyn a penderfynais i ceisio yn siarad mwy Cymraeg ar ôl i fi edrych ar y DVD.

Rwyt ti'n gywir, Mali, mae ffydd yn broblem i ddechreuwyr achos bod chi'n becso am siarad yn anghywir. Ond, rhaid i fi ddweud, mae'r siaradwyr brodor a dw i wedi cwrdd, maen nhw wedi bod anhygoel! Dw i ddim yn credu bod i wedi cwrdd ag unrhywun ni sy'n hapus i helpu. Mae problem i lawer o ddysgwyr, meddwl, ni siaradan felly maen nhw byth derbyn y 'feedback' cadarnhaol 'na sy'n mor bwysig yn adeiladu ffydd.
Peggi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Gwe 02 Mai 2008 9:43 am


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 3 gwestai