krustysnaks a ddywedodd:Adeiladol iawn
Oes unrhyw werth o gwbl mewn paentio sloganau y dyddiau hyn?
dw i'n licio dy sinigrwydd fel arfer ond yn yr achos yma rhaid anghytuno. Yn un peth fel y dywedodd Hedd, dim ond un elfen fach (er y mwyaf gweledol) ydi hwn. Lobïo a thrafod yw pennaf waith CyI erioed, fel y gwyddost. Hefyd, roedd y wal yna'n uffernol o hyll felly dw i'n croesawu bach o liw yno. Taclus iawn dweud gwir.