o wefan cymdeithas.org a ddywedodd:Heddiw (Dydd Iau 5ed o Fehefin) yn ystod oriau mân y bore, aeth aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn allan i baentio slogan 'Cadwn Ein Hysgolion' ar wal yn nghanol tref Caernarfon.
Roedd y weithred yn anfon neges ddiffiant i Bwyllgor Craffu Addysg Gwynedd, sy'n cyfarfod am 2 y prynhawn, ac yn adlewyrchu gwrthwynebiad eang trigolion Gwynedd i gynllun ad-drefnu addysg y Cyngor.
Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinnol 2008 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe gyhoeddwyd bod angen i aelodau a chefnogwyr y mudiad fynd allan i baentio slogannau gwleiddol ar hyd a lled Cymru.
Yn ôl Dewi Snelson, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn:
"Braf iawn ydi gweld aelodau ifanc y Rhanbarth yn dangos arweiniad, mi ddylai holl aelodau'r Gymdeithas ar draws y Gymru ormesiedig hon fynd allan a phaentio slogannau."
Ychwanegodd Ffred Ffransis, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Galwn ar y Pwyllgor Craffu i ddiddymu'r cynllun ad-drefnu ysgolion yn hytrach na ei ddiwygio. Rhaid ei rhoi o'r neilltu er mwyn ail sefydlu ymddiriedaeth a thrafod ffordd ymlaen i ysgolion pentrefol Gwynedd."