Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 03 Medi 2008 9:25 am

Wel, ddim rili. Dwi'm yn meddwl ei bod ni'n rhy cîn ar gocnis neu sgowsars neu mancs na'r gweddill ohonyn nhw chwaith i fod yn hollol onest efo chdi...
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Cymro i'r Carn » Mer 03 Medi 2008 5:29 pm

Wel mae'r erthygl yna'n aeddfed iawn chware teg!

Swn ni ddim yn gwrando dim arno fe wrth ddarllen y llinellau cyntaf mae'n amlwg taw person hunan ganolog hunanol neu os hoffech - Saeson yn gyffredinol.

Yr unig rheswm mae'r pobl yma yn ymosod ar yr iaith Gymraeg yw eu bod nhw'n ei hofni hi ac i mi mae hwnna braidd yn drist. Mae nhw'n gallu gweld yr holl lwyddiant sydd yn perthyn at y Gymraeg y dyddiau yma maent yn ofni y byddent yn cael eu gwthio allan o wlad hollol Gymraeg, Yn union fel a theimlwn ninnau erstalwm ond roeddwn ni'n cael ein galw'n hiliol ac yn gwrth-saesneg ond mae'n berffaith derbyniol felly i rain danseilio'n iaith a'n diwylliant ni, Mae'n warthus yr unig beth alla i ddweud amdanynt yw , TWLL EICH TINAU Y MOCHYNDRA BABÏAIDD.
Cymro i'r Carn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 03 Medi 2008 5:15 pm

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 03 Medi 2008 9:03 pm

Cymro i'r Carn a ddywedodd:Yr unig rheswm mae'r pobl yma yn ymosod ar yr iaith Gymraeg yw eu bod nhw'n ei hofni hi ac i mi mae hwnna braidd yn drist.

Ydy, mae'n uffernol o drist. Rwanta, fel mae'n digwydd, dw i ddim yn gyfarwydd o gwbl a Seinieg (Mandarin, Cantoneg ac ati) neu Bwyleg ac dw i'n clywed yr ieithoedd hynny ac yn eu gweld nhw ar arwyddion yn ddigon aml. Ond dw i ddim yn eu hofni nhw o gwbl - mae'n mater o ffaith, mae na bobl o gwmpas yn fy ardal i sy'n siarad yr ieithoedd hynny yn llawer gwell na Saesneg neu Aeleg. Be sy i'w hofni? Nid trist y bobl sy'n ofni hyn, ond sad.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan LLewMawr » Iau 04 Medi 2008 6:54 pm

mae rhai bobl jyst yn casau y iaith oherwydd di nhw ddim yn gallu siarad fe, nhw'n cenfigenus gyda dim byd well i neud ond cwyno.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Hazel » Iau 04 Medi 2008 7:26 pm

Dywedodd Marion Eames bod 'na rhai pobl yn derbynnu bod Cymraeg yn iaith breiffat pan nid allant nhw ei dysgu. Mae o'n perthyn i "the few".
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan huwwaters » Iau 04 Medi 2008 7:35 pm

Hazel a ddywedodd:Dywedodd Marion Eames bod 'na rhai pobl yn derbynnu bod Cymraeg yn iaith breiffat pan nid allant nhw ei dysgu. Mae o'n perthyn i "the few".


Mae hyn yn wir gan fod y traddodiad o Saesneg yn unig ar gyfer swydd cyhoeddus. H.y. Saesneg yn iaith swyddogol y wlad, llysoedd, llywodraeth, gweinyddiaeth diwydiant etc. gan wedyn adael Cymraeg i'r cartref, ffrindiau a'r capel. Os yw'r gymdeithas Gymraeg sydd o gwmpas yn fach, yn gellir deud fod y Gymraeg dim ond i'r cartref neu rhai unigolion detholedig yn y gymdeithas.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 09 Medi 2008 12:39 am

I mean, we all love cute places like Cornwall, and some even profess to say Scotland is an OK place for views. But we don't insist on south coastal and tartan versions of Gaelic appearing on every beach or kilt, do we?

Nid fath o Aeleg ydy Cernyweg. Wancar anwybodus...ond dim synnu o gwbwl. Ac eniwe, sdim unrhyw arwyddion Gaeleg yn yr Alban am y rheswm syml eu bod nhw di cael eu rapeage gan y Sais yn waith 'na'r Gymry. Nid peth dda ydy hi o gwbwl, felly pam cymharu yn y lle cyntaf? Oh ia, Sais snoblyd...be sy'n newydd?

mae rhai bobl jyst yn casau y iaith oherwydd di nhw ddim yn gallu siarad fe, nhw'n cenfigenus gyda dim byd well i neud ond cwyno.

Ti'n iawn ond yma dan ni'n siarad am Sais sy'n casau'r iaith...di o'm eisiau dysgu Cymraeg o gwbwl (neu unrhyw iaith arall, swn i'n tybio). Yma mae gynnon ni enghraifft o hunanoldeb, dim eiddigedd. Dio'm yn meddwl bod Saesneg yn well...mae o'n gwybod bod hi'n well!

byrmingham di le fo a yno ddylsa fo aros os ydi ieithoedd ac arferion gwledydd arall yn ormod iddo lyncu!

Ond rhan o ymerodraeth y Saeson ydy Cymru! Mae gynno fo hawl i fynd, trwy concwest!!!!1111!!!1111!1! (Yn ddifrif, dwi'n siwr bod rhyw bwgan o'r syniad yn aros efo nhw, hyd yn oed heddiw).
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 09 Medi 2008 9:17 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:
I mean, we all love cute places like Cornwall, and some even profess to say Scotland is an OK place for views. But we don't insist on south coastal and tartan versions of Gaelic appearing on every beach or kilt, do we?

Nid fath o Aeleg ydy Cernyweg.

Nach e? Eniwe, MAE na arwyddion Gaeleg ar ffyrdd yr Alban - dim lot, dim fel arfer yn yr Alltachd (Iseldiroedd yr Alban) neu'r Gogledd-Ddwyrain, ond mae na rai. Rhaid cyfaddef, dw i erioed wedi gweld Gaeleg ar fèile-beag (cilt). Dim lot ar y traeth chwaith.
Wel, mae Cernyweg yn debyg i Gymraeg a Llydaweg, ond mae hi wedi cadw pethau "Gaeleg" sy wedi mynd o'r Gymraeg erbyn hyn, e.e. "y/yr" - y fannod - yn y Gernyweg "an", fel yn yr Aeleg. Ac, wrth gwrs, mae na lot o hen enwau "Gaeleg" yn yr ardal rhwng Cymru a Chernyw, e.e. afonydd Wysg, Axe, Exe (i gyd o "uisge"), bryniau Quantocks (Qeann-cnoc efallai)...mae'n debyg fod Gaeleg yn nes at Gernyweg na Chymraeg.
Be sy "cute" am Gernyw? Y ffaith fod yr ifeinc yn cael eu gorfod i symud allan am waith a thai? Y ffaith na chydnabyddir ei diwylliant gan y mewnfudwyr cyfoethogion?
Ond rhaid i mi gyfaddef, dw i ddim yn mynnu gweld fersiynau o Saesneg "tartan" neu "Walish" neu "Cornubian" yn yr ardaloedd hynny. Sai'n dda gen i weld dim ond Gaeleg, Cymraeg, Cernyweg ac ati. Ond dyna hi - rhy hawdd yw fy mhlesio.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Erthygl gwrth-iaith Gymraeg yn Birmingham Post

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 11 Medi 2008 5:54 am

Be sy "cute" am Gernyw? Y ffaith fod yr ifeinc yn cael eu gorfod i symud allan am waith a thai? Y ffaith na chydnabyddir ei diwylliant gan y mewnfudwyr cyfoethogion?

Ar ôl awdur yr erthygl 'na, posib. A dwi'm yn jocio chwaith.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron