Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 13 Meh 2008 10:27 pm

Dyma'r consensws ers blynyddoedd o beth yw Coleg Ffederal Cymraeg:

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.



Ond yn ôl cynnig bydd o flaen cynhadledd Plaid Cymru mis Medi dyma yw Coleg Ffederal Cymraeg:

1. Sicrhau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pob sefydliad Addysg Uwch.

2. Gwneud y mwyaf o'r sgiliau iaith Gymraeg sydd eisoes ar gael mewn sefydliadau.

3. Rhoi arweiniad ar ddatblygu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg uwch.

4. Darparu ar gyfer datblygiadau tebyg posibl mewn dysgu mewn addysg bellach.


Y pedwar egwyddor cyntaf ac nid rhyw bedwar o werthoedd pen-agored (iawn yn eu lle cofiwch) yw Coleg Ffederal Cymraeg. Symud y pyst yw sôn am sefydlu Coleg Ffederal na fydd wedi ei sefydlu ar sail y pedair egwyddor ymarferol craidd a nodais ar y top ac a nodwyd ers blynyddoedd gan yr ymgyrchwyr yn y maes. Os na theimla Plaid Cymru ei bod hi am ddilyn y trywydd yma yna efallai mae'r peth onest ac anrhydeddus i wneud ydy cydnabod nad yw sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg bellach yn rhan o'u cynlluniau ac eu bod yn anelu am setliad llai uchelgeisiol, dim byd mwy na bwrdd arall. Rwy'n hyderu a gobeithio nad dyna fydd yr achos.

Ydy Plaid Cymru, felly, yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 15 Meh 2008 9:17 am

Os mai dyna'r cynnig newydd, yr ateb ydi: ydi. Dydi'r pedwar cynnig olaf ddim yn ffurfio Coleg Ffederal, maen nhw'n gynigion hawdd a diog. Ond dyna ni, beth arall y dylem ni ddisgwyl gan Blaid "Cymru" bellach?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Cardi Bach » Llun 16 Meh 2008 8:12 am

Hold on, cofier os mai cynnig ydyw yna gellir 'cynnig' gwellianau hefyd er mwyn ei addasu. Cynnig ydyw o hyd, nid polisi.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Mr Gasyth » Llun 16 Meh 2008 9:01 am

Pwy sy'n gwneud y cynnig?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Meh 2008 9:32 am

Cardi Bach a ddywedodd:Hold on, cofier os mai cynnig ydyw yna gellir 'cynnig' gwellianau hefyd er mwyn ei addasu. Cynnig ydyw o hyd, nid polisi.


Ond pam gwneud cynnig mor wan yn y lle cyntaf felly? :?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan ceribethlem » Llun 16 Meh 2008 11:04 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Hold on, cofier os mai cynnig ydyw yna gellir 'cynnig' gwellianau hefyd er mwyn ei addasu. Cynnig ydyw o hyd, nid polisi.


Ond pam gwneud cynnig mor wan yn y lle cyntaf felly? :?

Testing the Water (ys dywed y Sais) o bosib
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Meh 2008 12:07 pm

Ia, dallt hynny, ond o ran beth? Yr awgrym sy'n dod ata' i ydi drwy wneud cynigion mor wan, ac efallai cryfhau arnynt mymryn ar ôl eu craffu, ei fod yn ymddangos bod yr addewid wedi'i wireddu, lle na fydd o gwbl. Cawn weld, wrth gwrs, ond fy hun dwi'm yn rhy obeithiol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Meh 2008 4:17 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Pwy sy'n gwneud y cynnig?


Mae'r cynnig wedi ei roi ymlaen gan Grwp PC yn y Cynulliad. Cardi Bach, pan fydd hi'n amser mi fuaswn yn gwerthfawrogi pe taeynt yn dangos i ni sut i gynnig gwelliannau etc...

Gobeithio y bydd Cymru X yn ymyrchu yn erbyn y cynnig yma ac ddim yn llyfu tin arweinwyr y Blaid a chadw'n dawel.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Meh 2008 4:18 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ia, dallt hynny, ond o ran beth? Yr awgrym sy'n dod ata' i ydi drwy wneud cynigion mor wan, ac efallai cryfhau arnynt mymryn ar ôl eu craffu, ei fod yn ymddangos bod yr addewid wedi'i wireddu, lle na fydd o gwbl. Cawn weld, wrth gwrs, ond fy hun dwi'm yn rhy obeithiol.


Ti wedi tarro'r hoelen ar ei phen. Symyd y pyst ydy ceisio ail-ddiffinio beth yw Coleg Ffederal Cymraeg.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Meh 2008 4:50 pm

Hefyd, os o du Plaid Cymru y daw cynnig ar fater cenedlaethol, does dim math o reidrwydd ar y pleidiau eraill mynd ati i wneud pethau'n "fwy cenedlaetholgar" fel petai. Hynny yw, os dwed y blaid genedlaetholgar bod hyn yn ddigon (ac nid dim ond hyn, ond unrhyw gynnig cenedlaetholgar), pwy yn y Cynulliad a fydd yn dweud "Na"? Y Ceidwadwyr? Y Lib Dems? Dw i'm yn meddwl. Hyd yn oed pe bawn nhw byddan nhw methu gwneud dim am y peth; a swn i'm yn blydi trystio nhw eniwe.

Mae arnaf ofn bod yn rhaid gofyn, o ystyried eu record, a ydi Plaid Cymru yn y Cynulliad o ddifrif am warchod buddiannau'r Gymraeg? Mae'r Byd yn gelain. Mae'n edrych yn weddol debygol y gallai'r Coleg Ffederal mynd i'r diawl, oni fo fersiwn gwan ofnadwy ohono - dyn ag wyr beth ydi'r diweddaraf ar y Ddeddf Iaith.

Pe bai'r cynllun hwn yn mynd rhagddo yn y cynnig arfaethedig a roddwyd ymlaen gan grwp Plaid Cymru nid siom y byddai, megis y Byd. Mi fyddai'n frad. Dim dadl.

Dwi'n gwybod fy mod wedi dweud hyn dyn ag wyr faint o weithiau dros y misoedd diwethaf, ond mae gweld dirywiad cenedlaetholdeb Plaid Cymru wir yn torri fy nghalon i. Y broblem ydi dwi'm yn gweld neb na dim yn gallu gwneud uffern o ddim i unioni'r sefyllfa.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron