Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 20 Meh 2008 10:34 am

Dwi'n falch o allu dweud y bydd Cymru X (y gangen honno o'r blaid sy'n cynrhychioli'r union bobl y bydd y polisi hwn yn ei effeithio fwyaf) yn cyflwyno'r gwelliant canlynol:

Cynnig Gwreiddiol:

"Geilw'r Gynhadledd ar i'r Pwyllgor Gwaith, Cymru X, Grŵp Cynulliad Cenedlaethol Plaid Cymru
ar eraill sydd â diddordeb i ddwyn gerbron gynllun cynhwysfawr i weithredu yn llawn Goleg Ffederal Cymraeg ei iaith seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

1. Sicrhau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pob sefydliad Addysg Uwch.

2. Gwneud y mwyaf o'r sgiliau iaith Gymraeg sydd eisoes ar gael mewn sefydliadau.

3. Rhoi arweiniad ar ddatblygu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg uwch.

4. Darparu ar gyfer datblygiadau tebyg posibl mewn dysgu mewn addysg bellach"

Gwelliant Cymru X

Ychwanegu y 4 pwynt isod:

5. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.

6. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.

7. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg.

8. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.


Os bydd unrhyw rai yn gwrthwynebu'r gwelliant nawr fe fyddw ni'n gwbod yn iawn pwy yw'r maen tramgwydd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 21 Meh 2008 9:07 am

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy'n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy'n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.

Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru'n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor craidd Coleg Ffederal Cymraeg. Gellid defnyddio'r pedwar egwyddor yma wedyn fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir tuag at wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,

(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,

(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf

(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a chyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.


I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'i cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 gyda sefydlu S4C. Sianel Gymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg Vs mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Maen amlwg bellach mae rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er fod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg yn yr un ffordd ac y bod yn rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg o academwyr blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu y pedwar egwyddor craidd. Yn ogystal, mae rhai cannoedd o bobl wedi torri eu henwau ar y ddeiseb ar-lein, croeso i chi lwybro draw i ychwanegu eich enw chi. Llwyr obeithiaf y bydd y llywodraeth yn achub ar y cyfle unigryw yma i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac na fydd y cyfle yn cael ei golli am genhedlaeth arall.

Mae gair wedi mynd i mewn i'r cylchgronau a'r papurau yn dweud yr un peth... efallai i chi synhwyro mae nid di-sail yw'r gofid bellach nad ydym ni yn debygol o weld setliad sy'n anrhydeddu'r pedwar egwyddor craidd yn llawn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 21 Meh 2008 10:09 pm

Arwyddwch y ddeiseb dros Goleg ffederal Cymraeg yma - http://deiseb.cymdeithas.org/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Llinos Spencer » Llun 23 Meh 2008 8:45 am

Faint o fyfyrwyr sydd eisiau addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg? - dyna ydy'r cwestiwn sylfaenol.

Dwi'n gwneud arolwg ar hyn o bryd gyda myfyrwyr cyn gofrestru nyrsio fel sampl. Os ydych chi yn fyfyriwr nyrsio cyn gofrestru yng Nghymru, e-bostiwch fi am wybodaeth am sut i gael cyfle i ddweud eich barn am addysg nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Llinos
Dr Llinos Spencer
l.spencer@bangor.ac.uk

01248 38 3171
Mwya'r brys, mwya'r rhwystr.
Llinos Spencer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Llun 27 Meh 2005 2:21 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 23 Meh 2008 9:19 am

Llinos Spencer a ddywedodd:Faint o fyfyrwyr sydd eisiau addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg? - dyna ydy'r cwestiwn sylfaenol.


Nage. Y mater sylfaenol yw nid faint o alw sydd gan y myfyrwyr ond faint o alw sydd gan Gymru fel cenedl ac fel economi am arbennigwyr yn eu maesydd all drin eu maes yn gwbl hyderus ddwyieithog. I greu Cymru wirioneddol ddwy-ieithog mae angen i bob feistroli eu maesydd tuag at y lefel uchaf yn ddwy-ieithog: felly mae angen datblygu mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg yn y Prifysgolion - yn arbennig felly mewn maesydd gwasanaeth cyhoeddus fel nyrsio.

Maen wir nodi fod galw yn wan mewn rhai maesydd o dŷ y myfyrwyr ond dyna fydd rhan o waith y Coleg Ffederal Cymraeg, sbarduno galw ac annog mynediad.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Garnet Bowen » Llun 23 Meh 2008 9:33 pm

Gai wneud cynnig ymarferol. Os ydych chi'n wirioneddol boeni am hyn, beth am ymaelodi a Phlaid Cymru, a threfnu i fynd i'r gynhadledd flynyddol. Drwy wneud hynny, fe gewch chi gyfle i ddylanwadu ar y drafodaeth, a phleidleisio ar y cynnig dan sylw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 23 Meh 2008 11:45 pm

Gai gynnig yn lle hynny y dylid boicotio pledleisio mewn dros unrhyw bleidiau gwleidyddol?

Diw e ddim fel bod Plaid Cymru neu unrhyw blaid arall yng Nghymru wedi newid unrhywbeth o werth neu o bwys ers bod mewn grym.

Fel dywedodd Ken Livingstone unwaith "If voting changed anything, they would make it illegal"
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Meh 2008 12:53 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Gai gynnig yn lle hynny y dylid boicotio pledleisio mewn dros unrhyw bleidiau gwleidyddol?

Diw e ddim fel bod Plaid Cymru neu unrhyw blaid arall yng Nghymru wedi newid unrhywbeth o werth neu o bwys ers bod mewn grym.

Fel dywedodd Ken Livingstone unwaith "If voting changed anything, they would make it illegal"


Wel mae hynny'n un ffordd o edrych ar y peth. Ond erys y ffaith bod pleidlais yn cael ei chynnal ar beth fydd polisi Plaid Cymru ar y mater, a bydd y polisi pleidiol hwnnw yn ei dro yn dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, gan arwain at sefydlu Coleg Ffederal neu beidio. Os cymerith holl gefnogwyr y Coleg Ffederal yr un agwedd a Mihangel, yna mae'r cynnig gwreiddiol yn sicr o basio, a fydd 'na ddim Coleg Ffederal. Os cymerith cefnogwyr y Coleg fy nghyngor i, mae posib trechu'r cynnig gwreiddiol, a cymeradwyo gwelliant a fyddai'n ymrwymo Plaid Cymru i gadw ei haddewid yn Cymru'n Un.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Meh 2008 1:39 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Gai gynnig yn lle hynny y dylid boicotio pledleisio mewn dros unrhyw bleidiau gwleidyddol?

Diw e ddim fel bod Plaid Cymru neu unrhyw blaid arall yng Nghymru wedi newid unrhywbeth o werth neu o bwys ers bod mewn grym.

Fel dywedodd Ken Livingstone unwaith "If voting changed anything, they would make it illegal"


Wel mae hynny'n un ffordd o edrych ar y peth. Ond erys y ffaith bod pleidlais yn cael ei chynnal ar beth fydd polisi Plaid Cymru ar y mater, a bydd y polisi pleidiol hwnnw yn ei dro yn dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, gan arwain at sefydlu Coleg Ffederal neu beidio. Os cymerith holl gefnogwyr y Coleg Ffederal yr un agwedd a Mihangel, yna mae'r cynnig gwreiddiol yn sicr o basio, a fydd 'na ddim Coleg Ffederal. Os cymerith cefnogwyr y Coleg fy nghyngor i, mae posib trechu'r cynnig gwreiddiol, a cymeradwyo gwelliant a fyddai'n ymrwymo Plaid Cymru i gadw ei haddewid yn Cymru'n Un.


Dwi ar ddeall fod Cymru X yn cynnig gwelliant. Cywir?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Meh 2008 3:19 pm

Mae Gweinidog Addysg y Llywodraeth Llafur/Plaid yn cyhoeddi ei phenderfyniad ynglyn â Choleg Ffederal Cymraeg ar Orffennaf 3ydd .

Er mwyn dylanwadu arni, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno'r ddeiseb dros Goleg Ffederal Cymraeg Ddydd Llun nesaf (30 Mehefin)... felly mae 6 niwrnod ar ôl i gael pawb posib i lofnodi'r ddeiseb - http://deiseb.cymdeithas.org
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron