Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Cymro13 » Maw 24 Meh 2008 3:31 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Gai gynnig yn lle hynny y dylid boicotio pledleisio mewn dros unrhyw bleidiau gwleidyddol?

Diw e ddim fel bod Plaid Cymru neu unrhyw blaid arall yng Nghymru wedi newid unrhywbeth o werth neu o bwys ers bod mewn grym.

Fel dywedodd Ken Livingstone unwaith "If voting changed anything, they would make it illegal"


Wel mae hynny'n un ffordd o edrych ar y peth. Ond erys y ffaith bod pleidlais yn cael ei chynnal ar beth fydd polisi Plaid Cymru ar y mater, a bydd y polisi pleidiol hwnnw yn ei dro yn dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, gan arwain at sefydlu Coleg Ffederal neu beidio. Os cymerith holl gefnogwyr y Coleg Ffederal yr un agwedd a Mihangel, yna mae'r cynnig gwreiddiol yn sicr o basio, a fydd 'na ddim Coleg Ffederal. Os cymerith cefnogwyr y Coleg fy nghyngor i, mae posib trechu'r cynnig gwreiddiol, a cymeradwyo gwelliant a fyddai'n ymrwymo Plaid Cymru i gadw ei haddewid yn Cymru'n Un.


Dwi ar ddeall fod Cymru X yn cynnig gwelliant. Cywir?


Mae CymruX wedi rhoi gwelliant a fydd yn cryfhau'r cynnig ar Goleg Ffederal
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 24 Meh 2008 3:43 pm

Cymro13 a ddywedodd:
Mae CymruX wedi rhoi gwelliant a fydd yn cryfhau'r cynnig ar Goleg Ffederal


ydyn maen nhw chware teg, dwi'n eithriadol o hapus gyda'r arweiniad mae Cymru X wedi dangos yn mynd i'r afael ar cynnig yma.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 24 Meh 2008 9:18 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Gai gynnig yn lle hynny y dylid boicotio pledleisio mewn dros unrhyw bleidiau gwleidyddol?

Diw e ddim fel bod Plaid Cymru neu unrhyw blaid arall yng Nghymru wedi newid unrhywbeth o werth neu o bwys ers bod mewn grym.

Fel dywedodd Ken Livingstone unwaith "If voting changed anything, they would make it illegal"


Wel mae hynny'n un ffordd o edrych ar y peth. Ond erys y ffaith bod pleidlais yn cael ei chynnal ar beth fydd polisi Plaid Cymru ar y mater, a bydd y polisi pleidiol hwnnw yn ei dro yn dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, gan arwain at sefydlu Coleg Ffederal neu beidio. Os cymerith holl gefnogwyr y Coleg Ffederal yr un agwedd a Mihangel, yna mae'r cynnig gwreiddiol yn sicr o basio, a fydd 'na ddim Coleg Ffederal. Os cymerith cefnogwyr y Coleg fy nghyngor i, mae posib trechu'r cynnig gwreiddiol, a cymeradwyo gwelliant a fyddai'n ymrwymo Plaid Cymru i gadw ei haddewid yn Cymru'n Un.


Fe gawn ni weld Garnet... nid oes gen i yr un fydd a ti mewn pleidiau gwleidyddol sy'n addo y ddaer i'r etholwyr ac yna yn torri eu haddewidion pan mae nhw mewn grym.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan LLewMawr » Llun 30 Meh 2008 11:32 pm

rwy moen dysgu hanes trwy gyfrwng y gymraeg ond yn anffodus dwi'n methu. rwy'n gallu ysgrifennu fy ngwaith yn gymraeg ond nid yr un peth yw e?
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Plaid Cymru yn troi cefn ar Goleg Ffederal Cymraeg go-iawn?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Gor 2008 5:14 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Cyflwyno deiseb â 1,000 o enwau i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth "Cymru'n Un" o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i'r Gweinidog heddiw yn amlinellu'r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad.

Dywedodd Rhys Llwyd, Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:

"Credwn y gellid defnyddio'r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy'r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,
(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,
(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf
(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a gyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono."

Ychwanegodd Elain Haf, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd:

"I'r rhai diffuant hynny sy'n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau'r sefydliadau presennol o'u cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw'r gymhariaeth gyda'r dadleuon yn '79 cyn sefydlu S4C. Sianel Gymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg v's mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Mae'n amlwg bellach mai rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er bod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg. Yn yr un ffordd, rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg, er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan."

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg a phump o academyddion blaenllaw sy'n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu'r egwyddorion craidd. Mae'r ddeiseb yma law yn llaw â llythyr yr academyddion yn dangos fod yna ewyllys gref yn bodoli i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen ac yn sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyflawn ac nid bwrdd, cwango, neu rwydwaith yn unig.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron