Tudalen 1 o 2

Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 9:31 am
gan Dylan
"Welsh board wanted English-song Duffy banned"

Ffwl pêj sbred tudalen 3 yn y Mul heddiw. Am sgandal! Gwybod dim byd o gwbl am be ddigwyddodd wrth reswm ond mae'r holl beth yn edrych fel cachu rwtsh braidd. 6 blynedd yn ôl!

jyst rhyw ffordd hawdd i'r WM gorddi'r dyfroedd ia? (a finna 'di llyncu'r abwyd trwy greu hwn mwn)

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 9:42 am
gan eusebio
Swnio fel bo Mr Brett wedi creu stori er mwyn ceisio cael rhyw fath o cred fel y boi nath ddarganfod Duffy.

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 9:46 am
gan Dylan
ac er mwyn cael cyhoeddusrwydd am ddim yn nhudalen 3 y Mul, mwn.

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 10:21 am
gan Rhys Llwyd
Beth yn union sy'n anghywir gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn mynnu fod pobl yn canu yn Gymraeg mewn digwyddiadau maen nhw yn eu noddi?

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 10:36 am
gan ceribethlem
Stori i lenwi tudalen ac i gefnogi agenda bach gwrth Gymraeg ambell un yn y Mule. Yn arbennig o feddwl mae ond rhyw linell bach llipa ar y diwedd sy'n rhoi ochr arall y stori. Tebyg iawn i'r stori am "Cer Maes Saes" ychydig yn ol, newyddiaduro diog i ffitio'u agenda bach pathetig.


Ar nodyn arall mae darpar athrawes yn gweithio gyda ni nath curo Duffy yn y Waw Ffactor.

1af - darpar athrawes yn Ystalyfera.
2il- crwydro'r Byd yn canu i filiynau.

Waw Ffactor gyda'u bys ar y pwls yn amlwg!

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 12:07 pm
gan dawncyfarwydd
Be sy'n ddoniol ydi bo nhw wedi holi Meirion Prys a Rhodri Williams, fatha bod penderfyniad am gonsat yn Town Hôl wedi dod reit o'r top. Doeddan nhw'n cofio dim byd am y digwyddiad, syrpreis syrpreis.

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 12:10 pm
gan osian
Chwara teg iddyn nhw am gyfiaethu Mercy (=trugaredd) i ni, dwi'n dallt y gan rwan!

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 12:21 pm
gan Dylan
dawncyfarwydd a ddywedodd:Be sy'n ddoniol ydi bo nhw wedi holi Meirion Prys a Rhodri Williams, fatha bod penderfyniad am gonsat yn Town Hôl wedi dod reit o'r top. Doeddan nhw'n cofio dim byd am y digwyddiad, syrpreis syrpreis.


ia wir, doeddwn i ddim yn dallt hynny o gwbl. £100 oedd y swm dan sylw be bynnag. Cynhyrchydd ma'n swnio fel dipyn o goc oen dweud gwir, er dylid nodi mai gwneud môr a mynydd o sylwadau di-nod mewn cylchgrawn ddaru'r Mul.

gyda llaw,

“Surprisingly enough, there are two words in the English language that mean exactly the same in the Welsh language and I trust you people who are reading this article know which two I mean.


dw i fawr callch. :? goleuwch fi, dydi'r hen frên ddim mewn gêr bore ma'n amlwg

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 12:39 pm
gan dawncyfarwydd
Ma 'ffyc off' yn Gymraeg yn dre.

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

PostioPostiwyd: Iau 26 Meh 2008 1:10 pm
gan ceribethlem
Dylan a ddywedodd:
“Surprisingly enough, there are two words in the English language that mean exactly the same in the Welsh language and I trust you people who are reading this article know which two I mean.


dw i fawr callch. :? goleuwch fi, dydi'r hen frên ddim mewn gêr bore ma'n amlwg
Car yw un. Mami/Dadi (er fod y sillafu'n newid) yw'r llall. Ddim cweit yn deall eu cydestun fan hyn.