Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan joni » Iau 26 Meh 2008 2:44 pm

Sai'n poeni rhyw lawer am y stori i fod yn onest ond ma'r frawddeg yma jyst yn...wel...sai'n deall e. Gall unrhywun helpu?
rhyw foi yn y mule yn son am rhyw gantores a ddywedodd:So I promptly told the local guy to pass these words on to his boss in Cardiff and instead of taking Duffy off the bill, I took them off and saved taxpayers’ money.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan sian » Iau 26 Meh 2008 3:01 pm

joni a ddywedodd:Sai'n poeni rhyw lawer am y stori i fod yn onest ond ma'r frawddeg yma jyst yn...wel...sai'n deall e. Gall unrhywun helpu?
rhyw foi yn y mule yn son am rhyw gantores a ddywedodd:So I promptly told the local guy to pass these words on to his boss in Cardiff and instead of taking Duffy off the bill, I took them off and saved taxpayers’ money.


Swn i'n meddwl bod e'n cyfeirio at: “Rhys called me one day and said the Welsh Language Board were impressed with the idea and wanted to contribute the grand sum of £100 towards the event." - Hynny yw ei fod wedi dweud wrth Fwrdd yr Iaith nad oedd e ishe'u harian nhw. Am wn i.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan joni » Iau 26 Meh 2008 3:13 pm

sian a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Sai'n poeni rhyw lawer am y stori i fod yn onest ond ma'r frawddeg yma jyst yn...wel...sai'n deall e. Gall unrhywun helpu?
rhyw foi yn y mule yn son am rhyw gantores a ddywedodd:So I promptly told the local guy to pass these words on to his boss in Cardiff and instead of taking Duffy off the bill, I took them off and saved taxpayers’ money.


Swn i'n meddwl bod e'n cyfeirio at: “Rhys called me one day and said the Welsh Language Board were impressed with the idea and wanted to contribute the grand sum of £100 towards the event." - Hynny yw ei fod wedi dweud wrth Fwrdd yr Iaith nad oedd e ishe'u harian nhw. Am wn i.

Ah fi'n gweld. Ma 'na ddawn ysgrifennu 'da'r boi...
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan Sioni Size » Gwe 27 Meh 2008 12:47 am

Ohoho. Wel a sach o fudredd ydi'r boi ma a'i gelwydd. Roedd o'n mynnu ei hun mai Cymraeg yn unig oedd iaith y bandiau oedd yn chwarae ac felly eisiau arian gan y Bwrdd. Yn amlwg roedd o'n bwriadu rhoi Aimee Duffy ymlaen o'r dechrau, er mai set fach iawn oedd hi'n ei gael i gymharu fo pawb arall, a phetai hi wedi perfformio ychydig o'i set yn Gymraeg, sef yr hyn y dylai arian y bwrdd fod yn ei gefnogi, yna ni fyddai problem na fyddai, mr Brett. Ond fedri di ddim hawlio arian sydd i fudd hyrwyddo'r Gymraeg i dalu artistiaid sydd mond yn canu set Saesneg, na fedri Mr Brett.

Dwi'n cofio'r achlysur yn iawn gan mai fi oedd y swyddog dan sylw. Ac yn bell o ddweud wrthaf am stwffio'r pres roedd wedi rhoi Aimee a'i set Saesneg ymlaen gan obeithio na fyddai neb yn dweud dim. Y rheswm mod i'n cofio ydi i fi gael chydig o fyll a'i ffonio bnawn sul (oedd yn dro cyntaf) wedi'r digwyddiad i esbonio iddo ei 'gamddealltwriaeth'. Ar ol yr alwad mae'n debyg na fentrodd i hawlio'r arian, er nad oeddwn wedi dweud wrtho nad oedd o ddim bellach yn gymwys o gwbl. Ei ganfyddiad o oedd hynny, am ryw reswm.

Ac yn rhinwedd fy swydd presennol caf ei alw'n nob. Ac mi wnaf. Nob.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan m.c.macrall » Llun 30 Meh 2008 11:31 am

Ro ni'n ama na chdi oedd yng nghlwm ar peth, a da iawn ti fyd angen rhoi y fath o bobl yma yn eu lle !
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Iau 15 Ion 2004 1:02 pm

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan Ramirez » Llun 30 Meh 2008 12:22 pm

eusebio a ddywedodd:Swnio fel bo Mr Brett wedi creu stori er mwyn ceisio cael rhyw fath o cred fel y boi nath ddarganfod Duffy.


Hohoho.

Dwi'm yn meddwl ei fod o angen rhyw lol felly rhywsut.

http://en.wikipedia.org/wiki/Paul_Brett

Ac ia, yr un boi ydio.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Mul: Bwrdd yr Iaith yn "banio" Duffy

Postiogan LLewMawr » Llun 30 Meh 2008 11:28 pm

os mae'r stori hyn wedi mynd trwy yr un gwirio drylwyr a wnaeth y ffiasco 'cae maes saes' wedyn mae hawdd weld bod 'non-story' yw hyn.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai