Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, PWLLHELI
Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 17 eg.
Amser: 10.30
Lleoliad: Llys Ynadon Pwllheli
Tref: Pwllheli
Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug
fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat
mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y
gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Pwllheli ar y 17 eg o fis
Hydref.
Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon
a Bangor yn gofyn ?Ble mae'r Gymraeg??, yn dilyn pentwr o lythyron
cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.
Dewch yn llu i gefnogi'r ddau!
BWS MINI Y GOGLEDD
JMJ Bangor - 9.00
Sgwar Turff Caernarfon - 9.20
Sgwar Pen-y-Groes - 9.30
Awstralia Porthmadog - 10.00
Gwybodaeth - 01286 662908
gogledd@cymdeithas.orgNeu anfonwch neges breifat
Lle i un, (neu ddau fach!) mewn car o aberystwyth.