17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Gor 2008 7:03 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Achos Llys yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”

Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."

Ychwanegodd Osian Jones, trefnydd y gogledd:

"Dyma ddangos bod gan gwmniau mawr fwy o hawliau na chymunedau Cymru y dyddiau yma. Gwelwn dro ar ôl tro y cwmnïau yma yn sefydlu mewn cymunedau heb ddangos ddim parch o gwbwl i'r cymunedau hynny."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Achos Llys yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Postiogan Creyr y Nos » Llun 13 Hyd 2008 3:14 pm

Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Pwllheli am 9am ar y 17 eg o fis Hydref.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”, yn dilyn pentwr o lythyron cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.

Dywedodd Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd:

"Bu i ni weithredu yn erbyn Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith newydd. Yr ydym sicrhau fod cwmniau preifat mawrion fel Boots a Sperdrug yn atebol i Ddeddf Iaith ac am eu gweld yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg. O'r achos llys hwn ymlaen fe fyddwn fel Cymdeithas yn ymgyrchu ac yn lobio yn galed dros Ddeddf iaith ac yn gobeithio y bydd llywodraeth y Cynulliad yn cyflwyno Mesur Iaith yn yr Hydref yn unol a'i haddewid yn y ddogfen Cymru'n Un."


Dewch yn llu i gefnogi'r ddau!
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Postiogan Creyr y Nos » Iau 16 Hyd 2008 10:11 am

Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, PWLLHELI

Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 17 eg.
Amser: 10.30
Lleoliad: Llys Ynadon Pwllheli
Tref: Pwllheli

Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug
fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat
mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y
gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Pwllheli ar y 17 eg o fis
Hydref.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon
a Bangor yn gofyn ?Ble mae'r Gymraeg??, yn dilyn pentwr o lythyron
cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.

Dewch yn llu i gefnogi'r ddau!

BWS MINI Y GOGLEDD
JMJ Bangor - 9.00
Sgwar Turff Caernarfon - 9.20
Sgwar Pen-y-Groes - 9.30
Awstralia Porthmadog - 10.00

Gwybodaeth - 01286 662908 gogledd@cymdeithas.org
Neu anfonwch neges breifat

Lle i un, (neu ddau fach!) mewn car o aberystwyth.
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Postiogan sian » Iau 16 Hyd 2008 10:41 am

Creyr y Nos a ddywedodd:Sgwar Turff Caernarfon - 9.20


Pendist? :lol:

Dymuniadau gorau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Postiogan Creyr y Nos » Iau 16 Hyd 2008 1:44 pm

sian a ddywedodd:
Creyr y Nos a ddywedodd:Sgwar Turff Caernarfon - 9.20


Pendist? :lol:

Dymuniadau gorau.


ahem....dyna'r drwg da copi a paste!!
diolch!
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 17 Hyd 2008 4:27 pm

Dirwyon Trwm i Ymgyrchwyr Iaith

Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.

Delwedd

Roedden nhw wedi peintio sloganau ar y siopau hyn yn galw am gyfiawnder i'r Gymraeg fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf iaith yn ôl ym Mis Mehefin.

Dywedodd y ddau nad oedd yn fwriad ganddynt dalu'r dirwyon nes y byddai Deddf Iaith gyda phwerau yn ymestyn i'r sector breifat yn cael ei phasio gan lywodraeth y Cynulliad.

Delwedd

Y cam nesaf ym mrwydr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Rali genedlaethol a drefnir gan Gymdeithas yr iaith Gymraeg ar ddydd Sadwrn Hydref 25 yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 17.10.08, Pwllheli, Achos Llys Osian Jones a Steffan Cravos

Postiogan sian » Gwe 17 Hyd 2008 8:18 pm

Dim sôn ar newyddion teledu - na'r bwletin radio glywais i.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron