www.cymdeithas.org a ddywedodd:Fel rhan o'r ymgyrch i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith eleni yn targedi cwmnïau sydd yn hapus i gymryd ein harian, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Galwn ar ein haelodau a chefnogwyr i gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol.
Rydym yn galw ar y cwmnïau i sicrhau gwasanaeth gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Lawrlwythwch y llythyrau enghreifftiol perthnasol trwy bwyso ar y dolenni canlynol. Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon y gwyn wedi'u nodi hefyd. Dyma'r amserlen llythyru.
Gorffenaf/Awst ’08 – Woolworths/W H Smiths
WOOLWORTHS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Woolworths - (RTF)
* customer.relations@woolworths.co.uk
* Woolworths Customer Relations, Woolworths House, Royal Barn Road, Castleton, Rochdale, Lancashire, OL11 3DU
WH SMITH
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at WH Smith - (RTF)
* customer.relations@whsmith.co.uk
* The Customer Services Team, WH Smith, Greenbridge Road, Swindon, SN3 3LD
Pwyswch yma am fwy o wybodaeth o wefan Cymdeithas yr Iaith...