Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Gor 2008 7:09 pm

www.cymdeithas.org a ddywedodd:Fel rhan o'r ymgyrch i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith eleni yn targedi cwmnïau sydd yn hapus i gymryd ein harian, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Galwn ar ein haelodau a chefnogwyr i gymryd pum munud i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol.

Rydym yn galw ar y cwmnïau i sicrhau gwasanaeth gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Lawrlwythwch y llythyrau enghreifftiol perthnasol trwy bwyso ar y dolenni canlynol. Mae'r cyfeiriadau perthnasol i ddanfon y gwyn wedi'u nodi hefyd. Dyma'r amserlen llythyru.


Gorffenaf/Awst ’08 – Woolworths/W H Smiths

WOOLWORTHS
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at Woolworths - (RTF)
* customer.relations@woolworths.co.uk
* Woolworths Customer Relations, Woolworths House, Royal Barn Road, Castleton, Rochdale, Lancashire, OL11 3DU

WH SMITH
* Pwyswch yma i lawrlwytho llythyr enghreifftiol o gwyn i'w ddanfon at WH Smith - (RTF)
* customer.relations@whsmith.co.uk
* The Customer Services Team, WH Smith, Greenbridge Road, Swindon, SN3 3LD

Pwyswch yma am fwy o wybodaeth o wefan Cymdeithas yr Iaith...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Gor 2008 11:41 am

Ymateb Woolworths - Targed da am weithred felly!

----- Forwarded message from Customer.Relations@woolworths.co.uk -----
Date: Thu, 3 Jul 2008 10:45:22 +0100
From: Customer Relations <Customer.Relations@woolworths.co.uk>
Reply-To: Customer Relations <Customer.Relations@woolworths.co.uk>
Subject: RE: 1341830 TJ

I welcome your comments about the welsh language signage and take this opportunity to respond on behalf of Woolworths.

Due to the high volume and constant change of promotional offers, some lasting as little as one day, we have no feasible way to offer these facilities in those instances, as we are not always responsible for providing the signage. However, we do agree that signage such as opening hours, refund and exchange, tills, lottery, etc, could be changed to accommodate the language.

With this in mind I would like to add that we are currently requesting ideas from a Welsh customer with a view to signage that the Welsh community would like to see in our Welsh Stores.

When this has been compiled along with the appropriate text translation it will be passed to our Point of sale and Environment Manager, who will be happy to promote these requests.

I hope that this information is useful to you and would like to thank you for taking the time to contact us.

Regards

Tracy Jackson
Customer Contact Centre
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan LLewMawr » Iau 03 Gor 2008 7:48 pm

rwy'n gweithio i WHSmith ac mae nhw'n ar fin cwtogi ar cyllid nhw unwaith eto. dwi ddim yn optimistig bydde nhw eisiau cefnogu y gymraeg oherwydd y costau ychwanegol.

ond mae'n werth trio.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan Macsen » Iau 03 Gor 2008 9:31 pm

Falle bod targedu Woolworths braidd yn ddi-bwrpas, o ystyried y trafferth mae nhw ynddo.

Dyle CyI gyflogi arbenigwr ar y farchnad, fel eu bod nhw'n medru anwybyddu cwmniau mawr sy'n llithro i'r cwter a targedu cwmniau bychain cyn iddyn nhw dyfu'n rhy fawr i boeni am bolisi iaith. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan xxglennxx » Gwe 11 Gor 2008 6:41 pm

Hedd, mae'r llyfr 'na o Woolies yn wych! Da iawn g'wir!

Fi newydd anfon yn llyfr i aten nhw :)

Glenn
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan Angharad Clwyd » Llun 14 Gor 2008 1:53 pm

Bydd piced tu fas i siop Woolworths yng Nghaerfyrddin dydd Gwener y 25ain o Orffennaf am 11am.

Bydd hyn yn gyfle i ddosbarthu taflenni ymysg cwmeriaid y siop yn gofyn iddynt ddanfon llythyr at y cwmni i ofyn am wasanaeth dwyieithog llawn yng Nghymru.

Dere draw i gefnogi
Rhithffurf defnyddiwr
Angharad Clwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 125
Ymunwyd: Maw 25 Mai 2004 8:35 am
Lleoliad: Llandysul

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan LLewMawr » Iau 25 Medi 2008 6:08 pm

Mae WHSmith wedi danfon arwyddion newydd i siop ni. jyst am y geiriaduron yw nhw- maent yn ddwyieithog ac yn dweud 'English & Welsh Dictionaries - Geiriaduron Cymraeg a Saesneg'
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan Macsen » Mer 07 Ion 2009 1:56 pm

Macsen a ddywedodd:Falle bod targedu Woolworths braidd yn ddi-bwrpas, o ystyried y trafferth mae nhw ynddo.

Dyle CyI gyflogi arbenigwr ar y farchnad, fel eu bod nhw'n medru anwybyddu cwmniau mawr sy'n llithro i'r cwter a targedu cwmniau bychain cyn iddyn nhw dyfu'n rhy fawr i boeni am bolisi iaith. :)

*smug*
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 07 Ion 2009 7:50 pm

Waw! Mae'n amlwg fod targedu Woolies wedi gweithio'n wych! Bechod na weithiodd cystal ar WH Smug - y nhw sy wedi cymryd drosodd y Brif Swyddfa Bost lle mod i'n byw - a'i rhoi I FYNY'R BLYDI RISIAU! Cymraeg te beidio, mae'n or-amlwg mai dyma gwmni sy heb falio am bobl o gwbl.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Targedu Woolworths a WH Smith Gorffennaf/Awst 2008

Postiogan celt86 » Iau 08 Ion 2009 7:46 pm

Ooooooo diar :wps: :wps: :wps: :wps:

Ni fydd yna fawr o siopau ar ol i Gymdeithas 'elite' yr Iaith i spray peintio :ofn: :ofn: :ofn:

Mae yna pryd a lle i gynnal eich protestiadau, ac nid yw yn ystod y 'credit crunch' yn un ohonynt!!!

Mae pobl yn colli ei gwaith ac cwmniau yn mynd yn bust!!
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron