Roeddwn i’n ymweld a fy Nain yng Nghaernarfon heddiw pan wnes i sbio’n sydyn drwy’r Caernarfon & Denbigh Herald. Gwelais fod Morrisons yn hysbysebu swyddi ar gyfer eu siop newydd yng Nghaergybi. O ystyried fod Sir Fon yn weddol Gymreigaidd byddech chi’n disgwyl i’r cwmni wneud rhyw fath o ymdrech i recriwtio staff gyda sgiliau dwyieithog sylfaenol. Y ffordd orau o wneud hyn fyddai yn gyntaf gosod hysbyseb ddwyieithog yn y papur, ond na, dim gair o Gymraeg. Yn ail, byddech chi’n disgwyl gweld fod y gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol neu hyd yn oed yn ddymunol ar gyfer y swyddi, ond na, dim son o gwbl am hyn!
Mae Morrisons yn hoffi meddwl eu bod yn cynnig gwasanaeth cwsmer o safon uchel, ond mae’r hysbyseb yma’n dangos nad ydynt yn malio dim am wasanaethu siaradwyr Cymraeg yn eu hiaith gyntaf.
Mae yna gyfeiriad ebost ar gyfer ymgeiswyr sydd a diddordeb, ac rwy’n bwriadu ysgrifennu atynt i godi’r pwyntiau uchod pan ga i bum munud sbar. Y cyfeiriad yw newstorejobs@morrisonsplc.co.uk
Dwi ddim yn disgwyl gwyrthiau gan Morrisons, ond mae croeso i chi ymuno gyda fi i drio!