Morrisons Caergybi

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Morrisons Caergybi

Postiogan Aelod Llipa » Gwe 25 Gor 2008 12:49 am

Roeddwn i’n ymweld a fy Nain yng Nghaernarfon heddiw pan wnes i sbio’n sydyn drwy’r Caernarfon & Denbigh Herald. Gwelais fod Morrisons yn hysbysebu swyddi ar gyfer eu siop newydd yng Nghaergybi. O ystyried fod Sir Fon yn weddol Gymreigaidd byddech chi’n disgwyl i’r cwmni wneud rhyw fath o ymdrech i recriwtio staff gyda sgiliau dwyieithog sylfaenol. Y ffordd orau o wneud hyn fyddai yn gyntaf gosod hysbyseb ddwyieithog yn y papur, ond na, dim gair o Gymraeg. Yn ail, byddech chi’n disgwyl gweld fod y gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol neu hyd yn oed yn ddymunol ar gyfer y swyddi, ond na, dim son o gwbl am hyn! :o
Mae Morrisons yn hoffi meddwl eu bod yn cynnig gwasanaeth cwsmer o safon uchel, ond mae’r hysbyseb yma’n dangos nad ydynt yn malio dim am wasanaethu siaradwyr Cymraeg yn eu hiaith gyntaf.
Mae yna gyfeiriad ebost ar gyfer ymgeiswyr sydd a diddordeb, ac rwy’n bwriadu ysgrifennu atynt i godi’r pwyntiau uchod pan ga i bum munud sbar. Y cyfeiriad yw newstorejobs@morrisonsplc.co.uk

Dwi ddim yn disgwyl gwyrthiau gan Morrisons, ond mae croeso i chi ymuno gyda fi i drio!
:)
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Re: Morrisons Caergybi

Postiogan jammyjames60 » Gwe 25 Gor 2008 9:49 am

Braf oedd gweld felly ar y naill llaw bod ALDI wrthi'n hysbysebu am staff newydd ym Mangor a'r hysbysebiadau enfawr yna'n uniaith Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Morrisons Caergybi

Postiogan huwwaters » Gwe 25 Gor 2008 2:59 pm

jammyjames60 a ddywedodd:Braf oedd gweld felly ar y naill llaw bod ALDI wrthi'n hysbysebu am staff newydd ym Mangor a'r hysbysebiadau enfawr yna'n uniaith Gymraeg.


Yr un fath yn Y Rhyl.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Morrisons Caergybi

Postiogan eusebio » Gwe 25 Gor 2008 3:21 pm

jammyjames60 a ddywedodd:Braf oedd gweld felly ar y naill llaw bod ALDI wrthi'n hysbysebu am staff newydd ym Mangor a'r hysbysebiadau enfawr yna'n uniaith Gymraeg.


Ond na ddyle ti fod yn cwyno nad oedd yr hysbyseb yn ddwyieithog? Alli di ddim ei chael hi'r ddwy ffordd.

</devilsadvocate>
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron