Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 29 Awst 2008 2:41 pm

Dwi'n siwr fod staff Golwg yn darllen maes-e yn rheolaidd. Os ti isho bod yn fwy uniongyrchol yna:
http://www.golwg.com/2/?page_id=6
Ynglyn a'r cwestiwn- tydio ddim yn un juicy iawn. (cafwyd cwestiwn da iawn ychydig o flynyddoedd yn ol- A ydych o blaid Steddfod Lerpwl 2007? :D ) Oddeutu mil wedi ymateb os y cofiaf yn iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 29 Awst 2008 3:18 pm

Clywed gyrrwr bys yng Ngymru (Gwyddel) yn siarad Cymraeg hefo ymdeithiwr :D
Cymraeg hefo acen Wyddelig. Neis iawn ar y glust.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 29 Awst 2008 4:02 pm

Gofyn (yn y Gymraeg!) am baned o goffi mewn caffi yn Y Bermo.
Y person yr ochr arall i'r cownter yn dweud "diolch".
Wel...positifrwydd yn Y Bermo :D
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan celt86 » Sul 31 Awst 2008 6:43 pm

Cymraeg yn y Bermo!!! Steady on nawr..."Yaw dawnt speak Wewsh in Barmouth Maite, its a loovlay cawstul tawn which is claws to Brwmi land. Yaw dawnt hear mwch of it here innit"
Rhithffurf defnyddiwr
celt86
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Llun 24 Rhag 2007 8:30 pm
Lleoliad: Cymru...Ta Solihull ydi o?

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 01 Medi 2008 2:17 pm

Ydi "innit" yn rhan o dafodiaith y Brymi?
"Ella i gael paned o goffi plis?" oedd fy union eiriau.
"What kind of coffee would you like love?"
"Just a normal one thanks"
"That's £1.10 please"
"Diolch yn fawr"
"Diolch".
Fesul gair...
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Hazel » Llun 01 Medi 2008 2:27 pm

Fe wnaeth hi'w gorau glas. :D
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 01 Medi 2008 2:35 pm

Ia. Dynes reit glen, chwarae teg. Coffi a coffee-tebyg iawn :D Hynny yw, hawdd deall ac adio 2 a 2 hefo'i gilydd.
Ni wn os ydych yn darllen Y Cymro. Ond fe ysgrifennodd cyn-golofnydd golofn ddifyr iawn yn y papur unwaith.
"Bermo o ddiawl" :D :lol:
Wna i ddim ymhelaethu :D
(Tydw i jesd ddim yn mynd i ofyn am rhywbeth cyffredin a normal fel paned o goffi yn Saesneg yng Ngwynedd. Dim ffiars o beryg!)
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Hazel » Llun 01 Medi 2008 3:09 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:(Tydw i jesd ddim yn mynd i ofyn am rhywbeth cyffredin a normal fel paned o goffi yn Saesneg yng Ngwynedd. Dim ffiars o beryg!)


Reit ymlaen.

Dw i'n darllen Y Cymro ond wnes i ddim darllen yr hanes yna. :-( Y Bermo yn yr India ydy o?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 01 Medi 2008 3:22 pm

Abermaw (Y Bermo ar lafar) yng Ngogledd-orllewin Cymru, Y Deyrnas Unedig, Ewrop, Hemisffer y Gogledd.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

Postiogan Hazel » Llun 01 Medi 2008 3:48 pm

Oh, Cantre'r Gwaelod? Dw i'n cofio'n awr. Dw i'n anghofio mai Abermaw yw Barmouth. Wedyn, Bae Bermo. Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron