Hunan Wasanaeth yn Tesco. Opsiwn Cymraeg ar gael
Iawn, efallai nad ydi pob gair ar y sgrin yn Gymraeg, ac efallai na cheir gair o Gymraeg ar y dderbynneb. Ond mae pob mymryn yn help
Tybiaf fod lefel defnydd yr opsiwn yn uffernol o isel yng Ngymru (tua 1.5%???). Ys dywed y Sais:
use it or lose it.
Ac os bydd digon yn ei ddefnyddio yna efallai y bydd mwy o eiriau Cymraeg yn ymddangos ar y sgrin- a derbynneb Cymraeg hefyd
Mmmm... meddyliwch am ddefnyddio'r opsiwn hefo'r llais awtomatig Cymraeg. Faint o gwsmeriaid eitha agos atoch sy'n mynd i glywed y llais Cymraeg? Plannu hedyn. Ymwybyddiaeth. Normaleiddio...