Tudalen 1 o 6

Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Llun 11 Awst 2008 3:14 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Faint o bobl oedd ar faes y Steddfod Dydd Iau? Oddeutu 27 mil? Y ffigwr uchaf ers i'r swyddogion ddechrau cyfrif a chadw cofnod? Fe glywais y ffigwr swyddogol ar Radio Cymru wsos dwutha, ond ni sgwennais y ffigwr i lawr (wedi bod yn gwglo am 5 munud yn trio cael hyd i'r ffigwr- dim lwc).
Ta waeth, a fyddai rhywun arall yn hoffi gyrru pwt bach o newyddion da? :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 3:12 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Golwg- Awst 14, tud. 26+27.
Hyrwyddo'r Gymraeg dros y ffin.
Mae cerddoriaeth Gymraeg y 1970au yn cael hwb annisgwyl mewn bar ym Manceinion.

Bar Dulcimer. Wrth gwrs, byddai Steddfod Lerpwl 07 wedi bod yn hwb amhrisiadwy i'r math yma o symud i fyny ger neu dri yr ochr "arall" i Glawdd Offa. O wel... :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 3:31 pm
gan huwwaters
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Golwg- Awst 14, tud. 26+27.
Hyrwyddo'r Gymraeg dros y ffin.
Mae cerddoriaeth Gymraeg y 1970au yn cael hwb annisgwyl mewn bar ym Manceinion.

Bar Dulcimer. Wrth gwrs, byddai Steddfod Lerpwl 07 wedi bod yn hwb amhrisiadwy i'r math yma o symud i fyny ger neu dri yr ochr "arall" i Glawdd Offa. O wel... :D


Be, yn y fath lefydd dwi di cael deutha fi i beidio siarad Cymraeg yn Lerpwl? :rolio: "Don't speak that language in front of me."

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 3:34 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
:rolio:
Tisho dechrau edefyn arall ta? "Newyddion drwg..."

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 4:02 pm
gan huwwaters
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd::rolio:
Tisho dechrau edefyn arall ta? "Newyddion drwg..."


Na, dwisio ti stopio'r nadu am Eisteddfod Lerpwl 2007. Mae Eisteddfod 2008 newydd fod. Praint mwy wyt ti am fynd ymlaen am y peth?

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 22 Awst 2008 4:08 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
A dwisho i ti feddwl am newyddion da parthed yr iaith a'r diwylliant er mwyn cyfoethogi'r edefyn yma. Ti eisioes wedi gyrru 2 neges a welai i ddim byd positif yn dy negeseuon hyd yn hyn. Gwgla neu meddylia am rwbath o dop dy ben.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 28 Awst 2008 9:21 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Rh Llew (BBC Cymru) yn Beijing: gofyn cwestiwn yn Gymraeg i Dave Davies (y nofiwr) mewn cynhadledd- a'r boi yma'n hapus iawn i ateb yn Gymraeg. Dwi'n siwr fod ambell i newyddiadurwr o Sais wedi codi ei aeliau :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 28 Awst 2008 4:41 pm
gan LLewMawr
os mi roeddwn i yn sêren chwaraeon bydde fe'n grêt siarad i'r newyddiadurwr yn Gymraeg.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 2:22 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
'Dwi di nofio milltir (wir yr!) blynyddoedd maith yn ol- a chael bathodyn am wneud :D
Hefyd wedi mentro i waelod pwll nofio i nol bricsan du :D
Ta waeth, fel mae eraill wedi son mewn edefyn arall- newyddion da unwaith eto:
http://www.dailypostcymraeg.co.uk

Hyd yn hyn, mae 83 wedi ateb pol piniwn Golwg:
http://www.golwg.com/2/
Tasa 'na fil+ wedi ateb yna byddai hyn yn galonogol iawn.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 2:35 pm
gan sian
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:
Hyd yn hyn, mae 83 wedi ateb pol piniwn Golwg:
http://www.golwg.com/2/
Tasa 'na fil+ wedi ateb yna byddai hyn yn galonogol iawn.


Hmm! mae'n gwestiwn od braidd ar gyfer pôl piniwn. Sgwn i pam gafodd e'i ddewis? Shwt dw i fod i wybod? Oes ots beth yw 'marn i am y pwnc? Od!
A pham dechrau blog ar 4 Awst a dim byd wedyn? Od iawn!
Wyddwn i ddim am y sesiynau holi ac ateb yn y Steddfod chwaith. Fuodd rhywun?