Sori i dresmasu ar beth sy'n edrych fel tudalen personol ond o'n i'n siarad Cymraeg 'da mhartner yn siop Orange ym Merthyr heddi gan drafod pa ffon i'w brynu a dyna'r ferch oedd yn gweini arnom yn troi i Gymraeg. Tro cyntaf iddi'i siarad am bedair mlynedd ers iddi adael yr ysgol meddai. Roedd ei Chymraeg yn dda (er na ddylai fod ots da fi am 'ny, Cymraeg yw Cymraeg a smo iaith i'n berffaith o lawer) ac roedd hi'n falch iawn i'w defnyddio. Mae pethau fel 'ny yn digwydd yn llawer amlach yn y dref erbyn hyn, sai'n gwybod pam. Ta' beth, hoffwn wasgaru pwt o lawenydd dros ddyfodol yr iaith Gymraeg yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym Merthyr
Dweud "diolch" wrth y llyfrgellydd yn llyfrgell Merthyr Tuds (sawl blwyddyn yn ol bellach), wrth i mi fenthyca llyfr... Dim yn disgwyl ymateb Cymraeg, ond dyma fo'n dweud: "O'r gogledd...?" Josgin- neidio ar fws yn Swydd Rhydychen tua 5 mlynedd yn ol. Finna (wrth gwrs) yn dechrau siarad Saesneg, a dyma'r gyrrwr yn troi i'r Gymraeg: boi o Ddyffryn Ogwen...
Prynu rhywbeth yn M&S yn ddiweddar. Y boi tu ol i'r cownter yn dweud y pris yn Gymraeg. Wel, mae hyn yn 'normal' e.e. ar faes y Brifwyl a mewn siopau llyfrau Cymraeg... Y Gymraeg yn cyrraedd y lefel nesaf