Tudalen 3 o 6

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 04 Medi 2008 6:50 pm
gan LLewMawr
dyna'r broblem gyda trefi ar lan y mor- mae twristiaid yn dod ac yn penderfynu aros. mae'r iaith yn cael ei stem-rolio allan o'r lle wedyn.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Llun 15 Medi 2008 1:33 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Tiwtor ar gwrs hyfforddi (boi o Fanceinion) yn dweud: Diolch.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Llun 22 Medi 2008 2:48 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Erthygl eitha difyr yn Golwg:
O Sydney i Ohio- trwy'r Gymraeg , Medi 18, 2008.
"Mae merch o Awstralia sydd a blog Cymraeg ar fin cynnig gwersi i ddysgu'r iaith yn yr UD..."

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 4:52 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hunan Wasanaeth yn Tesco. Opsiwn Cymraeg ar gael :D Iawn, efallai nad ydi pob gair ar y sgrin yn Gymraeg, ac efallai na cheir gair o Gymraeg ar y dderbynneb. Ond mae pob mymryn yn help :lol:

Tybiaf fod lefel defnydd yr opsiwn yn uffernol o isel yng Ngymru (tua 1.5%???). Ys dywed y Sais: use it or lose it.
Ac os bydd digon yn ei ddefnyddio yna efallai y bydd mwy o eiriau Cymraeg yn ymddangos ar y sgrin- a derbynneb Cymraeg hefyd :D

Mmmm... meddyliwch am ddefnyddio'r opsiwn hefo'r llais awtomatig Cymraeg. Faint o gwsmeriaid eitha agos atoch sy'n mynd i glywed y llais Cymraeg? Plannu hedyn. Ymwybyddiaeth. Normaleiddio...

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 4:58 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Prynu rhywbeth mewn siop gornel. Dweud diolch wrth y boi yr ochr arall i'r cownter (o dras Asiaidd). Dywedodd diolch yn ol. :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2008 4:56 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Gwefan y cylchgrawn Barn ar ei newydd wedd. Ond rhaid cofio y canlynol: momentwm clir a gweladwy a thargedau uchelgeisiol...

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 4:44 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Fideo Noson Lawen MG ar iwtiwb. Dros 14 mil o olygon!
http://uk.youtube.com/watch?v=-CsDuUh_iVE

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 4:27 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Sylwi ar hen wraig yn darllen y Daily Post Cymraeg ar fys yng Ngwynedd.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2008 5:50 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Cefais wefr ddoe- do, wir yr. Defnyddiais y peiriant hunan wasanaeth yn Tesco. Prynu £5 o gredyd ffon symudol- yn Gymraeg.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 12:00 am
gan crynwyr
Sori i dresmasu ar beth sy'n edrych fel tudalen personol ond o'n i'n siarad Cymraeg 'da mhartner yn siop Orange ym Merthyr heddi gan drafod pa ffon i'w brynu a dyna'r ferch oedd yn gweini arnom yn troi i Gymraeg. Tro cyntaf iddi'i siarad am bedair mlynedd ers iddi adael yr ysgol meddai. Roedd ei Chymraeg yn dda (er na ddylai fod ots da fi am 'ny, Cymraeg yw Cymraeg a smo iaith i'n berffaith o lawer) ac roedd hi'n falch iawn i'w defnyddio. Mae pethau fel 'ny yn digwydd yn llawer amlach yn y dref erbyn hyn, sai'n gwybod pam. Ta' beth, hoffwn wasgaru pwt o lawenydd dros ddyfodol yr iaith Gymraeg yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym Merthyr