Tudalen 4 o 6

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 07 Hyd 2008 4:58 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Prynu rhywbeth mewn siop gornel. Dweud diolch wrth y boi yr ochr arall i'r cownter (o dras Asiaidd). Dywedodd diolch yn ol. :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 09 Hyd 2008 4:56 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Gwefan y cylchgrawn Barn ar ei newydd wedd. Ond rhaid cofio y canlynol: momentwm clir a gweladwy a thargedau uchelgeisiol...

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 14 Hyd 2008 4:44 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Fideo Noson Lawen MG ar iwtiwb. Dros 14 mil o olygon!
http://uk.youtube.com/watch?v=-CsDuUh_iVE

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 23 Hyd 2008 4:27 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Sylwi ar hen wraig yn darllen y Daily Post Cymraeg ar fys yng Ngwynedd.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 27 Tach 2008 5:50 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Cefais wefr ddoe- do, wir yr. Defnyddiais y peiriant hunan wasanaeth yn Tesco. Prynu £5 o gredyd ffon symudol- yn Gymraeg.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 12:00 am
gan crynwyr
Sori i dresmasu ar beth sy'n edrych fel tudalen personol ond o'n i'n siarad Cymraeg 'da mhartner yn siop Orange ym Merthyr heddi gan drafod pa ffon i'w brynu a dyna'r ferch oedd yn gweini arnom yn troi i Gymraeg. Tro cyntaf iddi'i siarad am bedair mlynedd ers iddi adael yr ysgol meddai. Roedd ei Chymraeg yn dda (er na ddylai fod ots da fi am 'ny, Cymraeg yw Cymraeg a smo iaith i'n berffaith o lawer) ac roedd hi'n falch iawn i'w defnyddio. Mae pethau fel 'ny yn digwydd yn llawer amlach yn y dref erbyn hyn, sai'n gwybod pam. Ta' beth, hoffwn wasgaru pwt o lawenydd dros ddyfodol yr iaith Gymraeg yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym Merthyr

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 9:22 am
gan Josgin
Gofyn cwestiwn i yrrwr bws yng Nghaer , a chael ateb mewn acen Gymraeg mor gryf na wnes i ddim ei ddallt o !

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 11:49 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Dweud "diolch" wrth y llyfrgellydd yn llyfrgell Merthyr Tuds (sawl blwyddyn yn ol bellach), wrth i mi fenthyca llyfr...
Dim yn disgwyl ymateb Cymraeg, ond dyma fo'n dweud: "O'r gogledd...?"
Josgin- neidio ar fws yn Swydd Rhydychen tua 5 mlynedd yn ol. Finna (wrth gwrs) yn dechrau siarad Saesneg, a dyma'r gyrrwr yn troi i'r Gymraeg: boi o Ddyffryn Ogwen...

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ebr 2009 12:26 pm
gan Hogyn o Rachub
Ti'n teithio lot dwyt?

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 11:49 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Prynu rhywbeth yn M&S yn ddiweddar. Y boi tu ol i'r cownter yn dweud y pris yn Gymraeg.
Wel, mae hyn yn 'normal' e.e. ar faes y Brifwyl a mewn siopau llyfrau Cymraeg...
Y Gymraeg yn cyrraedd y lefel nesaf :D