Tudalen 5 o 6

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Sul 17 Mai 2009 3:23 pm
gan Josgin
Ochr arall y geiniog (Tydwi ddim yn gwybod sut i gychwyn edefyn newydd)
Sylwadau rhyw ddynes yn atodiad 'Home' y 'Sunday Times' heddiw am y Gymraeg (Tuag at y diwedd) .
Maent yn rhy faith i'w dyfynnu, ond yn llinach ffiaidd a bwriadol anwybodus Robinson, Clarkson , ayb.
Credaf y gall fod yn berthynas i Auberon, ac Evelyn Waugh .

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 09 Gor 2009 11:02 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Lle paned rhywle yn Eifionydd... Gofyn am baned o goffi, a dyma'r boi yr ochr arall i'r cownter yn dweud y pris yn Gymraeg :D

Siop bapur (hefyd yn gwerthu pethau eraill) unwaith eto- rhywle yn Eifionydd :D ... Trio prynu copi o Y Cymro- gweld fod y stand arbennig yn wag....Dywedodd dynes wrthyf eu bod wedi rhedeg allan o gopiau o Y Cymro...Bob un copi wedi ei werthu?? :D Prynhawn Gwener oedd hi! Mynd fel slecs?! Paratown am chwyldro achos ni yw Y Cymro :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Sul 12 Gor 2009 1:44 pm
gan celt86
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Lle paned rhywle yn Eifionydd... Gofyn am baned o goffi, a dyma'r boi yr ochr arall i'r cownter yn dweud y pris yn Gymraeg :D

Siop bapur (hefyd yn gwerthu pethau eraill) unwaith eto- rhywle yn Eifionydd :D ... Trio prynu copi o Y Cymro- gweld fod y stand arbennig yn wag....Dywedodd dynes wrthyf eu bod wedi rhedeg allan o gopiau o Y Cymro...Bob un copi wedi ei werthu?? :D Prynhawn Gwener oedd hi! Mynd fel slecs?! Paratown am chwyldro achos ni yw Y Cymro :D


Blydi hell!!!!!!!!!!! Rhywun yn siarad Cymraeg yn Eifionydd...Be nesaf??? :rolio:

Dwin dallt y storiau am bobl yn siarad Cymraeg yn Gaer a Merthyr...ond Eifionydd!!!????? So what!! Os mae di dod ir sefyllfa 'ma lle mae clywed rhywun yn siarad Cymraeg yn Eifionydd wedi dod yn big deal a prin, wel, mae di mynd yn tyd hi!!!

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 14 Gor 2009 6:21 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
celt86: dweud y pris yn Gymraeg. 'Dwi misho bod yn rhy gas, ond plis darllena fy neges yn iawn cyn i ti ymateb y tro nesa.

Prynu tocyn tren a darllen y canlynol ar y cefn:
Mae teithio'n amodol ar Amodau Cludo National Rail (NRCoC) a gweithredwyr eraill ble mae'r tocyn hwn yn ddilys. Gellir cael copi o'r NRCoC o unrhyw orsaf drenau cenedlaethol neu o http://www.nationalrail.co.uk

Nid y wybodaeth mwya difyr i mi ddarllen erioed yn Gymraeg :D Ond Cymraeg cywir. Cam bach arall ymlaen yn y broses o'i normaleiddio hi :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Maw 14 Gor 2009 8:23 pm
gan sian
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:celt86: dweud y pris yn Gymraeg. 'Dwi misho bod yn rhy gas, ond plis darllena fy neges yn iawn cyn i ti ymateb y tro nesa.

Hyd yn oed wedyn, dyw e ddim mor anghyffredin yn Llŷn ac Eifionydd.

Roedd y dyn oedd arfer cadw siop Trefor yn ddi-Gymraeg ond roedd e'n dweud y prisiau yn yr hen ffordd o gyfrif. "Dwy bunt a dwy geiniog ar bymtheg ar hugain os gwelwch yn dda".
:D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 20 Awst 2009 10:47 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Twll yn wal yr RBS. Defnyddio'r peiriant arian (maes parcio Tesco) neithiwr. Gweld fod yna opsiwn Cymraeg ar gael. Gwych :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 20 Awst 2009 7:24 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel dwnim ai da a chalonogol hyn, ond efallai fis yn ol on i yng Keith (Baile Cheith) yng Ng-Dd yr Alban, yn yr orsaf efo fy mab. Roedd tipyn o bryd i aros cyn i'r tren ddod ac roedd na ffon ymholiadau. Pan godasom ni'r receiver, cyflwynodd y ffon ddewis iaith - gan gynnwys y Gymraeg! Ond doedd na ddim Gaeleg i'w chael o gwbl.

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Iau 10 Medi 2009 12:22 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Euthum i'r gym yn ystod wythnos ein Prifwyl. Defnyddio peiriant seiclo crand hefo teli personol arno. Sbio ar S4C. Darlledu o'r Brifwyl. Troi'r lefel sain i'r uchafswm. Cenhadu :D

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwylliant

PostioPostiwyd: Sul 13 Medi 2009 10:29 am
gan Blewyn
Cymro Cymraeg arall wedi glanio yn Muscat. Mae'na bedwar ohona ni rwan. :-)

Re: Newyddion da a chalonogol parthed yr iaith a'r diwyllian

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 11:33 pm
gan tommybach
Pob tro rwy'n mynd i Gaerdydd dyddiau hyn rwy'n clywed pobl yn siarad Cymraeg! Gogs fel arfer ond Hwntws hefyd... fe wnaeth fy ffrind o Fryste dweud "Bloody hell I didn't realise so many normal young people speak Welsh... sounds like a cross between Scouse and Polish!"