Cyfieithydd Ar-Lein

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan xxglennxx » Mer 27 Awst 2008 4:25 pm

Heia pawb,

Ydach chi wedi sbio ar hynny eto?

Beth ydach chi'n meddwl am y peth? Cam i'n dyfodol ni?
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 27 Awst 2008 8:41 pm

Diddorol. Ond pam Cymraeg-Saesneg yn hytrach na, dyweder, Cymraeg-Sbaeneg?

Mae iaith yn beth cymhleth iawn, gyda "rheolau" sy'n newid yn dragywyddol. Hefyd, mae'n amhosibl i feistroli iaith heb ddeall ei chyd-destun. Hefyd, does na ddim dau berson sy'n siarad yr un iaith a'i gilydd (efallai efeilliaid, ond fel arfer mae'n wir). Faint o ddiwylliant yr ieithoedd fydd yn y peiriant cyfieithu?

Yn y pen draw, bydd yn bosibl i ddyfeisio peiriant cyfieithu rhesymol, ond bydd ei fasau data a'r rheolau amdanyn nhw a rhyngddyn nhw yn enfawr. Hefyd, bydd y fath beiriant yn ddeinamig, h.y. efo rheolau newidiadwy, ac yn cynnig amryw ddewisiadau i'r neb a'i defnyddia. I'r peiriannau sy ohonyn nhw heddiw, bydd yn edrych fel MS Word 2007 wedi'w gymharu a Notepad neu emacs (Unix).

Serch hynny, cawn ni weld sut bydd y feddalwedd hon yn perfformio cyn ei barnu'n ormod.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan Macsen » Mer 27 Awst 2008 9:37 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Diddorol. Ond pam Cymraeg-Saesneg yn hytrach na, dyweder, Cymraeg-Sbaeneg?

*chwilio am wenoglun priodol, methu ffeindio un*
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan LLewMawr » Iau 28 Awst 2008 4:38 pm

fe weles i gyfieithydd ar-lein o'r blaen, un uffernol o wael ydoedd.
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 29 Awst 2008 8:28 am

Rybish lol da i ddim ydi'r pethau ar-lein 'ma. Mae cyfieithiadau o bethau ar-lein yn iwsles yn ôl yr hyn dwi wedi'i weld, llawer gwell cael person i'w gwneud, a p'un bynnag, dwisho cadw'n swydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan Afal » Mer 10 Medi 2008 11:18 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Diddorol. Ond pam Cymraeg-Saesneg yn hytrach na, dyweder, Cymraeg-Sbaeneg?


Cymraeg-Saesneg oedd y data (a hefyd y profiad ieithyddol) oedd ganddynt ar gael. Doeddent ddim efo rhywyn a oedd yn gallu deall cymraeg a sbaeneg yn dda (er mae yna groeso i bobl helpu i wneud system cymraeg-sbaeneg :winc: ).
Rhithffurf defnyddiwr
Afal
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Iau 17 Ion 2008 5:04 pm

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 10 Medi 2008 11:30 am

Newydd rhoi ymgais ar gyfieithu darn newyddion o wefan BBC Cymru'r Byd heddiw:

BBC Cymru'r Byd a ddywedodd:Mae rheolwr Cymru, John Toshack yn edrych ymlaen at gael herio tîm Guus Hiddink, gŵr iddo olynu yn Real Madrid deng mlynedd yn ôl. Rwsia yw gwrthwynebwyr Cymru yn Moscow nos Fercher, tîm yr arweiniodd Hiddink i rownd gyn derfynol Ewro 2008 yn ystod yr haf. Wedi cyfnod fel rheolwr yr Iseldiroedd mae Hiddink wedi bod yn rheolwr De Corea ac Awstralia cyn ei benodiad i'w swydd bresennol ddwy flynedd yn ôl. "'Dwi'n adnabod Hiddink yn dda iawn gan i mi ei olynu yn Real Madrid 10 mlynedd ac yn edrych ymlaen at ei weld unwaith yn rhagor," meddai Toshack. "Mae ei ganlyniadau ar y lefel rhyngwladol wedi bod yn dda iawn." "Hon fydd gêm agoriadol Rwsia yn y grŵp a 'da ni'n gwybod eu bod yn dîm da. "Ond mi fydde nu eisiau perfformio'n dda a gwneud ein gorau i sicrhau canlyniad da"


:ofn:

www.cymraeg.org.uk a ddywedodd:Wales manager , John is *Toshack looking forward to get challenge team *Guus *Hiddink, man to him follow in *Real were Festered ten *mlynedd back. Russia Wales opponents are in *Moscow Wednesday night, team led *Hiddink to round before final *Ewro 2008 during the summer. After period like the manager *Iseldiroedd is *Hiddink after be in Right manager *Corea and *Awstralia before his appointment to its present job two *flynedd back. "'Am knowing *Hiddink good very with to me follow it in *Real 10 were Festered *mlynedd and looking forward to see him once in more," said *Toshack. "his outcomes Are on the international level after be good very." "This Russia opening game will be in the group and 'good we knowing their be in good team. "But not *fydde black want perform good and do our choirs to ensure good outcome"
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan donnek » Mer 10 Medi 2008 1:53 pm

Mae'n braf darllen y sylwadau i gyd. Un o aelodau'r tîm sy'n datblygu apertium-cy ydw i, felly:

@ Seonaidh

Dia duit, a Sheonaidh! Mi fyddai'n ddelfrydol cael rhywbeth fel y "universal translator" yn Star Trek (iontach sin!), ond bydd hi'n cymryd rhagor o amser i gyrraedd y nod yna :ofn: 'Mond cam cyntaf yw apertium-cy. Rydyn ni'n meddwl am gyfieithydd Cymraeg-Sbaeneg (gweler http://www.cymraeg.org.uk), ond mae'n haws weithio yn Saesneg yn gyntaf, oherwydd (fel mae Afal yn dweud) 'mond rhai o'r tîm sy'n rhugl yn Sbaeneg.

@ LlewMawr

InterTran, efallai? http://intertran.tranexp.com/Translate/result.shtml Mae rhestr o frawddegau ar http://xixona.dlsi.ua.es/~fran/cy.html, sy'n dangos bod apertium-cy yn rhoi canlyniadau gwell. Ond wrth gwrs, mae rhagor i'w wneud ... :)

@ Hogyn o Rachub

Dych chi'n iawn - am y dyfodol agos, ni fydd rhaglen awtomatig hanner cystal â pherson, felly peidiwch â phoeni am eich swydd! :D Ond efallai ffordd o adael i chi wneud mwy yn gyflymach ydyn nhw - e.e. "Mae'r gath yn yr ardd" -> (apertium-cy) -> "The cat is in the garden." Dyna frawddeg nad oes angen i chi dwtsiad. Felly, gallwch chi ganolbwyntio ar y brawddegau anodd, sy'n well ddefnydd o'ch amser.

@ Hedd
Diddorol. Dwi'n licio'r cyfieithiad o Real Madrid - "Real Festered" (< madru)! Dim yn berffaith - mae angen lot mwy o waith ar drefn y geiriau (mae'n swnio fel Master Yoda ar hyn o bryd). Ac ar y treigladau (gorau != corau). Dwi'n ffindio bod eitemau ar y wefan BBC yn anoddach na thestunau eraill, gan eu bod nhw'n wasgu llawer o gymalau i mewn i frawddeg.
donnek
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 12 Ion 2006 2:47 pm
Lleoliad: Llanfairpwll

Re: Cyfieithydd Ar-Lein

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 11 Medi 2008 2:40 pm

want perform good and do our choirs

Offeriaid catholig ydyn nhw yn sydyn, diddorol.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron