Rwy wedi bod yn ymwneud a YouGov nawr ers 2001, ac wedi llenwi amryw o holiaduron i fewn.
Ond heddiw bu i mi dderbyn neges wrthynt yn fy ngwahodd i fod yn aelod o banel YouGov Cymru fel cynllun ar y cyd a hwy, Spa (?), a BBC Wales/Cymru o'r enw WalesView. Wedi i mi dderbyn y cais a dechrau ar yr holiadur fe ymddangosodd yr opsiwn i mi wneud yr holiadur trwy gyfrwng y Gymraeg!
Er fod yna rhai 'glitches' rodd y cyfieithiad yn gywir.
Da iawn YouGov (er mae'n siwr fod yn rhaid iddyn nhw ei wneud yn ddwy-ieithog gan fod y BBC yn cael ei arianu gan arian cyhoeddus).
Rhywun arall wedi gweld yr YouGov Cymraeg yma?