25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 17 Medi 2008 1:48 pm

Delwedd

RALI FLYNYDDOL
Y Rhybudd Olaf!

2pm, Dydd Sadwrn Hydref 25ain 2008
Canolfan Morlan, Aberystwyth
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 17 Medi 2008 1:49 pm

Newydd dderbyn y wybodaeth yma gan Osian Jones, swyddog maes Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd.

RALI FLYNYDDOL CYMDEITHAS YR IAITH
Y Rhybudd Olaf !
2 pm Dydd Sadwrn Hydref 25 ain 2008
Canolfan Morlan Aberystwyth.

Bws Mini - Rhanbarth Gwynedd / Mon
11.30 JMJ Bangor
11.45 Maes Caernarfon
12.00 Sgwar Pen-y-Groes
12.30 Awstralia Porthmadog
2.00 Aberystwyth - Rali Flynyddol
4.00 Amser rhydd yn Aberystwyth
8.00 Gig PRS Cymdeithas yr Iaith - Y Cwps Aberystwyth
12.00 Bydd y bws yn gadael am y gogledd

Cost £10
Am chwaneg o wybodaeth cysylltwch a Osian - 01286 662908
gogledd@cymdeithas.org
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 25 Medi 2008 4:31 pm

Siaradwyr sydd wedi cadarnhau ar gyfer y Rali:

Gwion Lewis - Bargyfreithiwr sy'n arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus, hawliau dynol a chyfraith amgylchedd. Manylion ar wefan y Gymdeithas - Tudalen ar Landmark Chambers
Elin Haf Gruffydd Jones - Cyfarwyddwr Mercator Cyfryngau a Darlithydd yn adran Ffilm a Theledu Prifysgol Cymru Aberystwyth - Gwefan Prifysgol Aberystwyth - Gwefan Mercator
Hywel Griffiths - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, myfyriwr ymchwil mewn Daearyddiaeth ffisegol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. - Gwefan BBC - Gwefan Cymdeithas yr Iaith
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 29 Medi 2008 11:35 pm

My o wybodaeth am y penwythnos ar gael yn yr hysbys yma:

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan krustysnaks » Maw 30 Medi 2008 9:32 am

Dau beth: onid Australia yw enw'r dafarn ym Mhorthmadog, nid Awstralia?

Dyw hi ddim ychydig yn od galw rhywbeth blynyddol yn 'y rhybudd olaf' - mae'r rali'n digwydd bob blwyddyn, mae hi'n mynd i ddigwydd am rai blynyddoedd i ddod, felly os mai hwn yw'r 'rhybudd olaf', beth fydd enw rali'r flwyddyn nesa?

Rali Flynyddol: We Told You So? Rali Flynyddol: Nathon Ni Ofyn Yn Wirioneddol Neis y Tro Diwethaf, Ond Hwn Yw'r Rhybudd Olaf, Wir Yr? Rali Flynyddol: Reit, Chi Di Cael Eich Rhybudd Olaf, Nawr Mae Na Shit yn Mynd Lawr?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 30 Medi 2008 10:56 am

Helo Krusty.

Awstralia yw Australia yn Gymraeg, rhag ofn nad oeddet ti'n gwybod ;-)

Dwi'n siwr dy fod yn sylweddoli bod Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyhoeddi LCO ar yr iaith Gymraeg cyn diwedd y flwyddyn. Y Rali yma fydd ein rhybudd olaf ni cyn cyhoeddi'r LCO fod rhaid iddo gynnwys ymrwymiad i ddatganoli pwerau o San Steffan i'r Cynulliad a fydd yn galluogi'r Llywodraeth i basio Mesur Iaith a fydd yn gwneud y Gymraeg yn iaith Swyddogol, sefydlu comisiynydd, a rhoi hawliau i bobl Cymru ddefnyddio'r Gymraeg. Os na fydd y pwerau priodol yn cael eu datganoli (trw'r LCO yma) bydd sicrhau Mesur Iaith Cyflawn yn amhosib. Mae'r Gymdeithas yn rhoi 'Rhybudd Olaf' yn y cyd-destun yma felly.

Rali Genedlaethol Flynyddol
Dydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch
Canolfan Morlan Aberystwyth


    Statws Swyddogol
    Comisiynydd Iaith
    Hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd

Dyna yw'r tri pheth sydd yn gwbwl angenrheidiol mewn Mesur Iaith Cyflawn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi addo Mesur o'r fath i ni yn y ddogfen Cymru'n Un. A nawr daeth yn amser i ni bwyso'n derfynol am weld gwireddu'r addewid hon. Fe dorrodd y llywodraeth ei gair ar fater y Papur Dyddiol Cymraeg. Peidiwch a gadael iddi wneud hynny eto ar fater y Mesur Iaith.

Dewch i Rali Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas yr Iaith yng Nghanolfan Y Morlan, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch er mwyn dangos i'r llywodraeth mai hwn yw'r Rhybudd Olaf. Nid ydym am gael ein siomi y tro hwn. Dewch i'r rali i ddangos ein bod o ddifri am ddyfodol y Gymraeg ac nad ydym yn barod i ddioddef rhagor o oedi a gwamalu ar y pwnc pwysig hwn.

Siaradwyr yn y Rali

Gwion Lewis
Cyfreithiwr ac awdurdod rhyngwladol ar hawliau ieithyddol. Bu'n astudio'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r gyfraith. Ffrwyth yr ymchwil hwnnw yw ei gyfrol 'Hawl i'r Gymraeg', achosodd y fath gyffro pan gafodd ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Daeth rhai o gyfreithwyr blaenaf Cymru i'r lansiad hwnnw ac fe ganmolwyd y gyfrol gan neb llai na Gwilym Owen. Llyfr cwbwl anhepgor i unrhyw un sy'n ymddiddori yn frwydr dros ddyfodol y Gymraeg.

Elin Haf Gruffydd Jones
Cyfarwyddwr Mercator a darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi yn awdurdod a'r ieithoedd llai eu defnydd ac yn gyfarwydd iawn â'r sefyllfa ieithyddol yng Ngwlad y Basg, gwlad sydd wedi dangos y ffordd i ni yng Nghymru drwy basio Deddf Iaith yn ddiweddar sy'n ymestyn i'r Sector Breifat.

Hywel Griffiths
Hywel, fydd yn cadeirio'r rali. Ef hefyd yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac fe enillodd y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dewch i'r Rali yn Aberystwyth i fynnu fod Llywodraeth y Cynulliad yn cadw ei gair ac yn dangos i'r byd ei bod o ddifri am ddyfodol y Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan HuwJones » Maw 30 Medi 2008 12:48 pm

Da iawn CyIG am drefnu'r demo - a phoster reit dda hefyd.
Yn anffodus dwi'n methu mynd i Aber 24 Hydref.. ond dwi'n deall bod Osian a Steffan o flaen y llys cyn hir..
Oes eisiau criw i fyny draw i'r llys? neu a fydd y gwrandawiad nesaf jyst yn un o'r pethe na sy'n para 2 funud iddyn nhw ohirio am yr achos go iawn rhywbyrd arall?
Os eisiau cael criw wnai drio mynd - Oes na ddyddiad wedi cadarnhau eto?
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 30 Medi 2008 1:34 pm

HuwJones a ddywedodd:Da iawn CyIG am drefnu'r demo - a phoster reit dda hefyd.
Yn anffodus dwi'n methu mynd i Aber 24 Hydref.. ond dwi'n deall bod Osian a Steffan o flaen y llys cyn hir..
Oes eisiau criw i fyny draw i'r llys? neu a fydd y gwrandawiad nesaf jyst yn un o'r pethe na sy'n para 2 funud iddyn nhw ohirio am yr achos go iawn rhywbyrd arall?
Os eisiau cael criw wnai drio mynd - Oes na ddyddiad wedi cadarnhau eto?


Helo Huw. Dyma fanylion Achos Llys Steffan ac Osian oddi ar wefan y Gymdeithas. Hwn bydd yr achos go iawn, gan fod achos pledio eisoes wedi bod.

Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, PWLLHELI

Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 17 eg.
Amser: 9:00am
Lleoliad: Llys Ynadon Pwllheli
Tref: Pwllheli

Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Pwllheli ar y 17 eg o fis Hydref.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”, yn dilyn pentwr o lythyron cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.

Dewch yn llu i gefnogi'r ddau!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: 25/10/08, Rali 'Y Rhybudd Olaf!', 2pm, Aberystwyth

Postiogan HuwJones » Maw 30 Medi 2008 9:45 pm

Helo Hedd
Diolch am hwnna - wnai ddrio cael y diwrnod i ffwrdd i fynd i'w cefnogi ar y 17eg
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron