My o wybodaeth am y penwythnos ar gael yn yr hysbys yma:
Cymedrolwr: gronw
Rali Genedlaethol Flynyddol
Dydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch
Canolfan Morlan AberystwythStatws Swyddogol
Comisiynydd Iaith
Hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd
Dyna yw'r tri pheth sydd yn gwbwl angenrheidiol mewn Mesur Iaith Cyflawn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi addo Mesur o'r fath i ni yn y ddogfen Cymru'n Un. A nawr daeth yn amser i ni bwyso'n derfynol am weld gwireddu'r addewid hon. Fe dorrodd y llywodraeth ei gair ar fater y Papur Dyddiol Cymraeg. Peidiwch a gadael iddi wneud hynny eto ar fater y Mesur Iaith.
Dewch i Rali Genedlaethol Flynyddol Cymdeithas yr Iaith yng Nghanolfan Y Morlan, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch er mwyn dangos i'r llywodraeth mai hwn yw'r Rhybudd Olaf. Nid ydym am gael ein siomi y tro hwn. Dewch i'r rali i ddangos ein bod o ddifri am ddyfodol y Gymraeg ac nad ydym yn barod i ddioddef rhagor o oedi a gwamalu ar y pwnc pwysig hwn.
Siaradwyr yn y Rali
Gwion Lewis
Cyfreithiwr ac awdurdod rhyngwladol ar hawliau ieithyddol. Bu'n astudio'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r gyfraith. Ffrwyth yr ymchwil hwnnw yw ei gyfrol 'Hawl i'r Gymraeg', achosodd y fath gyffro pan gafodd ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Daeth rhai o gyfreithwyr blaenaf Cymru i'r lansiad hwnnw ac fe ganmolwyd y gyfrol gan neb llai na Gwilym Owen. Llyfr cwbwl anhepgor i unrhyw un sy'n ymddiddori yn frwydr dros ddyfodol y Gymraeg.
Elin Haf Gruffydd Jones
Cyfarwyddwr Mercator a darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi yn awdurdod a'r ieithoedd llai eu defnydd ac yn gyfarwydd iawn â'r sefyllfa ieithyddol yng Ngwlad y Basg, gwlad sydd wedi dangos y ffordd i ni yng Nghymru drwy basio Deddf Iaith yn ddiweddar sy'n ymestyn i'r Sector Breifat.
Hywel Griffiths
Hywel, fydd yn cadeirio'r rali. Ef hefyd yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac fe enillodd y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dewch i'r Rali yn Aberystwyth i fynnu fod Llywodraeth y Cynulliad yn cadw ei gair ac yn dangos i'r byd ei bod o ddifri am ddyfodol y Gymraeg.
HuwJones a ddywedodd:Da iawn CyIG am drefnu'r demo - a phoster reit dda hefyd.
Yn anffodus dwi'n methu mynd i Aber 24 Hydref.. ond dwi'n deall bod Osian a Steffan o flaen y llys cyn hir..
Oes eisiau criw i fyny draw i'r llys? neu a fydd y gwrandawiad nesaf jyst yn un o'r pethe na sy'n para 2 funud iddyn nhw ohirio am yr achos go iawn rhywbyrd arall?
Os eisiau cael criw wnai drio mynd - Oes na ddyddiad wedi cadarnhau eto?
Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, PWLLHELI
Dyddiad: Dydd Gwener Hydref 17 eg.
Amser: 9:00am
Lleoliad: Llys Ynadon Pwllheli
Tref: Pwllheli
Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Pwllheli ar y 17 eg o fis Hydref.
Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”, yn dilyn pentwr o lythyron cwyn i brif swyddfeydd y cwmniau yma.
Dewch yn llu i gefnogi'r ddau!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai